Mae disgwyl i arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd drafod ffyrdd o wella cyflenwadau a dosbarthiad o’r brechlynnau Covid ar draws y 27 gwlad sy’n aelodau o’r undeb.

Fe fydd y Comisiwn Ewropeaidd yn gofyn i arweinwyr heddiw (Dydd Iau, Mawrth 25) i gefnogi cynlluniau ar gyfer rheoleiddio allforion o’r brechlyn, a allai effeithio’r cyflenwadau sy’n dod i’r Deyrnas Unedig.

Mae’r Prif Weinidog Boris Johnson eisoes wedi rhybuddio ynglŷn â chyflwyno “blocâd”.

Daw’r cyfarfod gydag arweinwyr yr Undeb Ewropeaidd wrth i drydedd don o achosion o’r coronafeirws effeithio nifer o wledydd yn Ewrop.

Mae disgwyl i Arlywydd yr Unol Daleithiau Joe Biden ymuno yn y trafodaethau rhithwir i drafod y berthynas rhwng yr UE a’r wlad.

Mae ymgyrch frechu’r UE wedi bod yn arafach na’r Deyrnas Unedig ac mae’r Comisiwn Ewropeaidd wedi rhoi’r bai ar y cwmnïau fferyllol, yn bennaf AstraZeneca, am beidio cyflenwi digon o’r brechlyn fel yr addawyd.

Mae ’na anghydweld ymhlith arweinwyr yr UE ynglŷn â chynlluniau i gyfyngu ar allforion o’r brechlyn y tu allan i’r bloc, a fyddai’n ceisio hybu cyflenwadau o fewn yr UE.

Ond mae’r UE a’r DU wedi dweud eu bod nhw eisiau creu sefyllfa lle mae’r brechlyn ar gael i bawb.