Mae canolfan brofi gymunedol newydd yn agor heddiw (Mawrth, 25) ar gyfer trigolion a gweithwyr Ynys Gybi.

Dyma ddatblygiad diweddaraf rhaglen brofi gymunedol gynhwysfawr yr ardal gychwynnodd yn gynharach yr wythnos hon.

Daw hynny mewn ymateb i gyfraddau uchel o achosion o’r feirws yng Nghaergybi ac Ynys Gybi, sydd sawl gwaith yn uwch na’r cyfartaledd cenedlaethol.

Yn sgil y sefyllfa “difrifol iawn” anogir holl weithwyr a thrigolion yr ardal i gymryd prawf Covid-19, os ydynt yn dangos symptomau neu beidio.

Mae’r ganolfan newydd wedi’i lleoli yng Nghanolfan Hamdden Caergybi ac i’w ddefnyddio gan unigolion nad yw’n dangos symptomau yn unig.

“Gam hanfodol”

Mewn ymateb i’r datblygiad diweddaraf yn yr ymdrech i leihau cyfraddau Covid-19 yr ardal, dywedodd arweinydd Cyngor Môn, y Cynghorydd Llinos Medi: “Mae profion torfol cymunedol yn gam hanfodol i ganfod cymaint â phosib o achosion positif lle nad yw pobl yn sylweddoli eu bod yn heintus, ac atal y firws rhag lledaenu ymhellach.

“Mae’n hanfodol bod pawb sy’n byw neu’n gweithio ar Ynys Gybi yn cael prawf ac mae’n bwysicach fyth yn awr bod pob un ohonom yn cadw at y rheolau sy’n helpu i ddiogelu ein teulu, ein ffrindiau a’r gymuned.”

Ychwanegodd, “Hoffwn ddiolch i bobl Caergybi ac Ynys Gybi. Bydd eich cefnogaeth barhaus yn cadw ein cymunedau’n ddiogel.”

Dywedodd Teresa Owen, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr:

“Bydd y ganolfan brofi gymunedol ar gyfer trigolion Ynys Gybi yn ei gwneud hi’n haws ac yn gynt i bobl sydd yn byw a gweithio yn yr ardal leol, ac sydd heb symptomau Covid-19, dderbyn prawf.”

“Drwy adnabod y bobl sydd yn bositif gyda Covid-19 a’u cynorthwyo nhw a’u teuluoedd i hunan-ynysu yn syth, gallwn helpu ddod a chyfradd yr haint i lawr.”

Trefniadau’r ganolfan brofi gymunedol

Nid oes angen gwneud apwyntiad i fynychu’r ganolfan brofi newydd a bydd modd i drigolion dderbyn eu canlyniad o fewn hanner awr.

Bydd y ganolfan ar agor rhwng 12:00 a 19:00 heddiw (Mawrth, 25), fodd bynnag, wedi hynny bydd yr oriau agor fel a ganlyn:

Dydd Gwener – 11:00-19.00

Dydd Sadwrn – 10:00-16.30

Dydd Sul – 10:00-16.30

Dydd Llun i Ddydd Iau – 11:00-19:00

Mae modd canfod fwy o wybodaeth fan hyn.

 

Covid Caergybi: Profion i bawb fel ymateb i’r cynnydd mewn achosion

Sefyllfa ar Ynys Gybi yn parhau’n “ddifrifol iawn”