Bydd papur £50 newydd gyda llun o’r arloeswr cyfrifiadurol Alan Turing arno yn cael ei gyflwyno ym mis Mehefin, yn ôl Banc Lloegr.
O Fehefin 23 ymlaen bydd yr holl bapurau ar gael mewn polymer.
Mae gwaith Alan Turing, On Computable Numbers, yn cael ei ystyried fel man cychwyn y syniad y tu ôl i beirianneg cyfrifiaduron.
Er hynny, mae Alan Turing yn fwyaf adnabyddus am ei waith yn datrys y côd Enigma yn ystod yr Ail Ryfel Byd.
Mae’n debyg fod ei waith wedi cwtogi hyd y rhyfel o ddwy flynedd, ac wedi llwyddo i achub miliynau o fywydau.
Bydd y papur polymer newydd, fel y papur £20, yn cynnwys dwy ffenest a ffoil dau-liw, a fydd yn ei gwneud yn anodd i’w ffugio, yn ôl y Banc.
Fel y papurau £10 a £20 newydd, bydd y papur £50 yn cynnwys elfen gyffyrddadwy i helpu pobol sydd â phroblemau gyda’u golwg.
Bydd pobol dal yn gallu defnyddio’r hen bapurau £50, ac yn ôl y Banc bydden nhw’n rhoi rhybudd o chwe mis cyn atal ei ddefnydd.
“Dathlu ei lwyddiannau”
“Mae peth o ysbryd cenedl yn ei harian, ac mae’n briodol i ni ystyried a dathlu pobol ar ein papurau,” meddai Andrew Bailey, rheolwr y Banc.
“Felly, rwyf wrth fy modd bod y papur £50 newydd am ddangos un o wyddonwyr pwysicaf Brydain.
“Wrth ei osod ar y papur £50 polymer newydd, rydym yn dathlu ei lwyddiannau, a’r gwerthoedd y mae’n eu cynrychioli.”
“Pwynt hanfodol yn ein hanes”
Mae Banc Lloegr wedi cydweithio â Phencadlys Cyfathrebu Llywodraeth y Deyrnas Unedig i greu “pos anoddaf” yr asiantaeth, sy’n seiliedig ar y papur £50 Alan Turing.
“Mae ymddangosiad Alan Turing ar y papur £50 yn bwynt hanfodol yn ein hanes,” meddai Jeremy Fleming, Cyfarwyddwr Pencadlys Cyfathrebu Llywodraeth y Deyrnas Unedig.
“Yn ogystal â dathlu ei ddawn wyddonol a wnaeth gwtogi’r rhyfel a dylanwadau ar y dechnoleg rydym ni’n ei defnyddio heddiw, mae’n cadarnhau ei statws fel un o ffigurau LHDT+ mwyaf eiconig y byd.
“Cafodd Turing ei glodfori am ei athrylith, a’i erlyn am fod yn hoyw. Mae’n atgoffa ni o bwysigrwydd cofleidio pob agwedd ar amrywiaeth, ac yn ein hatgoffa o’r gwaith sydd angen ei wneud i ddod yn hollgynhwysol.”