Mae Mark Drakeford, Ysgrifennydd Cyllid Cymru, wedi mynegi optimistiaeth am Gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru, ond mae e hefyd yn rhybuddio na fydd gwariant cyhoeddus yn dechrau llifo ar unwaith.

Dywed ei fod yn cynllunio am dwf o 1% yng ngwariant refeniw dydd-i-ddydd, a setliad gwastad ar gyfer gwariant cyfalaf yn y tymor hir.

Wrth iddo fynd gerbron y Pwyllgor Cyllid i gael ei graffu, dywedodd y cyn-Brif Weinidog fod ganddo “dipyn o optimistiaeth y bydd pethau ychydig yn well”.

“Dw i ddim yn meddwl y bydd gwariant cyhoeddus yn cael ei droi ymlaen ar unwaith, ond dw i ddim yn meddwl y bydd pethau cweit mor dynn chwaith,” meddai.

Wrth gael ei wthio gan Rhianon Passmore, Aelod Llafur o’r Senedd, am feysydd allai gael eu tanflaenoriaethu efallai, dywedodd ei bod hi’n rhy gynnar i ddweud cyn Cyllideb Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar Hydref 30.

Ac wrth gael ei wthio i roi hwb i’r cyhoedd fod y Gyllideb yn ystod y flwyddyn yn ddiogel, yn sgil £500m o doriadau yn yr Alban, dywedodd ei bod yn “ymddangos i fi’n debycach i’r hyn fyddwn i wedi’i hystyried yn flwyddyn ‘normal’”.

‘Jymbo-jet’

Pwysleisiodd Mark Drakeford fod y pwysau a’r straen yn parhau, ond fod cyllideb y flwyddyn flaenorol yn anoddach o lawer ac wedi arwain at doriadau “poenus iawn, iawn” yr adeg hon y llynedd.

Dywedodd y bydd datganiad y Prif Weinidog ar flaenoriathau ei llywodraeth yn siapio cynlluniau gwariant drafft Llywodraeth Cymru at 2025/26, fydd yn cael eu cyhoeddi ar Ragfyr 10.

Cymharodd y cyn-Brif Weinidog ei gyfrifoldeb anferthol fel Ysgrifennydd Cyllid gyda glanio jymbo-jet y Gyllideb ar ben stamp.

Pwysleisiodd bwysigrwydd cael y gwerth mwyaf posib o wariant a pheidio â gor-wario, sy’n gallu “arwain at dir anial iawn”.

Awgrymodd y bydd negodi perthnasau gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar faterion megis porthladdoedd rhydd a pharthau buddsoddi ar frig ei agenda.

Dywedodd y bydd ei ffocws hefyd ar bynciau sydd wedi’u hetifeddu, gan gynnwys y Gronfa Ffyniant Gyffredin a disodli cyllid yr Undeb Ewropeaidd – “un o enghreifftiau mwyaf truenus gwariant llywodraeth flaenorol y Deyrnas Unedig”.

‘Meicro-reolaeth’

“Byddaf yn dymuno cael sgyrsiau gyda fy nghydweithwyr yn Llywodraeth y Deyrnas Unedig am drosglwyddiad hirdymor cyllid ôl-Ewropeaidd yn ôl i le ddylai fod: yma, yn nwylo’r Senedd,” meddai Mark Drakeford wedyn.

Awgrymodd y bydd Llywodraeth Cymru’n ceisio am rymoedd sydd wedi’u datganoli i’r Alban a Gogledd Iwerddon eisoes.

Dywedodd y byddai trafodaethau’n canolbwyntio ar “ein rhyddhau ni rhag meicro-reolath ein materion ein hunain” gan Drysorlys y Deyrnas Unedig, gan gynnig mwy o gyfle i ddosbarthu arian mewn ffordd effeithiol ac effeithlon.

“Ar hyn o bryd, mae ein dwylo ni wedi’u clymu, a dydyn ni ddim yn cael y gwerth gorau,” meddai wrth gynnig rhybudd.

Dywedodd wrth y pwyllgor fod Llywodraeth Cymru wedi dod o hyd i £65m i wneud tomeni glo yng Nghymru’n fwy diogel, ac fe wnaeth e ymbil ar Lywodraeth Lafur y Deyrnas Unedig i gyfrannu at hynny.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid fod trafodaethau’n parhau gyda gweinidogion y Deyrnas Unedig am gyllid rheilffyrdd hefyd.

‘Os mawr’

Os yw Cymru’n derbyn gwariant cyfalaf ychwanegol y flwyddyn nesaf – ac mae hynny’n “os mawr”, meddai Mark Drakeford – gwella effeithlonrwydd y Gwasanaeth Iechyd gydag offer ac adeiladau newydd fydd y flaenoriaeth.

Mark Drakeford oedd wedi trefnu’r “fframwaith ariannol” presennol sy’n penderfynu sut mae gwasanaethau cyhoeddus Cymru’n cael eu hariannu, a hynny pan oedd yn Ysgrifennydd Cyllid rhwng 2016 a 2018.

“Y broblem o’n safbwynt ni ydy… bod rhifau oedd wedi cael eu gosod – faint rydych chi’n cael ei fenthyg, faint rydych chi’n cael ei roi yn y gronfa Gymreig, faint rydych chi’n cael ei dynnu i lawr… dal yr un fath â’r ffigyrau wnaethon ni gytuno arnyn nhw fel y ffigyrau cywir yn 2016.”

Dywedodd Mark Drakeford wrth gyfarfod y pwyllgor ddoe (dydd Mercher, Medi 25) ei fod yn disgwyl i’r Cabinet ddadlau dros gyfraddau treth incwm Cymru, ond y byddai’n cymryd “cryn dipyn” i’w ddarbwyllo fe.

“Yr unig ffordd mae modd codi symiau sylweddol o arian o’r dreth incwm yng Nghymru ydy drwy godi cyfradd sylfaenol y dreth,” meddai.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid na fyddai codi’r cyfraddau ychwanegol ac uwchradd, sy’n peri problemau heb eu profi ynghylch mudo trethi, yn cynhyrchu swm sylweddol.