Mae arweinydd Cyngor Caerdydd yn gobeithio y bydd arena newydd y brifddinas yn “rhoi Caerdydd a Chymru ar y map rhyngwladol”.
Daeth cyhoeddiad fis diwethaf y bydd yr arena newydd yn agor ym Mae Caerdydd erbyn 2027.
Yn ôl Huw Thomas, mae’n rhaid cael yr arena newydd oherwydd mai dim ond dros fisoedd yr haf mae modd defnyddio Stadiwm Principality, a does dim digon o le yn Arena Utilita i ddenu’r artistiaid mwyaf i berfformio.
Dywed arweinydd Cyngor y brifddinas y bydd yr arena newydd hefyd yn eu “galluogi i daro’r nod o geisio cael miliwn o bobol yn ymweld â’r brifddinas bob blwyddyn”, gan ddod â “budd mawr i economi’r ddinas”.
Ymhlith yr artistiaid a bandiau mwyaf sydd wedi perfformio yng Nghaerdydd yn 2023 a 2024 mae Coldplay, Foo Fighters, Busted, Harry Styles a Taylor Swift.
“Os ydych yn edrych ar yr haf yma, a haf diwethaf, o ran darpariaeth cerddoriaeth yng Nghaerdydd, mae e fel ‘Who’s Who?’ o gerddorion pop a roc mawr y byd yn dod yma i berfformio yng Nghaerdydd,” meddai Huw Thomas wrth golwg360.
“Dwi’n cofio cyfnod ar ôl Covid tair blynedd yn ôl lle roedd pobol yn dweud does yna ddim dyfodol i berfformio cerddoriaeth byw!
“Mae hynny’n amlwg yn nonsens, on’d ydy?!”
Arena ar gyfer y flwyddyn gyfan
Dywed Huw Thomas fod Cyngor Caerdydd eisiau arena sy’n gallu cynnal digwyddiadau cerddorol ar raddfa fawr drwy gydol y flwyddyn.
“Beth rydym eisiau gweld ydi’r un fath o berfformiadau yn digwydd yn ystod y flwyddyn i gyd,” meddai.
“Mae angen gallu gweld datblygiad yr arena yng nghyd-destun ecosystem ddiwylliannol yn y ddinas.”
Cau lleoliadau
Mae’r Cyngor wedi’u beirniadu yn y gorffennol am beidio gwneud digon i gefnogi artistiaid a sefydliadau cerddorol lleol.
Fe wnaeth bar Gwdihŵ gau ei ddrysau yn 2019, fel rhan o ailddatblygu ardal Churchill Way yng nghanol Caerdydd.
Lleisiodd nifer sylweddol o bobol eu gwrthwynebiad i’r cynlluniau, ac roedd protest o 1,000 o bobol.
Dywed Huw Thomas ei fod yn “deall” y pryder sydd gan drigolion Caerdydd nad oes digon yn cael ei wneud i gefnogi sefydliadau lleol.
“Un o’r pethau cynnar wnes i fel arweinydd y Cyngor saith mlynedd yn ôl oedd comisiynu strategaeth gerddorol newydd,” meddai, gan ychwanegu bod Bwrdd Cerdd wedi cael ei sefydlu i gefnogi’r gwaith o weithredu’r strategaeth.
Mae’r Bwrdd yn cynnwys sefydliadau annibynnol fel Clwb Ifor Bach.
“Felly dw i ddim eisiau i bobol feddwl ein bod ni ond yn canolbwyntio ar yr arena yma; mi ydan ni’n canolbwyntio ar yr holl ystod o gerddoriaeth.”
Arena newydd yn “flaenoriaeth” i Gyngor Caerdydd
Yn rhan o’r cynllun, bydd Cyngor Caerdydd yn cefnogi’r arena gyda chyllid gwerth £150m.
Fel gafodd ei adrodd gan golwg360, mae rhai wedi beirniadu’r sylw sydd yn cael ei roi i ddatblygiadau preifat dros wasanaethau cyhoeddus, megis ysgolion Cymraeg.
Wrth ymateb i hyn, dywed Huw Thomas ei bod “yn sicr yn ddadl sydd yn cael ei rhoi ymlaen gan bobol sydd ddim yn cefnogi’r arena newydd”.
“[Rydyn] ni wedi bod yn glir yn ein maniffesto bod hyn yn flaenoriaeth i ni,” meddai.
“Ac i fi, dydy ymrwymiad i ddatblygu ac i addysg ddim yn gwrthdaro.
“Os ydych yn edrych ar ein gwariant ariannol ni mewn ysgolion, mae wedi cynyddu £100m y flwyddyn mwy na deuddeg mlynedd yn ôl.”
Ychwanega mai cynllun adeiladu ysgolion yng Nghaerdydd ydy’r un mwyaf o’i fath yng Nghymru.
“A be’ sydd yn hollbwysig i bobol ddeall ydy, yr arian mae’r Cyngor yn ei roi i mewn i ddatgloi datblygiad yr arena, mae yna brydles gyda’r datblygwr dros gyfnod o ddegawdau.
“Felly, yn y bôn, rydym yn gwneud arian ar y buddsoddiad hynny, ynghyd â’r gwelliant economaidd sydd yn dod i’r ddinas.”