Mae tafarnwyr wedi beirniadu awgrym Boris Johnson mai nhw fydd yn gyfrifol am benderfynu os ydyn nhw am roi mynediad i gwsmeriaid sydd wedi cael eu brechu rhag y coronafeirws yn unig.
Mae nifer o dafarnwyr wedi dweud bod y syniad yn “anweithredol” ac y gallai achosi gwrthdaro rhwng staff a chwsmeriaid.
Daw hyn ar ôl i fanylion pellach ddod i’r fei sy’n awgrymu y gallai tafarndai wirio tystysgrifau iechyd eu cwsmeriaid, fel rhan o gynlluniau sy’n cael eu hystyried gan y Llywodraeth i’r defnydd posib o dystysgrifau o’r fath.
Er nad oes penderfyniad wedi cael ei wneud, mae ’na adroddiadau y bydd tafarndai yn cael sgrapio rheolau ymbellhau os yw tystysgrifau cwsmeriaid yn cael eu gwirio wrth y drws. Fe fyddai hyn yn caniatáu iddyn nhw weithredu mewn modd mwy proffidiol, yn ol gweinidogion.
Fe fyddai’r tafarndai hynny sydd ddim eisiau gwirio tystysgrifau yn cael ail-agor ond yn gorfod cadw at reolau ymbellhau.
Dywedodd y Prif Weinidog ddoe (Mawrth 24) mai “mater i dafarnwyr unigol” fyddai penderfynu os oes angen i’w cwsmeriaid gael “tystysgrif brechu Covid”. Ond mae nifer o dafarnwyr wedi beirniadu’r syniad.
Mae’r gweinidog yn y Cabinet Michael Gove yn adolygu’r posibilrwydd o gyflwyno tystysgrifau coronafeirws fel rhan o’r cynlluniau i lacio’r cyfyngiadau yn Lloegr.
Fe allai’r tystysgrifau hefyd nodi os ydy rhywun wedi cael prawf Covid negyddol yn ddiweddar.