Mae mecanwaith y Senedd yn cael ei defnyddio i hyrwyddo annibyniaeth.

Dyna farn Charlie Evans, ymgeisydd y Ceidwadwyr yn etholaeth Dwyfor Meirionnydd yn etholiad y Senedd ym mis Mai.

Mae sawl un o ymgeiswyr y Torïaid eleni yn cefnogi diddymu’r sefydliad, ond mae’r ymgeisydd yng Ngwynedd yn awyddus i bellhau ei hun o’r garfan yna. Er hynny, mae ganddo ofidion.

“Fy unig bryder yw bod y Senedd, dros y blynyddoedd diwethaf, wedi cael ei defnyddio gan yr ymwahanwyr (separatists) i bwshio achos annibyniaeth,” meddai.

“Dyna fy mhryder gyda’r trefniant presennol. Fodd bynnag, dydw i ddim yn credu mewn diddymu’r Senedd. Dw i’n credu y dylai parhau i fod.

“Ond dw i hefyd yn credu y dylwn gael pŵer lleol (localism) pellach hefyd – datganoli pŵer i awdurdodau lleol.

“Felly o ran y cwestiwn penodol yma, dw i ddim yn cefnogi [diddymu], ond mae yna bryderon go iawn bod mecanwaith y sefydliad yn cael ei ddefnyddio i hyrwyddo ymwahaniaeth (separatism).”

Ym mis Ionawr daeth i’r amlwg bod tri ymgeisydd yng Nghanol De Cymru yn gwrthwynebu’r Senedd.

Andrew RT Davies yw pedwerydd ymgeisydd y rhanbarth, ac yn siarad gyda Golwg pwysleisiodd nad oedd diddymu yn un o bolisïau ei blaid.

Bargen â Phlaid Diddymu?

Fore heddiw mae WalesOnline yn adrodd bod y Ceidwadwyr Cymreig yn gwrthod dryllio’r posibilrwydd o gydweithio â Phlaid Diddymu’r Cynulliad.

Tybed a yw Charlie Evans yn medru dychmygu ei blaid yn cydweithio’r â’r blaid honno drannoeth yr etholiad?

“Dim bargeinion,” meddai. “Dyna fy safiad i.

Yn ôl arolygon barn rydym yn agos iawn i fod yn ail blaid fwyaf yn y Senedd. Ac felly ein strategaeth, mae’n debyg, fyddai i ffurfio llywodraeth leiafrifol.

“Os oes yna faterion penodol lle bydd pleidiau eraill – megis Plaid, Diddymu, neu bwy bynnag arall sydd yn y Senedd – eisiau ein cefnogi wrth, er enghraifft, gwaredu’r rheoliadau NVZ (nitrate vulnerable zone), dw i’n siŵr y bydden ni’n croesawu hynny.

“Ond bydd dim pacts, fydd dim bargeinion etholiad. Os mai ni fydd y blaid fwyaf byddwn yn bendant eisiau ffurfio llywodraeth leiafrifol gydag Andrew RT Davies yn Brif Weinidog.”

Pwy yw Charlie Evans?

Mae Charlie Evans yn 27 oed, mae’n dod o Gaerfyrddin, ac mae’n byw yn Aberystwyth. Rheolwr Siop yw e’ i gwmni Marks & Spencer.

Mae’n Ddirprwy Gadeirydd ar gangen ‘Canolbarth a Gorllewin Cymru’ y Torïaid.

Ymgeiswyr Dwyfor Meirionnydd

Mae golwg360 wedi cysylltu â phob ymgeisydd yn Nwyfor Meirionnydd. Rhoddwyd sawl cynnig i Robert Glyn Daniels ond ni dderbyniwyd ymateb.

Mi fydd y wefan hefyd yn rhoi sylw i ymgeiswyr mewn etholaethau penodol eraill cyn yr etholiad.