Mae dynes wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A470 ger Dolgellau brynhawn ddoe (dydd Iau).

Galwyd y gwasanaethau brys i wrthdrawiad rhwng dau gerbyd – lori ac un o gerbydau y Gwasanaeth Ambiwlans – ger Talrafon, rhwng Dolgellau a Llanelltyd am 1.12yp

Cafodd tri o bobl eu trin a’u cludo i’r ysbyty.

Cafodd gyrrwr y cerbyd ambiwlans ei gludo mewn hofrennydd i Ysbyty Gwynedd, Bangor gydag anafiadau difrifol.

Cafodd gyrrwr y lori ei gludo i Ysbyty Bronglais, Aberystwyth gydag anaf i’w goes.

Ail-agor

Bu farw dynes, oedd yn glaf ac yn teithio yn yr ambiwlans, ar ei ffordd i’r ysbyty.

Nid yw’r heddlu wedi cyhoeddi ei henw hyd yma.

Mae ei theulu a’r crwner wedi cael gwybod.

Roedd ffordd yr A470 rhwng Dolgellau a Llanelltyd ar gau ddoe wrth i Uned Ymchwilio Damweiniau yr heddlu wneud eu gwaith ond ac mae’r ffordd bellach wedi ail-agor.

Dywedodd Sarjant Raymond Williams o Uned Blismona Ffyrdd Heddlu Gogledd Cymru: “Rydym yn estyn ein cydymdeimlad dwysaf i deulu’r ddynes yn y cyfnod anodd yma.

“Rydym yn apelio i unrhyw un sydd â gwybodaeth, neu a oedd yn teithio ar hyd yr A470 ac sydd â lluniau dash-cam i gysylltu gyda ni ar unwaith.

Dylai unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu all fod o gymorth i’r ymchwiliad, gysylltu gyda’r heddlu ar 101 gan ddyfynnu’r cyfeirnod Z047820.