Mae profion cymunedol ar Ynys Cybi yn rhoi canlyniadau calonogol, ac yn awgrymu bod nifer yr achosion o Covid-19 yn gostwng yn yr ardal.

Er hynny, mae arbenigwyr iechyd yn nodi bod parhau i brofi trigolion a gweithwyr yn bwysig, ynghyd â gweithredu ar fesurau eraill er mwyn sicrhau bod y niferoedd yn gostwng.

Rai wythnosau’n ôl, roedd nifer yr achosion newydd yng Nghaergybi ac Ynys Cybi sawl gwaith yn uwch na’r cyfartaledd ledled Cymru.

Mae’r niferoedd wedi gostwng ers hynny, ond maen nhw’n parhau i fod yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol.

Ers lansio’r rhaglen brofi gymunedol yno ar Fawrth 21, mae 40 o achosion Covid-19 wedi’u cadarnhau a bu’n rhaid i 154 o bobol hunanynysu gan eu bod nhw’n gysylltiadau agos.

Mae 3,600 o brofion LFD wedi’u cynnal ymhlith disgyblion uwchradd a’u swigod teuluol, a 1,800 o brofion PCR wedi’u cynnal yn dilyn ymweliad o ddrws i ddrws yn yr ardaloedd a oedd wedi’u heffeithio fwyaf.

Ynghyd â hynny, mae 800 o bobol wedi mynychu’r ganolfan brofi ar gyfer pobol oedd yn dangos symptomau Covid-19, a 350 o bobol wedi mynychu’r ganolfan brofi gymunedol newydd ar gyfer y rhai nad oedd yn dangos symptomau.

Mae disgwyl i’r ganolfan brofi gymunedol yng Nghanolfan Hamdden Caergybi aros ar agor am “ychydig wythnosau”, er mwyn rhoi tawelwch meddwl i bawb sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardal.

‘Rhaid i ni barhau i fod mor wyliadwrus â phosibl’

“Dim ond ychydig wythnosau yn ôl, roedd y sefyllfa yn Ynys Cybi yn bryderus iawn,” meddai Annwen Morgan, prif weithredwr Cyngor Sir Ynys Môn.

“Fel partneriaid fe wnaethom ymateb yn gyflym ac er lles y cymunedau lleol a’r cyhoedd a hynny er mwyn amddiffyn iechyd y cyhoedd.

“Wrth gwrs, mae’n rhaid i ni barhau i fod mor wyliadwrus â phosibl a chadw at y canllawiau cenedlaethol er mwyn amddiffyn ein hunain, ein teuluoedd, ein ffrindiau a’n cymunedau.”

‘Calonogol’

Yn ôl Dr Chris Johnson, Ymgynghorydd Gwarchod Iechyd gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae’r ffigurau diweddara’n “galonogol”.

“Er y gyfradd uchel o’r Coronafeirws yn Ynys Cybi i ddechrau, mae’r canlyniadau hyd yma yn galonogol a gallwn fod yn dawel ein meddwl nad yw’r feirws wedi lledaenu yn y gymuned heb i ni ei ddarganfod,” meddai.

“Mae profi trigolion a gweithwyr heb symptomau, adnabod achosion positif ac yna eu cael i hunanynysu yn parhau i fod yn hanfodol er mwyn gallu trechu’r feirws.

“Rydym yn disgwyl y bydd y ganolfan brofi gymunedol yng Nghanolfan Hamdden Caergybi yn parhau i fod ar agor am ychydig wythnosau eto er mwyn rhoi tawelwch meddwl i bawb sy’n byw ac yn gweithio yn yr ardal.”

Profi unigolion heb symptomau ‘mor bwysig’

“Rydym yn gwybod fod hyd at draean o’r rhai sy’n profi’n bositif am y Coronafeirws yn dangos dim symptomau o gwbl ac y gallant ei ledaenu heb wybod. Dyna pam fod profi unigolion heb symptomau mor bwysig,” ategodd Teresa Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd Cyhoeddus, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.

“Mae’r gallu i brofi, sydd wedi’i gyflawni mewn cyfnod mor fyr o amser gan y Tîm Rheoli Digwyddiad, wedi bod yn anhygoel a hoffwn ddiolch i gymunedau Caergybi ac Ynys Cybi am dderbyn y cynllun profi yn ystod cyfnod mor heriol.”

“Mae’r holl drigolion ac ymwelwyr yn cael eu hannog i chwarae eu rhan er mwyn diogelu Ynys Môn a hynny drwy ddilyn y canllawiau hollbwysig – cadw at reolau pellter cymdeithasol, gwisgo gorchudd wyneb pan fydd angen a pheidio â chyfarfod pobl o dan do.”

Covid Caergybi: Profion i bawb fel ymateb i’r cynnydd mewn achosion

Sefyllfa ar Ynys Gybi yn parhau’n “ddifrifol iawn”