Rhaid i lywodraethau Cymru a’r Deyrnas Unedig weithredu i helpu i ddod â’r gwrthdaro yn y Dwyrain Canol i ben, yn ôl Plaid Cymru.

Yn y Senedd ddoe (dydd Mawrth, Medi 24), fe wnaeth Peredur Owen Griffiths, sy’n cynrychioli Dwyrain De Cymru, alw ar Lywodraeth Cymru i ddad-fudsoddi mewn cynlluniau pensiwn sy’n cynnal “peiriant rhyfel” Israel.

Wrth ymateb, dywedodd Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru, mai cyfrifoldeb Llywodraeth y Deyrnas Unedig yw’r mater.

Mae’r sefyllfa yn y Dwyrain Canol wedi gwaethygu dros y dyddiau diwethaf yn sgil y gwrthdaro rhwng Israel a Hezbollah yn Libanus (Lebanon).

Dros y dyddiau diwethaf, mae ymosodiadau Israel yn erbyn y grŵp milwrol Hezbollah wedi lladd cannoedd o bobol yn Libanus.

Mae Hezbollah, sy’n grŵp militaraidd, a phlaid wleidyddol Mwslemaidd Shia, wedi ymateb drwy saethu cannoedd o rocedi at ogledd Israel a thaflegryn tuag at Tel Aviv – un o ddinasoedd mwyaf Israel – gafodd ei saethu i lawr gan Israel.

Mae’r cwffio, sydd wedi’i sbarduno gan y rhyfel yn Gaza, wedi arwain at bryderon am wrthdaro ehangach yn y rhanbarth.

‘Hen bryd am ymgyrch ddad-fuddsoddi’

Yn ystod cwestiynau’r Prif Weinidog ddoe, galwodd Peredur Owen Griffiths am ymgyrch i sicrhau heddwch yn y Dwyrain Canol cyn i’r rhyfel waethygu eto.

“Ers i’r rhyfel waethygu yn Gaza, rydym wedi gweld lladd a thristwch ar raddfa nad oes modd ei dychmygu,” meddai.

“Mae’r nifer o farwolaethau swyddogol yn Gaza bellach wedi rhagori ar 41,000.

“Mae’r trais hwnnw bellach yn gorlifo drosodd i Libanus, gyda’r gwir bryder o wrthdaro yn amgylchynu’r rhanbarth cyfan.

“Nid yw Israel wedi gwrando ar y gwledydd niferus sydd wedi galw am gadoediad.

“Cyn ei bod hi’n rhy hwyr, oni allwch chi weld bod angen defnyddio’r holl ysgogiadau posib i berswadio’r cwmnïau sy’n ymwneud â chyflenwi deunyddiau a ddefnyddir yn erbyn Palesteiniaid a hwyluso peiriant rhyfel Netanyahu?

“Brif Weinidog, a ydych chi’n cytuno ei bod yn hen bryd i ymgyrch o ddad-fudsoddi, i wneud i gwmnïau feddwl ddwywaith cyn iddyn nhw gyflenwi arfau i Israel?”

Atebodd Eluned Morgan, Prif Weinidog Cymru, mai Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n “gyfrifol am sicrhau bod hynny’n digwydd”.

“Nid yw’n faes y gallaf gymryd rhan ynddo,” meddai.

‘Ni fydd trais diddiwedd yn dod â heddwch’ 

Yn y cyfamser, mae Liz Saville Roberts, arweinydd Plaid Cymru yn San Steffan, wedi dweud bod rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig “wneud popeth o fewn eu gallu i helpu i roi diwedd ar yr arswyd”, gan gynnwys diplomyddiaeth a rhoi terfyn ar holl werthiannau arfau i Israel.

“Mae Libanus ar drothwy rhyfel ar raddfa fawr, a Gaza yn adfeilion,” meddai ar y cyfryngau cymdeithasol.

“Ni fydd trais diddiwedd yn dod â heddwch.”

Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi galw am gadoediad rhwng Israel a Libanus, a nos Lun (Medi 23), dywedodd David Lammy, Ysgrifennydd Tramor San Steffan, ei fod e wedi dychryn yn sgil y gwrthdaro.

“Mae datblygiadau pellach yn golygu bod peryg y bydd mwy o oblygiadau torcalonnus,” meddai.

Beth sydd wedi digwydd hyd yn hyn?

Mae’r gwrthdaro rhwng Hezbollah ac Israel ar y gweill ers degawdau, ond fe gynyddodd yn dilyn ymosodiad Hamas, y grŵp militairdd o Balesteina, ar Israel a’u hymateb hwythau yn Gaza.

Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaeth pagers nifer o aelodau Hezbollah ffrwydro, ac ers hynny mae Israel wedi bod yn targedu cadarnleoedd Hezbollah yn Israel.

Bu farw tua 500 o bobol, gan gynnwys sifiliaid, yn sgil yr ymosodiadau gan Israel ddydd Llun (Medi 23), yn ôl gweinidog iechyd Libanus. Hwnnw oedd diwrnod mwyaf angheuol y wlad ers diwedd y rhyfel cartref yn 1990.

Er bod tipyn o seilwaith Hezbollah wedi’i ddinistrio dros y dyddiau diwethaf, maen nhw wedi ymateb drwy saethu taflegryn tuag at Tel Aviv, gafodd ei saethu i lawr gan Israel, a drwy ymosod ar ogledd y wlad o’r awyr.

Heddiw, mae Israel yn dweud eu bod nhw’n gweithredu ar don newydd o ymosodiadau “estynedig” yn ne Libanus ac ardal Beqaa.

Yn ôl gweinidog iechyd Libanus, mae deg o bobol wedi cael eu lladd.

Mae’r ymosodiadau wedi golygu bod miloedd o bobol yn dianc o’u cartrefi yn ne Libanus, ac yn mynd am y brifddinas Beirut.

Mae Syr Keir Starmer, Prif Weinidog y Deyrnas Unedig, wedi cynghori dinasyddion Prydeinig i adael Libanus ar unwaith.

Beth yw Hezbollah?

Daeth Hezbollah, sy’n blaid wleidyddol ddylanwadol a grŵp militaraidd, i’r amlwg yn y 1980au er mwyn gwrthwynebu Israel.

Ar y pryd, roedd milwyr Israel wedi meddiannu de Libanus yn ystod rhyfel cartref y wlad rhwng 1975 a 1990.

Mae Hezbollah wedi bod yn derbyn cefnogaeth ariannol a milwrol gan Iran, ac mae ganddyn nhw gysylltiad cryf â Bashar al-Assad, arlywydd Syria.

Roedd y rhyfel diwethaf rhwng Hezbollah ac Israel yn 2006, wnaeth arwain at dros 1,000 o farwolaethau.

Mae’r grŵp yn cael ei ddisgrifio fel sefydliad terfysgol gan wledydd y gorllewin, Israel a gwladwriaethau Gwlff Persia.

Ers 1992, mae’r grŵp wedi cymryd rhan yn etholiadau cenedlaethol Libanus, ond fe wnaeth y grŵp a’u cynghreiriaid golli eu mwyafrif yn y senedd yn etholiad 2022.

Fodd bynnag, does yna’r un llywodraeth newydd wedi cael ei ffurfio ers hynny ac mae gan Hezbollah weinidogion yn y weinyddiaeth dros dro.

Hassan Nasrallah, sy’n glerigwr Shia, yw arweinydd Hezbollah ers 1992. Mae ganddo gysylltiadau agos ag Iran a’i Goruchaf Arweinydd, Ayotollah Ali Khamenei.

Er nad yw’r arweinydd wedi cael ei weld yn gyhoeddus ers blynyddoedd – gan fod arno ofn cael ei ladd gan Israel, mae’n debyg – mae ei areithiau’n cael eu darlledu ar y teledu yn Libanus bob wythnos.