Bydd buddsoddiad o £1bn mewn ffatri bapur yn Sir y Fflint yn diogelu 147 o swyddi ac yn creu 200 o swyddi newydd.
Yn sgil y buddsoddiad, sy’n cynnwys arian gan lywodraethau Cymru a San Steffan, Melin Shotton fydd y cynhyrchydd papur mwyaf yng ngwledydd Prydain.
Agorodd Melin Shotton yng Nglannau Dyfrdwy yn 1983.
Tan yn ddiweddar, bu’n creu papur ar gyfer papurau newydd ond yn sgil dirywiad papurau newydd, cafodd y Felin ei gwerthu ar gyfer ailddatblygu’r safle.
Ailgylchu papur
Cwmni o Dwrci o’r enw Eren Holding sy’n berchen ar y felin ers 2021, ac mae eu cynlluniau’n golygu defnyddio papur wedi’i ailgylchu i greu papur newydd.
Bydd bron i 100% o’r papur sy’n cael eu gynhyrchu yn y ffatri’n dod o bapur wedi’i ailgylchu, ac eglura Llywodraeth Cymru ei fod yn fodel eco-gyfeillgar gan y byddan nhw’n puro’u dŵr gwastraff eu hunain a’i ailddefnyddio ar y safle.
“Byddwn yn defnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf yn ein ffatri newydd ym Melin Shotton, i’w gwneud y safle cynhyrchu papur mwyaf blaengar yn Ewrop,” meddai Hamdullah Eren, Uwch-aelod o fwrdd grŵp Eren Holding.
“Bydd y ffatri, fydd wedi’i hadeiladu’n unswydd at y pwrpas, yn cynnig atebion cynhyrchu soffistigedig a chynaliadwy, a hynny ymhell i’r unfed ganrif ar hugain.
“Dyma brosiect cyfalaf mawr cyntaf Eren Holding y tu allan i Dwrci, ac rydyn ni’n hapus iawn ein bod wedi dewis Glannau Dyfrdwy fel lleoliad perffaith i wireddu’n huchelgais i dyfu.
“Rydyn ni’n gosod gwreiddiau dwfn ar safle o arwyddocâd diwydiannol hanesyddol.
“Rydyn ni’n credu y daw’r ffatri â ffyniant a swyddi tymor hir fydd yn destun balchder i Lannau Dyfrdwy, gan ei gwneud yn arweinydd yn ein diwydiant.”
‘Dyfodol llewyrchus i’r ardal’
Daw’r cyhoeddiad cyn yr Uwchgynhadledd Fuddsoddi fis nesaf, pan fydd y Deyrnas Unedig yn pwysleisio’u bod nhw “ar agor ar gyfer busnes”.
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu bron i £13m o gyllid, a bydd UK Export Finance, asiant credyd allforio Llywodraeth y Deyrnas Unedig, yn rhoi £136m.
“Mae gan Lannau Dyfrdwy hanes hir a balch fel un o brif ardaloedd diwydiannol Cymru a bydd y buddsoddiad sylweddol hwn gan y ddwy lywodraeth yn sicrhau swyddi ac yn helpu i ddod â dyfodol llewyrchus i’r ardal,” meddai Jo Stevens, Ysgrifennydd Gwladol Cymru.
“Rydym wedi ailbennu’r berthynas rhwng Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru.
“Drwy weithio gyda’n gilydd mewn partneriaeth agos, rydym yn darparu twf a swyddi da i bobol ledled Cymru.”
‘Lleihau gwastraff’
Ychwanega Rebecca Evans, Ysgrifennydd yr Economi, Ynni a Chynllunio yn Llywodraeth Cymru, fod y buddsoddiad yn enghraifft dda o sut fedran nhw ddenu buddsoddiad, creu swyddi da a chynaliadwy, a lleihau gwastraff yr un pryd drwy ymrwymiad i economi werdd.
“Unwaith y bydd y cyfan ar waith, yn hytrach na chludo papur gwastraff gannoedd neu filoedd o filltiroedd dramor i gael ei brosesu, caiff ei droi’n ddeunydd pecynnu wedi’i ailgylchu yma yng Nghymru,” meddai.
“Bydd hynny, a chyda natur y dechnoleg, yn golygu gostyngiad net mewn allyriadau carbon sy’n cyfateb i allyriadau 190,000 o gartrefi’r flwyddyn.
“Bydd ein cymorth ariannol o £13m yn helpu i sicrhau bod hyn yn digwydd, gan ddiogelu a chreu swyddi lleol a sicrhau bod y gymuned yn ganolog i lwyddiant y busnes am flynyddoedd lawer i ddod.”