Bydd pobl Cymru’n cael ffurfio aelwydydd estynedig a mynd i’r gampfa wythnos yn gynt na’r disgwyl yn dilyn cyhoeddiad gan y prif weinidog.

Bydd dwy aelwyd yn cael cwrdd o dan do o ddydd Llun, Mai 3 wrth i nifer yr achosion newydd o Covid barhau i ddisgyn.

Fe fydd campfeydd a chanolfannau hamdden yn cael ailagor i unigolion neu hyfforddiant un-am-un o’r dyddiad hwnnw hefyd.

Yn y cyhoeddiad annisgwyl a wnaed yn hwyr neithiwr (nos Iau, Ebrill 8) , dywedodd Mark Drakeford y gall gweithgareddau awyr agored sydd wedi’u trefnu, a phriodasau awyr agored ddigwydd o Ebrill 26 yn hytrach na Mai 3.

Daw’r cyhoeddiad ar ôl i bolisi’r Llywodraeth ar gau campfeydd gael ei feirniadu’r hallt. Roedd perchnogion campfeydd wedi bwriadu trefnu protestiadau.

Meddai Mark Drakeford: “Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaethom amlinellu ein rhaglen i agor yr economi a llacio’r cyfyngiadau rydym wedi bod yn byw gyda nhw cyhyd, fel rhan o’n dull gofalus a graddol sydd â’r nod o gadw pawb yn ddiogel.

“Yr wythnos hon, oherwydd y gwelliannau rydym yn parhau i’w gweld, rydym yn gallu rhoi rhai o’n cynlluniau ar waith yn gynt.”

Mae nifer yr achosion wedi gostwng o 37 person am bob 100,000 o’r boblogaeth yr wythnos ddiwethaf i lai na 21 yr wythnos hon.

Mae nifer yr achosion mewn ysbytai yn 26% yn is na dydd Iau diwethaf – y nifer isaf ers Medi 22, 2020.

Felly, beth fydd y rheolau newydd yn eu golygu?

Dydd Llun, Ebrill 12:

  • Bydd plant yn dychwelyd i’r ysgol ar gyfer addysg wyneb yn wyneb. Bydd pob dysgwr ôl-16 yn dychwelyd i ganolfannau addysg bellach a hyfforddiant, a bydd prifysgolion yn gallu agor ar gyfer cyfuniad o ddysgu wyneb yn wyneb/ar-lein i bob myfyriwr;
  • Bydd siopau yn ailagor.
  • Bydd y cyfyngiadau ar deithio i mewn ac allan o Gymru yn cael eu codi. Fodd bynnag, mae’r cyfyngiadau ar deithio i wledydd y tu allan i’r Ardal Deithio Gyffredin heb esgus rhesymol yn parhau. Mae’r Ardal Deithio Gyffredin yn golygu’r Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw a Gweriniaeth Iwerddon;
  • Bydd hawl i fynd i weld lleoliadau priodas, drwy apwyntiad.
  • Bydd y cyfyngiadau ar ganfasio gwleidyddol yn cael eu codi, ond bydd gofyn i ganfaswyr wneud hynny mewn modd diogel.
  • Bydd rhagor o lacio ar y cyfyngiadau yn ystod yr wythnosau nesaf, cyhyd ag y bo’r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn parhau’n ffafriol. Bydd hyn yn cael ei gadarnhau yn yr adolygiad teirwythnosol nesaf o’r rheoliadau coronafeirws ar Ebrill 22.

Dydd Iau, Ebrill 22:

Adolygiad teirwythnosol nesaf o’r rheoliadau coronafeirws ar Ebrill 22.

Dydd Llun, Ebrill 26

  • Byddai atyniadau awyr agored, gan gynnwys ffeiriau a pharciau thema, yn cael ailagor.
  • Bydd lletygarwch awyr agored yn cael ailddechrau, gan gynnwys caffis, tafarndai a bwytai. Bydd lletygarwch o dan do yn parhau i fod ar gau, heblaw ar gyfer bwyd i’w gludo oddi yno.
  • Gellir cynnal gweithgareddau awyr agored wedi’u trefnu ar gyfer hyd at 30 o bobl (y dyddiad gwreiddiol oedd dydd Llun, Mai 3).
  • Gellir cynnal derbyniadau priodasau yn yr awyr agored, wedi’u cyfyngu i 30 o bobl (y dyddiad gwreiddiol oedd dydd Llun, Mai 3).

Dydd Llun, Mai 3 (dydd Llun, Mai 10 yn wreiddiol):

  • Bydd modd ffurfio aelwydydd estynedig unwaith eto, a fydd yn galluogi dwy aelwyd i gwrdd a chael cyswllt o dan do.
  • Caiff campfeydd, canolfannau hamdden a chyfleusterau ffitrwydd ailagor. Bydd hyn yn cynnwys hyfforddiant unigol neu un-i-un ond nid dosbarthiadau ymarfer corff.  Yn ogystal Fel y nodwyd yn y Cynllun Rheoli’r Coronafeirws diwygiedig, mae nifer fach o gynlluniau peilot ar gyfer digwyddiadau awyr agored i rhwng 200 a 1,000 o bobl yn cael eu cynllunio hefyd.