Wrth siarad â golwg360, mae Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol Cymru’n pwysleisio pwysigrwydd dod â gor-elwa ar ofal plant o fewn y sector preifat i ben.
Dywed Dawn Bowden fod plant wedi dweud wrth Lywodraeth Cymru nad ydyn nhw eisiau cael eu gwthio o gwmpas y system fel “nwyddau”.
Mae darparwyr gofal plant preifat yng Nghymru wedi gwneud elw o hyd at 23% ar yr hyn maen nhw’n ei dalu i gynnig y gwasanaeth.
Dywed Dawn Bowden fod hyn wedi cynyddu costau gofal plant preswyl o £65m y flwyddyn yn 2017-18 i £200m eleni.
Roedd Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) i fynd i’r afael â’r broblem wedi cael ei gyflwyno i’r Senedd cyn toriad yr haf.
Y disgwyl yw y bydd y Bil yn dod yn ddeddfwriaeth erbyn diwedd cyfnod presennol y Senedd yn 2026.
‘Trawsnewid gwasanaethau cymdeithasol i blant’
“Rydym wedi bod eisiau gwneud hyn ers amser hir, yn bennaf oherwydd roedd y plant eu hunain yn dweud wrthym eu bod nhw eisiau hyn,” meddai Dawn Bowden wrth golwg360.
“Felly rydym wedi creu rhaglen i drawsnewid gwasanaethau cymdeithasol i blant.
“Mae hyn oherwydd ein bod yn gwybod fod gormod o blant yng Nghymru yn mynd i mewn i’r system gofal.”
Ychwanega mai prif amcan y rhaglen yw “atal cynifer o blant ag sy’n bosib rhag mynd i mewn i ofal”.
Ar yr achlysuron lle mae plant yn gorfod mynd i mewn i ofal, meddai, mae’n rhaid peidio elwa, yn ogystal â sicrhau bod modd i’r plant aros yn eu cymunedau gwreiddiol.
Cefnogi’r weledigaeth, ond pryderon am arian
Yn ôl Dawn Bowden, y brif neges gan y plant oedd nad ydyn nhw “eisiau cael eu gwthio o gwmpas y system fel nwyddau”.
“Mae nifer o ddarparwyr gofal plant preifat yng Nghymru yn cymryd elw mawr o ganlyniad i’r gwasanaeth maen nhw’n ei ddarparu,” meddai.
“Felly rydym wedi bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol i adeiladu’r gallu o fewn yr awdurdodau i ddarparu mwy o wasanaethau gofal a gwneud hynny mewn ffordd sy’n eu paratoi nhw ar gyfer y ddeddfwriaeth sydd yn cael ei chynnig ar hyn o bryd.”
Er bod cynghorau wedi cefnogi’r weledigaeth, maen nhw hefyd wedi codi pryderon am fynediad i adnoddau ariannol i’w chefnogi.
Rhannu arfer “arloesol” efo Llywodraeth y Deyrnas Unedig
Yn ôl Dawn Bowden, mae’r cydweithio â’r Llywodraeth Lafur newydd yn San Steffan wedi cychwyn yn barod.
“Dw i wedi cael cyfarfod hir â Stephen Kinnock [Gweinidog Gofal Llywodraeth y Deyrnas Unedig] yn barod,” meddai.
“Ac rydym wedi sôn am yr hyn rydym yn gallu ei rannu rhwng y ddwy lywodraeth er lles bywydau plant a phobol.”
Ddydd Llun (Medi 23), cyhoeddodd Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru, bartneriaeth i Lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig gael rhannu arfer da ym maes gwasanaethau iechyd.
Dywed Dawn Bowden fod nifer o fesurau “arloesol” yng Nghymru ddylai gael eu defnyddio i addysgu gwasanaethau yn Lloegr.
“Mae elwa o ganlyniad i ofal plant yn broblem sydd mor fawr, neu hyd oed yn fwy yn Lloegr na Chymru,” meddai.
“Felly, bydden ni’n fwy na hapus i rannu unrhyw arferion da sy’n dod o ganlyniad i’r ddeddfwriaeth yma gyda’n cymdogion yn Lloegr.”