Mae meddyg teulu wedi dweud ei bod wedi “dychryn” wrth weld “nifer sylweddol” o weithwyr siop Tesco Caergybi yn gwisgo fisyrnau, yn hytrach na masgiau.

Yn ôl Rebecca Payne, mae’n “siomedig” gweld nad yw gweithwyr yn gwisgo masgiau.

Ar Twitter, mae’r meddyg teulu wedi galw ar Gyngor Ynys Môn a Tesco i fynd i’r afael â’r sefyllfa.

“Wedi dychryn o weld nifer sylweddol o weithwyr Tesco mewn fisyrnau, ac heb fasgiau,” meddai Rebecca Payne.

“Mae Covid-19 yn lledaenu yn yr aer, ac nid yw’r gweithwyr yn cael eu hamddiffyn.”

“Cefais fy mrawychu”

“Es i i Tesco yng Nghaergybi heddiw, ac roeddwn i wedi bod yno unwaith yn y flwyddyn ddiwethaf, felly mae yna gymaint o amser wedi pasio ers i mi fod yno,” meddai Rebecca Payne wrth golwg360.

“Ond, rydw i’n gweithio ar Ynysoedd Erch bob wyth wythnos, ac wedi bod yn Tesco mewn llefydd eraill yn y Deyrnas Unedig.

Dr Rebecca Payne

“Roedd yn brofiad cwbl wahanol ar Ynysoedd Erch. Roedd pawb yn gwisgo masgiau, yr unig bobol nad oedd yn gwisgo rhai oedd menywod hŷn gyda’u plant, ac roeddech chi’n amau eu bod nhw gyda rheswm dros beidio â gwisgo masg.

“Roedd yr holl staff yn Ynysoedd Erch yn gwisgo masgiau, a’r hyn wnaeth fy synnu, yn enwedig wrth ystyried bod Caergybi yn hotspot Covid yn ddiweddar, oedd bod nifer sylweddol o’r gweithwyr yn gwisgo fisyrnau – sydd ddim yn eich amddiffyn rhag y feirws o gwbl,” eglurodd.

“Roedd rhai pobol eraill tu ôl i sgriniau plastig, ac i’n gwybodaeth ni am y feirws ddatblygu, mae’n amlwg nad yw sgriniau plastig yn gwneud llawer i’n hamddiffyn.

“Roedd gan y bobol tu ôl i’r sgriniau fisyrnau ymlaen, neu roedd eu trwynau’n sticio allan o’u masgiau.

“Cefais fy mrawychu, oherwydd rydym ni’n gwybod fod marwolaethau Covid-19 ar eu huchaf ymhlith gweithwyr siopau.

“Mae’n bosib bod rhai pobol gyda rhesymau i beidio â gwisgo nhw, ond â dweud y gwir dylid gwneud asesiad iechyd unigol i weld a ddylai’r person yna fod yn gweithio mewn siop yn gwasanaethu cwsmeriaid mewn hotspot Covid yn ystod y pandemig!” pwysleisiodd.

“Cael y pethau bach yn gywir”

“Roeddwn i mewn sioc. Y peth yw, mae’r mesurau i’n gwarchod yn dod mewn sawl haen,” esboniodd Rebecca Payne.

“Mae rhywbeth fel gwisgo masg, rhywbeth y gall pawb ei wneud bron, yn weddol hawdd o gymharu â pheidio gweld teulu a ffrindiau am fisoedd, er ei fod yn boen, ac mae ein sbectols yn stemio fyny.

“Petai pawb yn gallu cael y pethau bach yn gywir, fel gwisgo masg, yna rydym ni’n rhoi ein hunain mewn gwell sefyllfa er mwyn brwydro’r feirws.

“Os nad ydym ni’n gallu gwneud y pethau sylfaenol, yna rydw i’n poeni am sut y byddwn ni’n ymdopi yn ystod y don nesaf.”

Roedd Rebecca Payne am bwysleisio mai ei sylwadau hi sydd yma, ac nad yw hi’n cynrychioli’r GIG yng Nghymru, na ei chyflogwyr ar Ynys Erch.

“Dyma fy marn bersonol fel meddyg teulu oedd yn digwydd bod yn Tesco, ac a gafodd ei synnu i’r fath raddau fel na fydd yn dychwelyd!”

Trwynau

Wrth gyfeirio at Gyngor Ynys Môn, dywedodd ei bod hi’n “synnu eu bod nhw’n caniatáu i hyn barhau.

“Ac nid dim ond y fisyrnau, nid oedd masgiau llawer o’r gweithwyr yn gorchuddio eu trwynau.”

Dyma’r tro cyntaf i Rebecca Payne fod mewn archfarchnad yng Nghymru ers naw mis, gan ei bod hi’n feddyg teulu ar Ynysoedd Erch hefyd.

Ar Twitter, dywedodd fod y profiad yn “hollol wahanol” yn Tesco ar Ynysoedd Erch, a bod “100% o’r staff yn gwisgo masgiau, a bron a bod pob cwsmer. Yr unig eithriadau oedd pobol hen iawn gyda pherthnasau iau.”

Dros yr wythnosau diwethaf, roedd cyfradd achosion newydd Covid-19 yng Nghaergybi ac Ynys Cybi yn llawer uwch na’r cyfartaledd ar gyfer gweddill Cymru.

Ers agor safle brofi gymunedol yng Nghaergybi ar Fawrth 21, mae’r niferoedd bellach yn gostwng, er eu bod yn parhau i fod yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol.

“Rydym ni’n dilyn canllawiau’r Llywodraeth yn ein siopau er mwyn sicrhau bod ein holl gydweithwyr yn gwisgo masgiau, oni bai eu bod nhw methu â gwneud hynny am resymau meddygol neu ddiogelwch,” meddai llefarydd ar ran Tesco wrth golwg360.

“Rydym yn parhau i weithio gyda’r holl archfarchnadoedd i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r rheolau a byddwn yn cysylltu â Tesco ynglŷn â’r sefyllfa benodol yma,” meddai Cyngor Sir Ynys Môn wrth golwg360.

“Fodd bynnag, rhaid cymryd mewn i ystyriaeth bod rhai pobol wedi’u heithrio rhag gwisgo masgiau hwyneb.”

Daw hyn wrth i fideo newydd gael ei rhyddhau yn Gymraeg yn esbonio sut mae Covid-19 yn lledaenu yn yr aer.

Dwylo, wyneb, pellter, awyr iach

Mae’r fideo wedi’i chreu gan Trisha Greenhalgh, ei chyfieithu gan Dr Eilir Hughes, a’i hanimeiddio gan Vicki Martin.

Esbonia’r fideo pam nad yw fisyrnau plastig yn gwneud digon i amddiffyn pobol rhag dal Covid-19.

Pwysleisia Dr Eilir Hughes fod rhaid canolbwyntio ar “ddwylo, wyneb, pellter, awyr iach” er mwyn atal lledaeniad Covid-19, ac mae’r fideo yn egluro pam ei bod hi’n saffach cyfarfod yn yr awyr agored.

Yn yr awyr agored mae’r aerosolau’n cael eu chwythu i ffwrdd, yn hytrach na chasglu yn yr aer.

Wrth siarad gyda golwg360 llynedd, dywedodd Dr Eilir Hughes fod Llywodraeth Cymru wedi cydnabod bod y risg o ledaenu Covid-19 yn gostwng 70% wrth sicrhau bod digon o awyr iach mewn ystafell.

Ychwanegodd fod rhaid “gwneud gwaith i godi ymwybyddiaeth o’r camau hyn sy’n gostwng y risg”.