Mae penderfyniad Cabinet Cyngor Sir Ceredigion i ystyried dyfodol pedair ysgol gynradd wledig Gymraeg yn un “siomedig”, yn ôl rhieni.
Fe wnaeth y Cabinet, sydd dan reolaeth Plaid Cymru, gymeradwyo dechrau proses ymgynghoriad statudol ar y posibilrwydd o gau ysgolion yn y Borth, Llangwyryfon, Llanfihangel-y-Creuddyn a Phonterwyd ddoe (dydd Mawrth, Medi 3).
Niferoedd isel o ddisgyblion a’r angen i arbed arian sy’n golygu bod Ysgol Craig yr Wylfa yn y Borth, Ysgol Llanfihangel-y-Creuddyn, Ysgol Llangwyrfon ac Ysgol Syr John Rhys ym Mhonterwyd dan fygythiad.
Fe wnaeth dros 150 o ymgyrchwyr gynnal protest tu allan i bencadlys y Cyngor yn Aberaeron ddoe, ac fe wnaeth Ffred Ffransis o Gymdeithas yr Iaith dorri ar draws y cyfarfod.
Mae Cymdeithas yr Iaith yn dweud bod y Cyngor wedi torri’r Cod Trefniadaeth Ysgolion, a bod y fethodoleg y tu ôl i’r cynigion i gau’r ysgolion “yn anghywir”.
Yn ôl adroddiad i’r Cabinet, mae ystadegau’n awgrymu bod nifer y plant yn y pedair ysgol wedi gostwng ers 2020:
- o 30 i 19 yn Ysgol Llanfihangel-y-Creuddyn
- o 25 i 22 yn Ysgol Syr John Rhys
- o 42 i 29 yn Ysgol Craig y Wylfa
- o 46 i 30 yn Ysgol Llangwyrfon.
Er bod adroddiadau’n rhagfynegi gostyngiad pellach yn y blynyddoedd nesaf, mae rhieni a llywodraethwyr yn dweud nad yw hynny’n wir.
Mae’r adroddiadau’n dangos bod y gost fesul disgybl yn yr ysgolion yn uwch na’r cyfartaledd dros Geredigion, a bod angen gwerth £77,500 o waith adeiladu yn Ysgol Syr John Rhys.
‘Dim Cymraeg wrth gau’r ysgol’
Mae gan Lizzie Jones bedwar o blant sydd wedi bod neu’n mynd i fod ddisgyblion yn Ysgol Craig y Wylfa yn y Borth.
“Bydd cau Ysgol Craig yr Wylfa’n cael effaith ddinistriol ar y plant sy’n mynychu, mae gennym ni gyfran uchel o blant sydd gan Anghenion Dysgu Ychwanegol sy’n ffynnu mewn dosbarth bach, cymysg,” meddai wrth golwg360.
“Bydd effaith cau ysgol fach ar y gymuned yn eang, yn economaidd, yn gymdeithasol ac i’r Gymraeg.
“Dw i’n methu siarad fy iaith fy hun, ac mae hynny’n siom.
“Wnes i ddim mynd i fy ysgol Gymraeg leol; cefais i fy ngyrru oddi yno i ysgol gynradd Saesneg, a doeddwn i ddim eisiau hynny i fy mhlant – roeddwn i eisiau i fy mhlant allu siarad eu hiaith, gallu cyfrannu yn eu cymuned, gallu cael swydd pan maen nhw’n hŷn yn eu gwlad.
“Os ydych chi’n tynnu’r ysgol honno allan o’r Borth, cymuned Saesneg yn bennaf, rydych chi’n mynd i golli’r Gymraeg mae’r plant yn ei gynnig drwy gyngherddau Nadolig yn y neuadd gymunedol, y gwaith maen nhw’n ei wneud gyda Hwb Cymunedol y Borth a’r henoed, drwy’r Eisteddfod… fydd lot o bobol yn y Borth ddim yn clywed y Gymraeg os ydych chi’n cau’r ysgol.
“Mae gen i ofn y bydd rhai teuluoedd, os yw’r ysgol yn cau, yn dewis mynd â’u plant i ysgolion Saesneg yn y dref.”
Ychwanega y byddai cau’r ysgol yn “dorcalonnus i’r plant, yn fwy na dim”.
I Dal-y-bont, sydd tua phum milltir o’r Borth, y byddai disgwyl i’r plant fynd wedyn, ond “nid dyna fyddai’r realiti”, meddai.
“Rydyn ni’n mynd i frwydro dros yr ysgol gyda phopeth sydd gennym ni.”
‘Y ferch yn ei dagrau’
Mae Barry Powell yn llywodraethwr ac yn rhiant i ddisgybl yn Ysgol Llanfihangel-y-Creuddyn, a dywed fod ei ferch yn ei dagrau’n poeni mai dim ond blwyddyn sydd ganddi ar ôl yn ei hysgol gynradd.
