Mae Cyngor Gwynedd wedi sicrhau grant gan Lywodraeth Cymru er mwyn symud eu cynllun i ddarparu gofal preswyl nyrsio ym Mhen Llŷn yn ei flaen.

Dywed y Cyngor mewn datganiad fod hwn yn “gam sylweddol ymlaen” i’r prosiect gwerth miliynau o bunnoedd.

Mae’r prosiect wedi’i ddatblygu ar y cyd gan y Cyngor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, wedi iddyn nhw gytuno ym mis Gorffennaf 2022 ar bartneriaeth ffurfiol.

Eu nod ydy codi cartref gofal ar hen safle’r pentref Pwylaidd ym Mhenrhos ger Pwllheli.

Mae’r Cyngor yn gobeithio y bydd y safle nid yn unig yn darparu’r gofal nyrsio sydd wir ei angen ar bobol yn ardaloedd Llŷn ac Eifionydd, ond hefyd yn datblygu’r ardal yn economaidd drwy sicrhau presenoldeb hirdymor swyddi sgiliedig yn yr ardal.

Yn ôl eu hymchwil, mae prinder cartrefi preswyl nyrsio’n medru arwain at oedi cyn i bobol gael gadael yr ysbyty, all gael effaith ar amseroedd aros ysbytai hefyd, ac mae’n rhaid i rai preswyliaid symud o’r sir er mwyn derbyn gofal preswyl.

Mae disgwyl y bydd lle i 32 o wlâu i gleifion â dementia, a 24 o wlâu nyrsio ar y safle pan fydd ei ddrysau’n agor.

Mae’r grant gafodd ei sicrhau’r wythnos hon yn deillio o Gronfa Gyfalaf Integreiddio ac Ail-gydbwyso Llywodraeth Cymru.

Mae’r Cyngor a’r bwrdd iechyd yn dweud y bydd yn eu galluogi nhw i “ddatblygu achos busnes amlinellol a chynllun manwl” ar gyfer y prosiect.

‘Mwy o opsiynau i bobol leol’

Dywed Dyfed Edwards, cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, eu bod nhw’n “falch iawn o fod yn gweithio gyda Chyngor Gwynedd ar y prosiect cyffrous ac arloesol hwn i gynyddu capasiti cartrefi gofal preswyl a nyrsio ym Mhen Llŷn”.

“Mae’n bwysig iawn ein bod yn gallu rhoi mwy o opsiynau i bobol leol, fel bod modd iddyn nhw dderbyn gofal yn nes at eu cartref a’u teuluoedd, a bydd y datblygiad arfaethedig yn ein helpu i gyflawni hyn,” meddai.

Yn ogystal, bydd cymdeithas dai ClwydAlyn, sydd wedi trosglwyddo dwy erw o dir ym Mhenrhos i’r Cyngor er mwyn cael adeiladu’r cartref gofal, hefyd yn datblygu cartrefi carbon isel gyda darpariaethau iechyd a gofal ar yr un safle.

Yn ogystal â chynnig tai fforddiadwy i bobol leol, bydd y cynlluniau hyn yn darparu cartrefi i bobol ag anghenion gofal arbennig, gan gynnwys preswyliaid presennol y pentref.

Mae’r cynlluniau hyn gan ClwydAlyn yn ddibynnol ar wireddu’r cartref gofal gan Gyngor Gwynedd.

“Rydym yn falch o chwarae rhan allweddol yn y prosiect trawsnewidiol hwn a fydd yn gweld Penrhos yn dod yn ganolbwynt cymunedol,” meddai Craig Sparrow, Cyfarwyddwr Gweithredol Datblygu ClwydAlyn.

“Trwy weithio’n agos gyda’n partneriaid, nid yn unig rydym yn mynd i’r afael ag anghenion gofal brys yn yr ardal, ond hefyd yn meithrin amgylchedd cefnogol i breswylwyr.

“Mae’r datblygiad hwn yn ymgorffori ein hymrwymiad i adeiladu nid yn unig cartrefi, ond cymunedau sy’n cefnogi lles ac ansawdd bywyd i bawb, tra hefyd yn darparu datrysiadau tai a gofal cynaliadwy o ansawdd uchel.”

Diffyg gofal dementia yn Gymraeg

Daw’r cyhoeddiad am y cynllun yn dilyn beirniadaeth gan Gomisiynydd y Gymraeg yr wythnos hon am ddiffyg cynnydd o ran darparu gofal dementia yn y Gymraeg.

Dywed y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sydd â chyfrifoldeb dros Oedolion, Iechyd a Llesiant, ei fod yn falch iawn fod y Cyngor yn gallu cydweithio â’u partneriaid o’r sectorau iechyd a thai “ar y prosiect uchelgeisiol hwn”.

“Yn anffodus, mae prinder gwlâu mewn cartrefi nyrsio ar draws y sir, sy’n fwy acíwt yn ardal Llŷn heb unrhyw ddarpariaeth gaiff ei hariannu’n gyhoeddus o gwbl, a’n gobaith yw y bydd y datrysiad nid-er-elw hwn yn dod â gwell cydbwysedd i’r gwasanaeth gofal preswyl a nyrsio yn lleol, ac yn rhoi mwy o ddewis,” meddai.

“Ar hyn o bryd, mae gormod o bobol yn gorfod symud ymhell oddi wrth eu teuluoedd a’u cynefin, a hynny pan maen nhw ar eu mwyaf bregus.

“Mae’r cyllid grant hwn gan Lywodraeth Cymru yn cyfrannu tuag at greu system ofal fwy gwydn, a sicrhau bod gan bobol fynediad i wasanaethau gofal drwy gyfrwng y Gymraeg yn eu cymunedau eu hunain.

“Heb os, bydd y datblygiad hwn yn darparu hwb economaidd mae gwir ei angen ar ardal Pwllheli.

“Pan fydd y cartref yn weithredol – yn dilyn y broses baratoi rydan ni’n mynd trwyddi ar hyn o bryd a’r cyfnod adeiladu – rwy’n hyderus y gallwn wneud y gorau o’n gweithlu lleol, gan y bydd cyfleoedd cyflogaeth a dilyniant gyrfa ar gael i siaradwyr Cymraeg yn arbennig.”

Bydd cais cynllunio ffurfiol yn cael ei gyflwyno maes o law, ac fe fydd angen cais pellach am arian gan Lywodraeth Cymru er mwyn gwireddu’r gwaith adeiladu.