Mae Aelodau’r Senedd wedi pleidleisio o blaid cefnu ar gynlluniau i orfodi pleidiau i sicrhau bod o leiaf 50% o’u hymgeiswyr yn etholiadau’r Senedd yn fenywod.
Cafodd y mater ei drafod yn y Senedd ddoe (dydd Mawrth, Medi 24).
Dywedodd Siân Gwenllian, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Arfon, wrth golwg360 yr wythnos ddiwethaf ei bod hi’n “siomedig” â’r penderfyniad i ailystyried y mater.
Wrth ymateb, dywedodd Darren Millar, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar y Cyfansoddiad, fod y syniad a’r gwaith gafodd ei wneud ar y mater wedi bod yn “wastraff ofnadwy o arian trethdalwyr”.
Roedd Elin Jones, Llywydd y Senedd, wedi codi pryderon ynglŷn â phwerau’r Senedd i gyflwyno’r fath gynlluniau hefyd.
Yn ôl Jane Hutt, Prif Chwip Llywodraeth Cymru, mae’r newid yn gyfle i bleidiau gydweithio i greu canllawiau gwirfoddol i sicrhau Senedd fwy cynrychioladol.
Fis Gorffennaf, cafodd y syniad ei ohirio tan o leiaf etholiad 2030, gan fod pryderon y byddai’n effeithio ar ddilysrwydd etholiad 2026.
Fe wnaeth 40 Aelod o’r Senedd bleidleisio o blaid cefnu ar y syniad, tra bo 12 aelod wedi pleidleisio yn erbyn cynnig Llywodraeth Cymru.
‘Dewis yr ymgeiswyr gorau’
Fe wnaeth y Ceidwadwyr Cymreig gefnogi cynnig y Llywodraeth, gan ddweud bod y cwotâu rhywedd “yn amlwg tu hwnt i rym y Senedd”.
“Mae’r Ceidwadwyr wastad wedi ffafrio gadael i bleidleiswyr ddewis yr ymgeiswyr gorau, yn hytrach na’i wneud ar sail rhywedd neu unrhyw agwedd arall ar amrywiaeth,” meddai Darren Millar.
“Mae hi’n bryd i Lafur anghofio’u hobsesiwn â diwygio etholiadol y Senedd a chanolbwyntio ar flaenoriaethau pobol Cymru drwy fynd i’r afael â pherfformiad gwael ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol, a safonau dirywiol ein hysgolion a’r economi.”
‘Neges anffodus’
Wrth siarad â golwg360 ar drothwy’r bleidlais, dywedodd Siân Gwenllian fod y penderfyniad i gefnu ar y syniad yn rhoi “neges anffodus” am ymrwymiad y Prif Weinidog i gydraddoldeb i ferched.
“Mae o’n arwydd nad ydi cydraddoldeb menywod yn bwysig i’r Prif Weinidog newydd,” meddai.
“Dw i’n gwybod tydi hwnna ddim yn wir, ond mae o’n arwydd o hynny.
“Ac mi fyddai gweithredu yn y modd yma wedi cadarnhau ei hymrwymiad hi tuag at gydraddoldeb i fenywod.”
Ychwanega y byddai cael hanner Aelodau’r Senedd o gwmpas y bwrdd yn fenywod yn “newid pwyslais” y Senedd “tuag at y math o broblemau sydd yn wynebu menywod o ddydd i ddydd”.