Mae gwrthwynebiad ymysg rhai o drigolion Caerdydd i gynlluniau i adeiladu arena newydd gyda lle i 15,000 o bobol.

Bydd y cynlluniau ar gyfer yr arena yng Nglanfa Iwerydd ym Mae Caerdydd yn mynd yn eu blaenau wedi i gytundebau datblygu a chyllid gael eu harwyddo.

Mae’r cynllun yn cael ei arwain gan Gyngor Caerdydd, Live Nation Entertainment ac Oak View Group, gyda Robertson Property yn gwneud y gwaith datblygu, a’r disgwyl yw y bydd yr arena ar agor erbyn ail hanner 2027.

Cost y prosiect yw £250m, ac mae Live Nation, sydd â phrydles i redeg yr arena am 45 mlynedd, wedi cytuno i gyfrannu £100m tuag ato.

Cyngor Caerdydd fydd yn talu’r £150m arall, a byddan nhw’n gwneud hynny drwy ddefnyddio pwerau benthyca.

Yn rhan o’r prosiect, mae disgwyl gorfod dymchwel adeiladau fel y Travelodge a Chanolfan y Ddraig Goch yng Nglanfa Iwerydd.

Mae disgwyl y bydd arena arall Live Nation, Utilita Arena sydd â lle i 7,500 o bobol yng nghanol y ddinas, yn cau hefyd.

Angen ‘creu economi gylchol’

Wrth siarad â golwg360, dywed y bardd Dyfan Lewis, sydd hefyd yn gweithio yn y maes ynni cymunedol, fod gan Gyngor Caerdydd “obsesiwn ideolegol” ynghylch cael buddsoddiadau gan y sector breifat.

“Beth dw i’n meddwl sy’n siom yw bod gan Gyngor Caerdydd obsesiwn ideolegol dros feddwl bod y sector breifat yn mynd i achub pobol Caerdydd a thrawsffurfio ein heconomi,” meddai.

“A hyn yn lle meddwl am beth sy’n bosib gyda’u prosesau caffael nhw i gael mentrau cymunedol a chymdeithasol i wneud pethau diddorol iawn yn yr economi werdd.”

Dywed Dyfan Lewis fod rhaid i Gyngor Caerdydd fabwysiadu strwythur buddsoddi sydd yn fwy tebyg i ‘Fodel Preston’.

“Maen nhw [Cyngor Preston] wedi blaenoriaethu strwythurau caffael fel bod co-operatives a mentrau er budd cymdeithasau lleol yn cael y cytundebau gan y cyngor.”

Ychwanega fod hyn yn hynod o bwysig er mwyn sicrhau bod unrhyw arian sydd yn cael ei roi gan y Cyngor yn aros yn lleol.

“Beth mae o’n olygu yw bod o’n creu economi gylchol yn lleol achos maen nhw’n buddsoddi mewn pobol sydd yn rhan o’r system dreth leol,” meddai.

“A dyw’r arian yna ddim yn mynd at un boi sydd yn byw hanner ffordd o gwmpas y byd.”

‘Amheus am y lleoliad’

Roedd Ceri Davies yn un o’r rhai cyntaf i feirniadu lleoliad yr arena newydd, a’r arian sydd yn cael ei roi gan y Cyngor i gefnogi’r adeilad.

“Pan dw i’n edrych arno fo o safbwynt statudol, dw i’n dueddol o gwestiynu beth mae’r Cyngor yn wneud,” meddai’r ymgeisydd dros y Blaid Werdd yng Nghaerdydd yn etholiad diwethaf y Senedd, wrth golwg360.

“Yn enwedig wrth ystyried yr arian sydd yn cael ei fenthyca, yr arian sydd wedi cael ei wario yn barod i gyrraedd y pwynt yma, a hyn i gyd wrth i feysydd statudol fel addysg fod mewn cyflwr drwg.”

Er ei fod yn cefnogi “datblygiadau mawr” fel hyn, mae Ceri Davies hefyd yn cwestiynu ai’r Bae yw’r lleoliad gorau i’r fath arena yn y brifddinas.

“Dw i’n amheus am y lleoliad yn y Bae ar gyfer arena sydd yn disgwyl cyn nifer o ymwelwyr,” meddai.

“Mewn dinas fel Caerdydd, dylai arena fel yma fod yn yr ardal fusnes ganolog, lle mae mynediad hawdd i’r prif hwb trafnidiaeth, sef Caerdydd Canolog.”

