Mae gwleidyddion yng Ngwynedd ac Ynys Môn wedi beirniadu Ysgrifennydd Gwladol Cymru, ar ôl iddi ganmol gofal iechyd deintyddol yng Nghymru fel esiampl i’w dilyn.
Roedd Jo Stevens, Aelod Seneddol Dwyrain Caerdydd, wedi honni mewn araith yng nghynhadledd y Blaid Lafur yn Lerpwl fod gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig gynllun gofal iechyd trawsffiniol i dorri amseroedd aros yng Nghymru, gan addo y byddai “Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cael eu hysbrydoli gan Gymru o ran deintyddiaeth”.
Daeth ei geiriau yng nghanol “argyfwng deintyddol” sy’n cael effaith ar ogledd Cymru, wrth i wleidyddion adrodd eu bod nhw “dan y don” gyda straeon “brawychus” am deuluoedd yn methu gweld deintydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu’n methu fforddio gofal preifat.
Mae Siân Gwenllian, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Arfon, wedi beirniadu sylwadau Ysgrifennydd Gwladol Cymru fel rhai “ffuantus”, gan ddweud ei bod hi’n “anwybyddu llu o fethiannau” o ran darpariaeth deintyddiaeth yng Nghymru.
“Does ond angen i Jo Stevens weld y bobol sy’n aros yn ofer am ofal deintyddol gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol i weld maint y problemau mewn deintyddiaeth yng Nghymru,” meddai Rhun ap Iorwerth, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ynys Môn.
Ysgol ddeintyddol
Ddydd Gwener (Medi 20), roedd Siân Gwenllian wedi trefnu cynhadledd ym Mangor yn galw am ysgol ddeintyddol yn y ddinas, gan gyhoeddi adroddiad ar y mater.
Galwodd hi am ysgol ddeintyddol yn sgil yr hyn mae’n ei alw’n “argyfwng deintyddol cynyddol”, gan ddweud nad yw nifer o’i hetholwyr wedi gallu cael mynediad at wasanaethau, sydd nid yn unig yn effeithio arnyn nhw ond yn rhoi “pwysau ychwanegol” ar wasanaethau adrannau brys.
“Roeddwn i’n syfrdan o glywed canmoliaeth i ofal iechyd deintyddol yng Nghymru, pan fo’r realiti o ddydd i ddydd i ddydd yn Arfon yn dra gwahanol,” meddai.
“Ers 2016, dw i a gwleidyddion eraill wedi’n llethu; rydyn ni’n derbyn sacheidiau o lythyrau yn cynnwys nifer o straeon, a nifer ohonyn nhw’n straeon brawychus am deuluoedd sy’n methu cael mynediad i ddeintydd ac yn methu fforddio gofal preifat.
“Mae nifer yn cael problemau’n ddiweddarach, a dw i’n gofidio’n benodol am blant yn methu cael mynediad i ofal deintyddol – mae’n adeiladu problemau at y dyfodol.
“Mae yna broblem fawr yn Arfon.
“Yr wythnos ddiwethaf, siaradodd Kelly O’Donnell o Fethel am sut mae ei theulu wedi methu gweld deintydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ers dros bedair blynedd.
“Dw i wedi cyhoeddi adroddiad sy’n dweud yn blwmp ac yn blaen beth ydi realiti gwirioneddol yr argyfwng deintyddol yng Nghymru, gan alw am Ysgol Ddeintyddol yn fy etholaeth ym Mangor er mwyn mynd i’r afael â phrinder.
“Roedd yr adroddiad yn dangos mai 36.6% yn unig o’r boblogaeth yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr sydd wedi derbyn triniaeth ddeintyddol gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
“Roedd llai na hanner y plant wedi derbyn triniaeth gan ddeintydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.
“Roedd sylwadau Ysgrifennydd Gwladol Cymru’n ffuantus, ac yn anwybyddu llu o fethiannau o ran darpariaeth ddeintyddol Cymru.
“Gobeithio y bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru’n ymuno â mi wrth alw ar ei chydweithwyr Llafur yng Nghaerdydd i sefydlu ysgol i hyfforddi deintyddion ym Mhrifysgol Bangor cyn gynted â phosib.
“Rhaid i ni ddechrau recriwtio a hyfforddi rhagor o ddeintyddion i ateb y galw, yn enwedig yn y gogledd; mae gennym ni ysgol feddygol rŵan yn agor ei drysau y tymor hwn, ac ysgol ddeintyddol ydi’r cam naturiol nesaf.
