Bydd Covid-19 yn rhoi pwysau ariannol ar y gwasanaeth iechyd am flynyddoedd i ddod.

Bydd llywodraeth nesaf Cymru yn wynebu penderfyniadau anodd wedi’r pandemig, a chynlluniau gwariant Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn ôl adroddiad.

Mae’r adroddiad gan Ganolfan Lywodraethiant Cymru, Prifysgol Caerdydd, yn dweud y bydd bwlch sylweddol rhwng y cyllid fydd yn deillio o wariant iechyd Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r pwysau cyllidol fydd yn wynebu’r GIG yng Nghymru.

Gallai’r diffyg cyllidol hwn fod cymaint â £740 miliwn rhwng 2022-23, a bydd y pwysau cyllidol yn cynnwys costau delio gyda chanlyniadau Covid-19.

Yn ôl yr adroddiad, gallai’r diffyg fod yn £360 miliwn ar gyfartaledd rhwng 2023-24 a 2025-26.

Heneiddio

Yn ogystal ag asesu gwariant ar y GIG cyn y pandemig, a’r galw cynyddol am wasanaethau wrth i’r boblogaeth heneiddio, mae’r adroddiad yn dadansoddi’r pwysau ariannol fydd ar y llywodraeth nesaf.

Mae’r adroddiad yn ystyried y ffactorau canlynol:

  • Costau uniongyrchol Covid-19 dros y blynyddoedd nesaf, gan gynnwys costau’r rhaglen Profi, Olrhain a Diogelu a’r posibilrwydd o ail-frechiadau yn y dyfodol.
  • Colledion o ran cynhyrchiant y GIG
  • Costau delio gyda’r cynnydd mewn rhestrau aros
  • Pwysau newydd ar y GIG, megis ar wasanaethau iechyd meddwl.

Mae’r adroddiad hefyd yn manylu ar sut y dyrannodd Llywodraeth Cymru £1.4 biliwn ychwanegol i’r GIG yn 2020-21 er mewn ymateb i Covid-19.

Hyd yn hyn, mae £440 miliwn wedi’i ddyrannu i’r GIG ar gyfer costau Covid-19 yn ystod chwe mis cyntaf 2021-22. Ond, bydd costau uniongyrchol ac anuniongyrchol y pandemig yn parhau ymhell tu hwnt i hyn, yn ôl Canolfan Lywodraethiant Cymru.

Rhagolygon yn “rhai go llwm”

“Er bod Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i ddelio â phwysau ariannol y GIG eleni, yn wyneb y pwysau gwariant sylweddol sy’n debyg o ddod i’r amlwg ar ôl y pandemig, mae’r rhagolygon ar gyfer cyllideb Cymru yn rhai go llwm,” meddai Guto Ifan, ymchwilydd o raglen ymchwil Dadansoddi Cyllid Cymru.

“Nid yw cynlluniau gwariant Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cynnwys unrhyw gyllid ar gyfer delio â Covid-19 ar ôl 2021-22, ac maent yn tybio bydd gwariant ar y GIG yn Lloegr yn dychwelyd i’r cynlluniau gwariant a osodwyd cyn Covid-19 y flwyddyn nesaf.

“Byddai pasio ‘mlaen y cyllid sy’n deillio o wariant iechyd yn Lloegr ddim yn ddigon i ddelio â phwysau cyllido’r GIG yng Nghymru ar ben ei hun. Ond byddai hyn yn oed hynny’n dal i olygu toriadau ar gyfer rhan fwyaf o feysydd eraill y gyllideb yn 2022-23.

“Bydd angen i lywodraeth nesaf Cymru bwyso a mesur yr angen i ddelio â’r pwysau ychwanegol hyn a’r heriau ariannol enfawr mewn rhannau eraill o’r gyllideb. Dylid hefyd ystyried y posibilrwydd o wneud defnydd o’r pwerau dros drethi datganoledig.”