Bydd Clwb Pêl-droed Abertawe yn ymatal rhag defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol am wythnos fel safiad yn erbyn sylwadau hiliol a sarhaus ar-lein.

Dros y penwythnos dywedodd y clwb eu bod “unwaith eto’n tristáu ac yn dychryn” wedi i negeseuon hiliol gael eu danfon y tro hwn at yr ymosodwr Jamal Lowe.

Lowe oedd y trydydd chwaraewr o’r clwb i dderbyn negeseuon o’r fath o fewn saith wythnos. Y ddau arall oedd Ben Cabango a Yan Dhanda.

Mae’r clwb wedi danfon llythyr ar brif weithredwyr Twitter a Facebook, Jack Dorsey a Mark Zuckerberg yn galw am weithredu llymach yn erbyn camdriniaeth ar eu platfformau.

Dywedodd y clwb bod y penderfyniad o ganlyniad i drafodaethau rhwng uwch swyddogion staff, chwaraewyr a rheolwyr.

Bydd pawb sydd ynghlwm â’r clwb yn ymatal rhag cyhoeddi unrhyw beth ar Facebook, Twitter, Instagram, LinkedIn, Snapchat, YouTube a TikTok am saith diwrnod o 5 o’r gloch heddiw (dydd Iau).

Mae hynny’n cynnwys:

  • holl aelodau’r tîm cyntaf;
  • chwaraewyr proffesiynol dan-23 a dan-19 academi’r clwb;
  • tîm merched Abertawe;
  • Ymddiriedolaeth Gymunedol y clwb;
  • uwch swyddogion; a
  • sianeli swyddogol yr Elyrch ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae rheolwr y clwb, Steve Cooper, wedi egluro’r rhesymau pam eu bod fel clwb wedi cymeryd y penderfyniad pendant yma yn erbyn hiliaeth.

Ond bydd y clwb yn parhau i gyhoeddi’r newyddion diweddaraf ar ei wefan swyddogol nes daw’r boicot i ben am 5 o’r gloch ddydd Iau, Ebrill 15.

Fe fydd yr Elyrch yn chwarae ddwywaith yn ystod y boicot saith diwrnod – yn erbyn Millwall yn Stadiwm Liberty ddydd Sadwrn, a gêm oddi cartref yn Sheffield Wednesday nos Fawrth.

Yn y llythyr at Jack Dorsey a Mark Zuckerberg, mae prif weithredwr Abertawe, Julian Winter yn galw ar gwmnïau’r cyfryngau cymdeithasol i gyflwyno “plismona llymach a chosbau i’r rhai sy’n euog o’r gamdriniaeth ofnadwy a llwfr sydd, yn anffodus, wedi dod yn llawer rhy gyffredin”.

Ychwanegodd: “Rhaid i rywbeth newid yn fuan, a byddwn yn croesawu unrhyw gefnogaeth gan glybiau eraill, chwaraewyr, cefnogwyr a swyddogion gweithredol wrth i ni oll barhau i gydweithio yn y frwydr arbennig yma.”

Dywedodd capten Abertawe, Matt Grimes: “Mae tri aelod o’n carfan wedi eu sarhau’n hiliol yn yr wythnosau diwethaf, ac fel carfan a chlwb, roedden ni eisiau gwneud y safiad yma.”