“Dw i eisiau gweld Bangor yn tyfu’n ganolfan ragoriaeth i hyfforddi pobol broffesiynol ym maes iechyd.”
Pwyso ar Lywodraeth Cymru
Mae Siân Gwenllian yn gofyn cwestiwn yn y Senedd heddiw (dydd Mercher, Medi 25), gan alw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i ysgol ddeintyddol.
“Maen nhw wedi dweud bod angen ail un arnom ni; dim ond un sydd yng Nghaerdydd, a does dim llawer o fyfyrwyr o Gymru’n mynd yno,” meddai.
“Rydyn ni am gael deiseb ar-lein – y cam nesaf ydi tynnu’r cyhoedd i mewn.
“Fel yn achos yr ysgol feddygol, roedd llawer o wrthwynebiad i gychwyn, a fydd ysgol ddeintyddol ddim yn digwydd dros nos.
“Ond roedd yr achos o blaid ysgol feddygol mor eithriadol o gryf fel ei bod wedi mynd yn ei blaen; mae’r momentwm y tu ôl i’r ysgol ddeintyddol union yr un fath.
“Mae’r achos yn un mor gryf.”
Rhoi’r gorau i wasanaethau
Mae Rhun ap Iorwerth, yr Aelod o’r Senedd dros Ynys Môn, hefyd wedi beirniadu sylwadau Ysgrifennydd Gwladol Cymru, gan siarad am y newyddion fod deintyddfa arall – Valley Dental ym Môn – wedi cyhoeddi eu bod nhw’n rhoi’r gorau i gynnig gwasanaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol o fis Rhagfyr.
“Mae terfynu cytundeb deintyddol arall gyda’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar Ynys Môn yn ergyd bellach i ynys sydd wedi gweld dirywiad cyflym o ran argaeledd a hygyrchedd gwasanaethau deintyddol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol dros y blynyddoedd diwethaf,” meddai.
“Mae’r bai yn llwyr ar Lywodraeth Lafur Cymru, oedd wedi methu yn ystod eu 25 mlynedd mewn grym i fynd i’r afael â’r materion sy’n wynebu’r sector deintyddol yng Nghymru.
“Yn hytrach, maen nhw wedi galluogi gwasanaethau i ddirywio dros gyfnod o amser, sy’n golygu bod mwy o gleifion yn dioddef.
“Ddoe, dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn defnyddio Cymru fel esiampl pan ddaw i wasanaethau deintyddol.
“Does ond angen i Jo Stevens weld y bobol sy’n aros yn ofer am ofal deintyddol gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol i weld maint y problemau mewn deintyddiaeth yng Nghymru.”
Ymateb Llywodraeth Cymru
Wrth dderbyn cais am ymateb, cyfeiriodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru at ateb Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru, yn ystod Cyfarfod Llawn y Senedd.
Yn ystod Cwestiynau’r Prif Weinidog ddoe (dydd Mawrth, Medi 24), dywedodd Rhun ap Iorwerth y “byddan nhw [llywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig] yn rhannu arfer da, medden nhw, ac mae hynny’n sicr yn beth da”.
“Ond does dim manylion,” meddai.
“Ac onid oes eironi mawr mai deintyddiaeth yw’r peth gafodd ei nodi fel llwyddiant mawr yng Nghymru?
“Eironi na fydd yn cael ei fethu gan yr holl bobol hynny sy’n methu cofrestru efo deintydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru.”
Dywedodd y Prif Weinidog ei bod hi’n “bwysig hefyd… cydnabod nad oes gennym ni fonopoli o ran syniadau da”.
“Ond pan ddaw i ddeintyddiaeth, rydych chi’n iawn, mae ffordd bell gyda ni i fynd, ond rydyn ni wedi dod yn bell iawn, ac mae’r ffaith ein bod ni wedi llwyddo i gyflwyno bron i 400,000 o apwyntiadau newydd i gleifion i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn rhywbeth dw i’n meddwl y dylai gael ei ddathlu.
“Os ewch chi i Loegr, fe gewch chi anialwch llwyr o ran deintyddiaeth.
“Rydyn ni’n annog pobol i fynd a hyfforddi mewn ardaloedd gwledig.
“Allwn ni ddim gorfodi deintyddion i weithio i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ond mae’r ffaith fod y cytundeb newydd hwnnw wedi arwain at gymaint â hynny mewn dwy flynedd yn gam sylweddol ymlaen, dw i’n meddwl, ac mae’n well o lawer nag unrhyw beth lwyddodd y Torïaid i’w wneud yn Lloegr o dan y Prif Weinidog diwethaf.”