Mae Ceidwadwr wedi gwrthod ildio, er iddi gael cerydd gan y Senedd yn dilyn ffrae am ei bod hi wedi cyfeirio at y terfyn cyflymder 20m.y.a. fel polisi “blanced”.

Cafodd Natasha Asghar ei “cheryddu” – sy’n gyfystyr â chosb fechan iawn – ar ôl i’r Senedd gymeradwyo casgliadau ymchwiliad gan y Comisiynydd Safonau.

“Alla i ddim cweit credu ein bod ni’n sefyll yma heddiw’n dadlau ynghylch y defnydd o’r gair ‘blanced’ pan fo materion tipyn mwy ar y gweill,” meddai llefarydd trafnidiaeth y Torïaid.

Fe wnaeth Natasha Asghar, sy’n cynrychioli Dwyrain De Cymru, wrthod casgliadau’r ymchwiliad ei bod hi wedi torri tair rheol sydd yng Nghod Ymddygiad y Senedd.

“Mae dweud fy mod i wedi dwyn anfri ar y Senedd drwy ddefnyddio’r gair ‘blanced’ yn hollol abswrd,” meddai.

“Dw i ddim yn ymddiheuro o gwbl am sefyll i fyny dros fy etholwyr a thrigolion ledled Cymru pan ddaw i gynllun 20m.y.a. Llywodraeth Cymru.”

‘Fi yw’r Llywydd’

Tynnodd Natasha Asghar sylw at y ffaith fod 97% o ffyrdd oedd yn arfer bod yn 30m.y.a. wedi gostwng i 20m.y.a., gan ddweud ei bod hi o’r farn o hyd fod hwn yn ddull blanced.

Fe wnaeth Elin Jones, Llywydd y Senedd, ymyrryd gan bwysleisio bod y Pwyllgor Safonau wedi dod i’r casgliad fod y defnydd o’r term yn amwys ac yn anghywir.

Dywedodd ei bod hi wedi newid ei meddwl ynghylch y defnydd o’r gair o ganlyniad i’r dyfarniad, ar ôl iddi roi’r hawl i bobol ddefnyddio’r gair am fisoedd.

“Dydy hi ddim yn iawn ei ddefnyddio fe yn y cyd-destun hwnnw yn y Siambr yma mwyach… dyna fy marn, a fi yw’r Llywydd… Dw i’n gofyn i chi i gyd i barchu fy marn.”

Fe wnaeth Natasha Asghar gydnabod yr adroddiad, ond mae hi wedi addo parhau i ymgyrchu’n ddiflino yn erbyn y polisi “er gwaethaf ymdrechion despret” i’w hatal.

‘Gwarthusrwydd moesol’

Daeth Douglas Bain, y Comisiynydd Safonau, i’r casgliad fod Natasha Asghar wedi torri’r rheolau wrth ymddwyn yn gelwyddog ac wrth ddwyn anfri ar y Senedd.

Cafodd y gwyn ei chyflwyno gan Lee Waters, y cyn-weinidog gyflwynodd y terfyn cyflymder 20m.y.a.

Roedd Natasha Asghar yn aelod o’r pwyllgor oedd wedi ystyried cwyn ynghylch Andrew RT Davies, arweinydd ei Grŵp, oedd wedi cyfeirio yn yr un modd at 20m.y.a. fel polisi “blanced”.

Cafwyd e’n ddieuog o dorri’r rheolau ym mis Ionawr.

Roedd Douglas Bain yn fodlon fod y darlun o “flanced” yn un anghywir, ond dywedodd nad yw’n gyfystyr â bod yn gelwyddog, sy’n gofyn bod yna “elfen o dwyll neu warthusrwydd moesol”.

Yn yr adroddiad 21 tudalen, fe wnaeth e ddadlau bod yna elfen o warthusrwydd moesol yn achos Natasha Asghar, oherwydd roedd hi’n gwybod fod datganiadau tebyg wedi’u cael yn anwir.

‘Dim gwrthwynebiad’

Fe wnaeth Douglas Bain gyhuddo Natasha Asghar o “ddweud un peth a gwneud y gwrthwyneb”, gan ddod i’r casgliad nad oes ganddo “unrhyw amheuaeth fod y fath ymddygiad yn annerbyniol a’i fod yn dwyn anfri ar y Senedd”.

Fe wnaeth Peredur Owen Griffiths, sy’n aelod o’r Pwyllgor Safonau, annog ei gyd-wleidyddion i dalu sylw i argymhellion y pwyllgor ar y safonau disgwyliedig.

“Hoffwn hefyd atgoffa aelodau o’u cyfrifoldeb personol o ran ystyried unrhyw fuddiannau posib cyn cymryd rhan ym musnes y pwyllgor,” meddai.

Dywedodd Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Ddwyrain De Cymru wrth y Senedd fod disgwyl i aelodau ddatgan buddiannau a’u hesgusodi eu hunain o drafodaethau perthnasol.

Cafodd y cynnig i geryddu Natasha Asghar ei dderbyn, heb wrthwynebiad o feinciau’r Torïaid fyddai wedi gorfodi pleidlais yn dilyn y ddadl heddiw (dydd Mercher, Medi 25).