“Mae e’n anodd iawn i gymryd pan rydyn ni’n edrych ar y ffeithiau gafodd eu rhoi o’n blaenau ni yn y siambr ddoe, i weld bod gennym ni Blaid Cymru fel wyth aelod Cabinet yn eistedd yna efo’r penderfyniad mawr,” meddai wrth golwg360.
“Rydyn ni’n sôn am gabinet plaid sydd i fod i gefnogi’r iaith Gymraeg a chymunedau a’r diwylliant Cymreig, a does yna ddim cefnogaeth i weld o unman.”
Fe wnaeth chwech o’r aelodau bleidleisio dros ymgynghoriad, a dau yn erbyn, cyn i un ohonyn nhw adael y siambr yn sgil salwch.
Mae Barry Powell yn cydnabod fod yna broblemau ariannol, a bod dadleuon Bryan Davies, arweinydd y Cyngor, ynglŷn â diffyg arian i’r sir gan lywodraethau Cymru a San Steffan yn “ddigon teg”.
Fodd bynnag, “rhaid i Geredigion ddosbarthu’r arian yn deg drwy’r sir i gadw’r cefn gwlad”, meddai, gan ychwanegu bod ganddo bryderon am allu’r Cyngor i wneud hynny.
‘Anghywir, anghyfreithlon’
Er ei fod, fel cynghorydd sir, yn deall pam fod y penderfyniad i gynnal ymgynghoriad wedi’i wneud, dywed Gwyn Wigley Evans y dylai llesiant plant ddod cyn penderfyniadau ariannol.
“Rydyn ni wedi cael cefnogaeth arbennig oddi wrth wleidyddion, rhieni, a’r gymuned leol,” meddai’r cynghorydd Gwlad dros Langwyryfon wrth golwg360.
“Maen nhw’n gweld, os yw’r ysgol yn cau, y bydd yr ardal yn llymach.”
Pe bai’r ysgolion yn cau, byddai gofyn i ddisgyblion Llangwyryfon a Llanfihangel-y-Creuddyn symud i Ysgol Llanilar, sydd tua phum milltir a hanner i ffwrdd, ac i blant Bonterwyd deithio pedair milltir i Bontarfynach.
“Y broblem ydy, efo symud plant o gwmpas, mae o’n mynd yn erbyn lot o egwyddorion y Cyngor a Chymru fel gwlad,” meddai.
“Y broblem fwyaf yw mai iaith yr iard yn Llanilar yw Saesneg, iaith yr iard a thu mewn yr ysgol yn Llangwyryfon ydy Cymraeg, a dydy rhieni ddim eisiau hynna.
“Beth mae pobol yn dweud wrtha i, so nhw’n deall pam bod Plaid Cymru, o bawb, yn cau ysgolion Cymraeg, Cymreig cefn gwlad.
“Dyna le mae cryfder yr iaith, dyna le mae eu pleidleisiau nhw’n dod; mae sawl un wedi dweud yn barod na fyddan nhw’n cael eu pleidlais nhw eto.
“Mae o’n hollol anghywir, anghyfreithlon hyd yn oed, i gau ysgolion o achos cyllideb.
“Fedra i weld y pwynt, dw i’n rhan o’r broses o wneud penderfyniadau anodd, ond plant sy’n dod gyntaf ac wedyn y gyllideb – rhaid i ni ffeindio fo o rywle arall.”
“Dyletswydd” chwilio am atebion
Yn ystod y cyfarfod ddoe, dywedodd Wyn Thomas, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Ysgolion, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau, mai ffactorau megis “niferoedd, capasiti gwag, cyllideb ysgolion a chost y disgybl” yw’r prif heriau.
Pwysleisiodd nad penderfyniad i gau’r ysgolion oedd pwrpas y cyfarfod, ond yn hytrach, edrych i gynnal ymgynghoriad.
“Dw i wedi bod yn meddwl tynnu’r papur, ond byddwn i’n osgoi’r cyfrifoldeb o drio ffeindio bod yr adran yn fwy cynaliadwy, ein bod ni’n gallu arbed arian, achos mae’n ofynnol bod pob adran yn edrych ar arbedion,” meddai.
“Dw i’n atebol i’r Cyngor am chwilio arbedion ac mae’n ddyletswydd arna i fwrw ymlaen â’r papurau hyn heddiw, er mor anodd yw’r penderfyniadau.”
Mae’r adroddiadau hefyd yn dweud y byddai disgyblion yn debygol o “gael mynediad at amrwyiaeth ehangach o weithgareddau addysgol ac allgyrsiol”, ac y byddai “arbedion refeniw o gau yn cyfrannu at hyfywedd ariannol parhaus seilwaith ysgolion yn gyffredinol”.