Mae’r penderfyniad i ddileu Taliadau Tanwydd y Gaeaf i bensiynwyr “yn rhan o addewid maniffesto’r Llywodraeth”, yn ôl Ysgrifennydd Gwladol Cymru.

Wrth siarad â golwg360, dywed Jo Stevens fod “llinell gyntaf ein maniffesto yn dweud y bydden ni [y Blaid Lafur] yn dod â sefydlogrwydd economaidd i’r wlad”.

Mae nifer o sylwebyddion economaidd ac ariannol wedi beirniadu’r penderfyniad i roi’r taliad i bensiynwyr sy’n derbyn Credyd Pensiwn yn unig.

“Rydym wedi ymrwymo i amddiffyn y clo triphlyg i bensiynwyr fel ein bod yn gallu rhoi mwy o arian i mewn i bocedi pensiynwyr bob blwyddyn drwy gydol cyfnod y Llywodraeth yma,” meddai Jo Stevens.

“Felly, erbyn i ni gyrraedd yr etholiad nesaf, bydd pensiynwyr yn derbyn pensiwn gwladol sydd werth £1,700 yn fwy nag y mae e nawr.”

“Rhwystredig” i bensiynwyr 

Dywed Martin Lewis, yr arbenigwr ariannol, fod tua 800,000 o bobol ar draws y Deyrnas Unedig yn gymwys i dderbyn credyd pensiwn ond dydyn nhw ddim wedi cofrestru i’w dderbyn.

“Ar gyfartaledd, mae e’n werth £3,900 y flwyddyn,” meddai yn ei gylchlythyr wythnosol.

“Er hyn, mae tua 800,000 o bensiynwyr yn debygol o golli allan.

“Dyna pam ei fod mor rhwystredig mai dyma’r brif ffordd i bensiynwyr wneud cais am y £200 mewn taliadau tanwydd (£300 i bobol 80 oed a hŷn).”

Dywed Jo Stevens fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi bod yn gweithio “i gael pobol ar gredyd pensiwn”.

“Dros gyfnod o wythnosau’n unig, rydym wedi gweld nifer fawr o bobol yn cofrestru ar gyfer y credyd,” meddai.

“Mae hyn yn ymwneud â phenderfyniadau anodd rydym wedi gorfod eu gwneud, a phenderfyniad lle rydym yn defnyddio arian cyhoeddus ac yn ei roi i’r bobol sydd ei angen fwyaf, sef y pensiynwyr tlotaf.”

Wrth ymateb i gwestiwn am gefnogaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig i’r dreth ar gyfoeth, dywed Jo Stevens y bydd “rhagor o gynlluniau yn cael eu cyhoeddi yn y Gyllideb ar ddiwedd mis Hydref”.