Bydd holl siopau ac ysgolion Cymru yn ailagor heddiw (Dydd Llun, Ebrill 12), a bydd rhai o’r cyfyngiadau teithio yn llacio hefyd.

Gall gwasanaethau cyswllt agos, er enghraifft salonau harddwch, ailagor, a bydd prifysgolion yn croesawu myfyrwyr yn ôl ar gyfer cyfuniad o ddysgu o bell a dysgu wyneb yn wyneb.

Yn ogystal, bydd modd ymweld â lleoliadau priodas drwy apwyntiad.

Er bod gan bobol hawl i deithio i mewn ac allan o Gymru o heddiw ymlaen, nid yw’r rheolau yn caniatáu i bobol fynd i unman heb law am weddill y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, ac Iwerddon, heb esgus rhesymol.

Mae Mark Drakeford eisoes wedi cyhoeddi y bydd rhannau o’r amserlen ar gyfer llacio’r cyfyngiadau yn digwydd yn gynharach na’r disgwyl, gan ddweud fod y sefyllfa iechyd cyhoeddus wedi gwella, a’r rhaglen frechu yn golygu bod posib gwneud newidiadau yn gynt.

Yn unol â’r cynllun newydd, bydd gweithgareddau tu allan i hyd at 30 o bobol yn cael digwydd o Ebrill 26 ymlaen, yn hytrach na Mai 3.

Bydd 30 o bobol yn cael mynychu derbyniadau priodas ar yr un dyddiad.

Wythnos wedyn, ar Fai 3, bydd canolfannau hamdden, campfeydd, a chyfleusterau ffitrwydd yn cael ailagor. Bydd hyn yn cynnwys hyfforddiant un-i-un, ond nid dosbarthiadau ffitrwydd.

Bydd rheol sy’n caniatáu i gartrefi ffurfio aelwyd estynedig yn dod i rym ar Fai 3, a bydd y ddau gartref yn cael cyfarfod dan do.

O Ebrill 26 ymlaen, gallai atyniadau awyr agored, megis ffeiriau a pharciau thema, ailagor.

Mae disgwyl i fwytai, caffis, a thafarndai gael cynnig gwasanaeth tu allan o Ebrill 26, hefyd.

Mae’r holl ddyddiadau yn “amodol ar amodau iechyd y cyhoedd yn parhau’n ffafriol”, a bydden nhw’n cael eu cadarnhau yn ystod yr adolygiad nesaf ar Ebrill 22, yn ôl Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Mark Drakeford fod cyflymu’r amserlen “ond yn bosibl yn sgil ymdrechion pawb i warchod eu hunain a’u hanwyliaid”.

Brechu: y diweddaraf

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yr wythnos ddiwethaf y byddai wedi cynnig dos cyntaf o frechlyn Covid-19 i bawb yn y naw grŵp blaenoriaeth uchaf erbyn ddoe (dydd Sul 11 Ebrill).

Mae tua 90% o bobl 50 oed a throsodd yng Nghymru yn debygol o fod wedi cael eu pigiad cyntaf, yn ôl y ffigyrau diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae hyn yn cynnwys 87% o bobol 55 i 59 oed a 79% o bobol 50 i 54 oed.

Mae’r ffigurau diweddaraf hyn ar gyfer brechlynnau a roddwyd hyd at 10pm ar nos Sadwrn 10 Ebrill.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford wrth sesiwn friffio i’r wasg ddydd Iau 8 Ebrill: “Erbyn dydd Sul byddwn wedi cynnig brechlyn i bawb yn y naw grŵp blaenoriaeth cyntaf – dyna bawb dros 50 oed, pob oedolyn â chyflwr iechyd sylfaenol a llawer iawn o ofalwyr di-dâl.

“Erbyn dydd Sul, bydd o leiaf 75% o bobol ym mhob grŵp blaenoriaeth wedi cael brechiad cyntaf.”

Mae tua 83% o bobl 16 i 64 oed mewn grwpiau risg clinigol wedi cael eu dos cyntaf, ynghyd â 92% o’r rhai rhwng 16 a 69 oed y nodwyd eu bod yn agored iawn i niwed yn glinigol.

Campfa

Llacio rheolau Coronafeirws: pobl Cymru yn cael ffurfio aelwydydd estynedig a mynd i’r gampfa wythnos yn gynt na’r disgwyl

Nifer yr achosion wedi gostwng o 37 person am bob 100,000 o’r boblogaeth yr wythnos ddiwethaf i lai na 21 yr wythnos hon