Un achos o geulad gwaed prin ar ôl derbyn brechlyn AstraZeneca sydd wedi bod,yn ôl pennaeth y rhaglen frechu yng Nghymru.

Dywedodd Dr Richard Roberts o Iechyd Cyhoeddus Cymru wrth raglen Dros Ginio BBC Radio Cymru bod yna “un achos cadarn” a dim marwolaethau.

Dyw Llywodraeth Cymru “ddim yn rhagweld oedi” i’r rhaglen frechu yng Nghymru yn sgil cyhoeddiadau gan ddau gorff iechyd.

Brynhawn ddydd Mercher daeth cyhoeddiadau ynghylch brechu gan MHRA (yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd) a’r JCVI (Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu).

Dim tystiolaeth

Mae yna bryderon bod brechlyn AstraZeneca yn achosi i’r gwaed geulo, ond bellach mae MHRA wedi dweud nad oes tystiolaeth o hynny.

Er hynny, mae’r corff yn dweud bod y cysylltiad yn mynd yn fwy cadarn. Yn sgil y cyhoeddiadau mi fydd pobol dan 30 yn y Deyrnas Unedig yn derbyn brechlynnau eraill.

Bellach mae Llywodraeth Cymru wedi dweud y byddan nhw’n “ystyried manylion y cyhoeddiadau”, ac wedi pwysleisio bod y brechlyn AstraZeneca yn saff.

“Mae brechlyn Prifysgol Rhydychen-AstraZeneca yn ddiogel ac yn effeithiol o hyd ac mae eisoes wedi achub miloedd o fywydau,” meddai llefarydd ar ran y Llywodraeth.

“Mae Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a GIG Cymru yn gweithio gydag asiantaethau eraill i fonitro diogelwch y brechlynnau’n barhaus a byddant yn parhau i gadw llygad gofalus ar y mater hwn.

“Yng Nghymru, diogelwch pobl a ddaw gyntaf bob amser ac ni fyddwn yn defnyddio brechlynnau ond pan fo hynny’n ddiogel a phan fo’r manteision yn drech na’r risgiau.”

Canfyddiadau’r MHRA

Wnaeth adolygiad gan MHRA ddarganfod:

  • 79 achos o geulo gwaed, a bod 19 o’r rheiny wedi marw, ar ôl derbyn brechiad
  • Roedd dau draean o’r achosion o geulo gwaed ymhlicth menywod
  • Roedd y pobol a fu farw rhwng 18 a 79 oed – roedd tri dan 30

Cynhaliwyd yr adolygiad wedi i 20 miliwn dos gael eu rhoi, sy’n golygu bod y risg o farw yn un mewn miliwn (a’r risg o geulo gwaed yn bedwar mewn miliwn).