Mae Cymdeithas yr Iaith wedi ysgrifennu at arweinydd Cyngor Sir Ceredigion, Ellen ap Gwynn, yn galw arni i gadw at ei haddewid i weinyddu’n bennaf drwy gyfrwng y Gymraeg.
Deng mlynedd yn ôl i heddiw, (Mawrth 25 2011), llofnododd y Cynghorydd Ellen ap Gwynn gerdyn addewid oedd yn nodi:
“Yr wyf i, sydd yn arweinydd grwp Plaid Cymru yng Ngheredigion, yn ymrwymo i gefnogi’r egwyddor o wneud y Gymraeg yn iaith swyddogol gweinyddiaeth fewnol Cyngor Cereidigion.
“Fe fyddaf yn trefnu mor fuan â phosibl cyfarfod o grŵp y Blaid ar draws y Cyngor er mwyn sefydlu’r egwyddor hon fel polisi’r grŵp.”
Ym mis Medi llynedd, cynhaliodd Cymdeithas yr Iaith gyfarfod gydag Arweinydd y Cyngor, er mwyn pwyso arni i weithredu.
Ond yn ôl llefarydd ar ran y gymdeithas, nid yw’r mudiad wedi clywed am unrhyw gamau gweithredu pellach gan y Cyngor ers hynny.
“Geiriau gwag”
Mae’r llythyr gan Gymdeithas yr Iaith a gyhoeddwyd heddiw (Mawrth, 25) yn erfyn ar arweinydd y Cyngor i gadw at ei gair ac i osod amserlen gyraeddadwy i weithredu.
Maent hefyd yn tynnu ar enghreifftiau cadarnhaol o sefydliadau cyhoeddus eraill sydd wedi mabwysiadu cynllun iaith o’r fath. Dywedodd y llythyr:
“Ers degawdau mae Cyngor Gwynedd a’r Llyfrgell Genedlaethol wedi bod yn gweithio drwy’r Gymraeg yn unig, a hynny wedi cryfhau sgiliau iaith cannoedd ar filoedd o bobl dros y blynyddoedd. Mae llawer o bobl yn siarad Cymraeg oherwydd bod polisïau wedi caniatáu i ddysgwyr ddod yn siaradwyr wirioneddol hyderus, trwy gael eu trochi yn y Gymraeg yn eu gwaith bob dydd. Rydyn ni eto i weld yr un polisi ar waith yng Nghyngor Ceredigion. Bob dydd felly, mae defnydd y Gymraeg yn is nag y byddai petai chi wedi cadw at eich ymrwymiad.
“Gan i chi arwyddo addewid i sicrhau bod y cyngor yn dilyn yr un polisi â nhw mae’n sefyll i reswm eich bod yn cydnabod pwysigrwydd sefydliadau sy’n gweithio drwy’r Gymraeg ond mae’n ddrwg gennym adrodd, ers i chi wneud eich ymrwymiad yn 2011, mai prin iawn fu’r cynnydd ar yr agenda pwysig hwn, felly gofynnwn i chi osod dyddiad pan fydd y cyngor yn gweithio’n bennaf drwy’r Gymraeg a chreu amserlen a chamau gweithredu er mwyn cyrraedd y nod hwnnw. Nid proses dros nos fyddai symud i weinyddu’n bennaf drwy’r Gymraeg, wrth reswm, ond byddai gosod dyddiad cyraeddadwy ac amserlen yn dangos nad geiriau gwag oedd eich ymrwymiad. Byddai hefyd yn rhoi nod clir i anelu ato, gan sicrhau fod y Gymraeg yn flaenoriaeth i holl waith y cyngor.”
“Cyfrifoldeb arbennig i arwain y ffordd”
Yn ôl Cadeirydd rhanbarth Ceredigion Cymdeithas yr Iaith, Jeff Smith; “mae gofodau lle mae’r Gymraeg yn brif gyfrwng cyfathrebu yn un o’r mesurau allweddol ar gyfer cynyddu defnydd yr iaith.
“Mae gweithleoedd lle mae’r Gymraeg yn unig neu yn brif iaith gwaith yn rhan o hynny, ac mae gan y cyngor, fel un o gyflogwyr mwyaf ein sir gyfrifoldeb arbennig i arwain y ffordd yn hynny o beth.
“Ond yn anffodus, nid yw’n ymddangos fod y cyngor yn cymryd y cyfrifoldeb hwn o ddifrif, hyd yn oed ddeng mlynedd ers yr addewid,” meddai.
“Oherwydd hyn, rydyn ni wedi ysgrifennu at Cyng. Ellen ap Gwynn yn ei hatgoffa o’i haddewid ac yn ei hannog i sicrhau fod y cyngor yn rhoi cynllun mewn lle er mwyn gwireddu’i haddewid.”
“Ddeng mlynedd ers i Ellen ap Gwynn ymrwymo i sicrhau bod Cyngor Ceredigion yn gwneud ei holl waith mewnol yn Gymraeg, rydyn ni’n galw arni i gadw at ei gair a gweithredu trwy osod dyddiad ac anelu at weinyddu’n bennaf Gymraeg erbyn y dyddiad hwnnw.”