Mae Aelodau o’r Senedd wedi pleidleisio tros lymhau’r broses o ffurfio grwpiau.

Dan y drefn bresennol mae modd i dri AoS ffurfio grŵp yn y Senedd os ydyn nhw’n rhoi gwybod i’r Llywydd eu bod am wneud hynny.

Mae’r rheol wedi bod yn destun cryn drafodaeth, yn bennaf am eu bod wedi galluogi i gyn-aelodau UKIP ffurfio dau grŵp.

Plaid Brexit oedd un o’r grwpiau yma – plaid nad yw erioed wedi ennill sedd yn y Senedd. ‘Grŵp y Gynghrair Annibynnol tros Ddiwygio’ yw’r llall.

Mae gan grwpiau statws uwch yn ystod sesiynau’r Senedd.

Dan reolau newydd, er mwyn ffurfio grŵp bydd yn rhaid bod yn aelod o blaid sydd wedi ennill o leiaf un sedd yn yr etholiad Senedd ddiwethaf.

Mewn achosion hynod, mi all y Llywydd fod yn hyblyg wrth blismona’r rheol.

Y bleidlais

Cynhaliwyd pleidlais ar y mater brynhawn ddoe yn y Senedd – yn ystod  cyfarfod llawn olaf cyn yr etholiad – a phleidleisiodd 38 o blaid ac 17 yn erbyn.

Roedd Llafur a Phlaid Cymru yn gefnogol o’r newid, ond roedd llu o grwpiau eraill yn frwd yn erbyn y cam.

Mi alwodd Mark Isherwood, o’r Ceidwadwyr, y newid yn “ymgais gwleidyddol i botsian â rheolau (gerrymandering)”.

A dywedodd Caroline Jones, arweinydd ‘grŵp y Gynghrair Annibynnol tros Ddiwygio’ bod y cam yn “wrth-ddemocrataidd”.

Yn ôl Siân Gwenllian bydd y newid yn sicrhau bod “system llawer mwy cadarn mewn lle”.