Fel rhan o brosiect Metro De Cymru, mae gwaith ar y gweill i agor platfform newydd yng ngorsaf Bae Caerdydd, ac i agor gorsaf newydd i’r gogledd o Dre-biwt, i helpu efo’r galw.

“Fel rydym yn gwybod, Bae Caerdydd yw’r prosiect mwyaf o ran adfywiad yng Nghymru dros y 40 mlynedd diwethaf, a bydd y prosiect diweddaraf yma yn rhwygo adeiladau weddol newydd – sydd ddim yn dda o safbwynt yr amgylchedd,” meddai wedyn.

Ymateb Cyngor Caerdydd

“Dydy’r Cyngor ddim yn ‘cynnal’ cwmni rhyngwladol,” meddai llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd.

“Bydd Live Nation yn talu pob ceiniog o’r gost o gyflwyno’r arena newydd.

“I’r gwrthwyneb, mae’r Cyngor yn cydweithio mewn partneriaeth er mwyn cyflwyno darn pwysig o isadeiledd y ddinas fydd yn helpu sector allweddol yn yr economi leol.

“Mae’r Cyngor wedi bod ynghlwm wrth gyflwyno’r prosiect hwn er mwyn sicrhau ei fod yn bodloni anghenion a dyheadau’r ddinas yn llawn.

“Bydd yr arena dan do yn cynnig cyfleoedd newydd i nifer o fusnesau lleol, ac yn darparu ystod eang o swyddi ar gyfer y gymuned leol.

“Mae’r Cyngor yn deall fod angen i ni ddarparu dull amlweddog o gefnogi’r economi leol.

“Mae hyn yn cynnwys gwaith ar brosiectau isadeiledd, i gefnogaeth wedi’i theilwra ar gyfer busnesau ac unigolion.

“Mae gan y Cyngor fentrau amrywiol i gefnogi busnesau o bob maint, gan gynnwys gofod busnes cost isel ar gyfer busnesau newydd ac ifainc, a chefnogaeth ariannol ar ffurf grantiau a benthyciadau.

“Mae’r Cyngor hefyd yn darparu ystod o wasanaethau ‘i mewn i’r gwaith’ i gefnogi unigolion.

“Mae addysg yn parhau’n flaenoriaeth i’r Cyngor, ac ym mis Mai fe wnaethon ni gyhoeddi ein strategaeth ddiweddaraf i fuddsoddi mewn ysgolion.

“Mae hyn yn dilyn dros ddegawd o welliannau sylweddol mewn safonau addysg yng Nghaerdydd, ochr yn ochr â rhaglen fawr o fuddsoddiad arweiniodd at fwy na £460m yn cael ei wario ar adeiladu ysgolion uwchradd a chynradd newydd.

“Yn nhermau’r honiad nad yw’r arena dan do newydd yn cael ei hadeiladu’n agos i’r prif hybiau trafnidiaeth, mae’n rhaid egluro bod hyn yn hollol anwir, gan y bydd yr arena yn cael ei gwasanaethu gan y gwasanaeth METRO newydd i Fae Caerdydd, yn ogystal â cham cyntaf Crossrail Caerdydd.

“Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn yn sicrhau bod tri phlatfform rheilffordd ym Mae Caerdydd – dau blatfform ar gyfer y gwasanaeth METRO, fydd yn rhedeg o Bontypridd i Fae Caerdydd, ac un platfform ar gyfer Crossrail Caerdydd.

“Bydd cam cyntaf Crossrail yn rhedeg o gefn gorsaf Caerdydd Canolog hyd at orsaf Bae Caerdydd, gan ddarparu gwasanaeth symud torfol yn llythrennol i’r tu allan i ôl troed yr arena ym Mae Caerdydd.

“Tu hwnt i hynn, bydd Rhodfa Lloyd George, sy’n rhedeg o ganol y ddinas i Fae Caerdydd, yn cael ei thrawsnewid, gan ddarparu gwell gwasanaethau ar gyfer bysiau, seiclwyr a’r rhai sy’n dewis cerdded.

“Bydd cyfleuster parcio a theithio hefyd yn cael ei ddarparu, y bydd modd cael mynediad iddo o goridor yr M4, yn ogystal â pharcio ychwanegol a gosodiad ffordd newydd yn rhan o’r datblygiad.”