Mae Lynne Neagle, Ysgrifennydd Addysg Cymru, wedi rhoi terfyn ar yr ansicrwydd ynghylch y ffordd y caiff Cod Trefniadaeth Ysgolion Llywodraeth Cymru ei weithredu.
Mewn cyfarfod gyda Chymdeithas yr Iaith, dywedodd fod “rhaid” ystyried pob opsiwn arall cyn cau ysgol wledig sydd ar restr y Llywodraeth mewn unrhyw broses ymgynghori, ac nad yw hyn yn “ymarfer ticio bocs”.
Dywedodd un o brif swyddogion yr Adran Addysg fod “rhagdybiaeth yn erbyn cau” yn golygu “rhagdybiaeth yn erbyn cau”.
Ymgynghori ar bedair ysgol yng Ngheredigion
Daw’r cyhoeddiad ddiwrnod cyn i Bwyllgor Trosolwg a Chraffu Cymunedau sy’n Dysgu Cyngor Ceredigion drafod penderfyniad diweddar Cabinet Ceredigion i barhau gydag ymgynghoriad ar gau pedair o ysgolion gwledig yn y sir.
“Mae cred ymhlith nifer o Awdurdodau Lleol y gallen nhw fynd ati i gynllunio o’r dechrau i gau ysgolion gwledig Cymraeg, a bod dim ond rhaid iddyn nhw fynd trwy’r broses o nodi rhai opsiynnau amgen ymlaen ac ystyried effaith cau ar y gymuned ac ar yr iaith mewn modd tocenistaidd,” meddai Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith.
“Ond, rydym yn falch o gyhoeddi i Lynne Neagle fod yn hollol eglur yn ei hymateb i ni bod rhaid i awdurdodau lleol ddechrau gyda rhagdyb yn erbyn cau ysgolion gwledig sydd ar y rhestr swyddogol o ysgolion i’w gwarchod.
“Byddwn yn tynnu sylw Awdurdodau Lleol at y cyfarwyddyd clir yma.”