Cynllun yw maniffesto Llafur Cymru i “adeiladu Cymru wyrddach, gryfach a thecach”, yn ôl arweinydd y blaid a Phrif Weinidog Cymru.

Wrth lansio’r ddogfen yn Llaneurgain, Sir y Fflint, dywedodd Mark Drakeford bod gweledigaeth y blaid wedi’i “gwreiddio mewn ymddiriedaeth, ac yn llawn uchelgais”.

Ac mi rodd gryn sylw i’r pandemig sydd ohoni, a’r angen am “ddyfodol sy’n decach, gryfach, a wyrddach.”

“Heddiw rydym yn lansio maniffesto sydd yn amlinellu cynlluniau Llafur Cymru i barhau i fuddsoddi yn y dyfodol,” meddai.

“Dyma gynllun nid yn unig i’n helpu i adfer yn sgil coronafeirws, ond i wneud rhywbeth cymaint yn fwy – i adeiladu Cymru yfory.

“Cynllun i adeiladu Cymru wyrddach, gryfach a thecach – y Gymru rydym am ei throsglwyddo i genedlaethau’r dyfodol. Dyma faniffesto i symud Cymru ymlaen.”

Wrth drafod y pandemig mi alwodd ar y cyhoedd “i’n caniatáu ni i gwblhau’r gwaith pwysig” o ddelio â’r coronafeirws.

Negeseuon cudd?

Yn ystod ei araith mi ddaeth awgrym o ymosodiad tuag at Blaid Cymru.

Yn siarad â BBC Radio Wales yn ddiweddar mae Mark Drakeford wedi beirniadu maniffesto’r Blaid (a ddatgelwyd ddydd Mercher) gan ddadlau ei fod yn ffantasiol.

“Mae pob un o’n haddewidion yn yr etholiad yma wedi bod yn destun craffu ariannol,” meddai yn yr araith brynhawn heddiw.

“Os dywedwn ni y gwnawn ni rywbeth, rydym yn gwybod bod gennym y pwerau i wneud iddyn nhw ddigwydd.

“Pan rydym yn dweud y byddwn yn gwneud rhywbeth, rydym yn gwneud hynny gan wybod bod gennym y pwerau i wneud i hynny ddigwydd.

“Pan rydym yn dweud ein bod yn mynd i fuddsoddi rhagor o gyllid, rydym yn dweud hynny gan wybod ein bod wedi dod o hyd i ffordd gredadwy o wneud hynny.”

Tua diwedd yr araith dywedodd y canlynol yn Gymraeg: “Os ydych chi eisiau Llywodraeth Llafur Cymru – mae rhaid i chi bleidleisio Llafur Cymru.”

Mi ellir dehongli hyn fel neges taw’r unig ffordd o sicrhau Llywodraeth Llafur Cymru – nid clymblaid â Phlaid Cymru – yw i bleidleisio tros y blaid goch.

Mae’r posibilrwydd o glymblaid rhwng Llafur a Phlaid Cymru wedi bod yn dipyn o destun trafod dros yr wythnosau diwethaf.

Beth sydd yn y maniffesto?

Yn sylfaen i’r maniffesto mae chwe phrif addewid: Adferiad ar ôl Covid, Gwarant i Bobl Ifanc, Bargen Deg ar gyfer Gofal, Gwlad Wyrddach, Cymunedau Mwy Diogel, Swyddi Newydd i Gymru.

Wele grynodeb o’r addewidion yma islaw.

  • Adferiad ar ôl Covid: ysgol feddygol newydd ar gyfer Gogledd Cymru a chyflogi 1,800 o staff tiwtora ychwanegol er mwyn helpu disgyblion sy’n “cael eu gadael ar ôl”
  • Gwarant i Bobl Ifanc: cynnig gwaith, addysg neu hyfforddiant i bawb dan 25 oed; 125,000 o brentisiaethau newydd
  • Bargen Deg ar gyfer Gofal: cyflwyno ‘Cyflog Byw Gwirioneddol’ i weithwyr gofal (£9.50 yr awr)
  • Gwlad Wyrddach: dileu mwy o blastigau untro (single use plastics) a chreu Coedwig Genedlaethol i Gymru
  • Cymunedau Mwy Diogel: ariannu 500 o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu
  • Swyddi Newydd i Gymru: “creu miloedd o swyddi” sydd yn “addas ar gyfer y dyfodol” a darparu 20,000 o gartrefi cymdeithasol carbon isel newydd i’w rhentu