Daeth y ‘garreg las’ fwyaf sydd yng nghanol Côr y Cewri o’r Alban, nid o Gymru, yn ôl ymchwil newydd.
Ers can mlynedd, y gred oedd bod Maen yr Allor, sy’n pwyso chwe thunnell, wedi dod o Gymru.
Fodd bynnag, mae astudiaeth o oedran a chemegau mwynau o ddarnau o’r garreg yn dangos bod tebygrwydd rhyngddi a Hen Dywodfaen Coch yng ngogledd ddwyrain yr Alban.
Dechreuodd y gwaith o adeiladu Côr y Cewri 5,000 o flynyddoedd yn ôl, ac er nad yw’n glir pryd cyrhaeddodd Maen yr Allor y casgliad, mae’n bosib ei bod hi wedi’i gosod yn ystod ail gyfnod yr adeiladu tua 2620 i 24800 CC.
O ardal Mynyddoedd y Preseli yng ngorllewin Cymru y daeth y mwyafrif o ‘gerrig gleision’ Côr y Cewri, a’r gred yw mai nhw oedd y cerrig cyntaf i’w codi ar y safle yn Swydd Wilton.
Yn draddodiadol, mae Maen yr Allor – sy’n fath gwahanol o garreg – wedi cael ei chategoreiddio gyda gweddill y cerrig hyn.
Fodd bynnag, dechreuodd arbenigwyr gwestiynu hynny ugain mlynedd yn ôl.
Llynedd, daeth ymchwilwyr i’r canlyniad nad oedd hi’n bosib bod Maen yr Allor wedi dod o Gymru, ond roedd ei darddiad yn parhau’n ddirgelwch.
Mae’r darganfyddiad newydd yn awgrymu bod y garreg wedi’i symud o leiaf 700 km, neu 435 milltir, a bod cerrig o bob rhan o wledydd Prydain wedi’u defnyddio.
‘Sut oedd modd cludo carreg enfawr?’
Cafodd yr ymchwil ei arwain gan Anthony Clarke, myfyriwr doethuriaeth o Gymru sy’n gweithio ym Mhirfysgol Curtin yng Ngorllewin Awstralia.
“O ystyried cyfyngiadau technolegol y Neolithig, mae ein canfyddiadau’n codi cwestiynau hynod ddiddorol ynghylch sut roedd modd cludo carreg enfawr o’r fath dros y pellter helaeth y mae’r canfyddiadau yn ei awgrymu,” meddai Anthony Clarke.
“O ystyried y rhwystrau mawr ei symud dros y tir ar y ffordd o ogledd-ddwyrain yr Alban i Wastadfaes Caersallog, mae trafnidiaeth forol yn un opsiwn dichonadwy.”
Er nad yw’r ymchwil yn cynnig tystiolaeth uniongyrchol am sut y cyrhaeddodd Maen yr Allor Swydd Wilton, bydd darganfod ei bod wedi teithio cyhyd yn codi cwestiynau am ei thaith o ystyried cyfyngiadau technoleg ddynol yn ystod y cyfnod Neolithig.
“Mae’r garreg hon wedi teithio’n bell iawn – o leiaf 700 km – a dyma’r daith hiraf gan gofeb a gofnodwyd yn y cyfnod hwnnw,” ychwanega’r Athro Nick Pearce o Brifysgol Aberystwyth.
“Mae’r pellter wnaeth e deithio yn rhyfeddol o ystyried hynny.
“Er nad pwrpas ein hymchwil empirig newydd oedd ateb y cwestiwn o sut y cyrhaeddodd yno, mae yna rwystrau enfawr amlwg i gludo a thaith gynddrwg ar y môr hefyd.
“Does dim dwywaith bod y ffaith bod y garreg yn dod o’r Alban yn dangos lefel uchel o drefniadaeth gymdeithasol yn Ynysoedd Prydain yn ystod y cyfnod.
“Bydd gan y canfyddiadau hyn oblygiadau enfawr ar gyfer deall cymunedau yn y cyfnod Neolithig, y graddau yr oedden nhw’n gysylltiedig, a’u systemau trafnidiaeth.”
‘Gwirioneddol ryfeddol’
Dywed yr Athro Richard Bevins o Brifysgol Aberystwyth, cyd-awdur yr ymchwil, bod y canfyddiadau yn “wirioneddol ryfeddol” ac yn gwrthdroi’r hyn gredwyd dros y ganrif ddiwethaf.
“Rydym ni wedi llwyddo i weithio allan, os mynnwch, oedran ac olion bysedd cemegol yr hyn y gallwch chi ei disgrifio fel un o’r cerrig enwocaf yn yr heneb fyd-enwog,” meddai’r Athro Richard Bevins.
“Mae’n wefreiddiol gwybod bod ein gwaith dadansoddi cemegol a dyddio wedi datgloi’r dirgelwch mawr hwn o’r diwedd.
“Bellach, gallwn ni ddweud mai Albanaidd ac nid Cymreig yw’r graig eiconig hwn.
“Er y gallwn ni ddweud cymaint â hynny, ac yn hyderus – bydd pobl yn dal i chwilio o ble yn union yng ngogledd-ddwyrain yr Alban y daeth Maen yr Allor.”