Mae pryderon wedi cael eu codi am gynlluniau i godi bwyty McDonald’s wrth gatiau ysgol yng Nghwm Tawe.

Ym Mhontardawe, mae cynlluniau ar gyfer y bwyty byrfwyd wedi cael eu cymeradwyo ar gyfer safle sydd wedi’i gysylltu ag Ysgol Gymunedol Cwmtawe gan bont droed, ac sydd ar y prif lwybr cerdded diogel i’r ysgol.

Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru eisoes wedi codi pryderon bod un o bob tri phlentyn yng Nghymru yn dechrau ysgol gynradd dros eu pwysau neu’n ordew.

Yn ôl amcangyfrifon Iechyd Cyhoeddus Cymru, cost gordewdra i’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru yw £73m, ac mae disgwyl iddo godi i £465m erbyn 2050.

“Oedi” ar bolisiau iechyd

Daw hyn wrth i Sioned Williams, Aelod Plaid Cymru o’r Senedd dros Orllewin De Cymru, feirniadu Llywodraeth Cymru am oedi am saith mlynedd wrth gyflwyno rheoliadau iechyd.

Mae Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 yn gosod dyletswydd statudol ar Lywodraeth Cymru i wneud hi’n orfodol i gyrff cyhoeddus gynnal Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd (HIA).

Noda’r Ddeddf fod HIA yn “asesiad o effaith debygol, yn y tymor byr ac yn y tymor hir, gam neu benderfyniad arfaethedig ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl pobol Cymru neu ar iechyd corfforol ac iechyd meddwl rhai o bobol Cymru”.

Pan gafodd ei holi am yr HIAau fis Mehefin diwethaf, dywedodd Eluned Morgan, oedd yn Weinidog Iechyd ar y pryd, fod y polisi’n un “gwirioneddol arloesol”.

Agorodd ymgynghoriad ar yr HIAau fis Rhagfyr diwethaf, ond ers iddo gau ym mis Mawrth eleni, does dim diweddariad wedi cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru.

‘Effaith negyddol ar blant’

Mae Sioned Williams, sydd hefyd yn llefarydd ei phlaid ar Gyfiawnder Cymdeithasol a’r Blynyddoedd Cynnar, a Nia Jenkins, y cynghorydd Plaid Cymru lleol, wedi gwrthwynebu’r cynnig i adeiladu McDonald’s ger Ysgol Gymunedol Cwmtawe.

Roedd Pennaeth Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot eisoes wedi ysgrifennu at Sioned Williams i gadarnhau bod “dim gofyniad statudol i gyflwyno HIA”.

Ar ôl ymweld â’r safle ddoe (dydd Mawrth, Awst 13), fe wnaeth pwyllgor cynllunio Cyngor Castell-nedd Port Talbot benderfynu cymeradwyo’r cais.

“Mae’r pwysau anhygoel sydd ar ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn hysbys i bawb, ac er bod Llywodraeth Cymru yn siarad am fesurau iechyd ataliol er mwyn lleddfu’r baich, dydyn nhw ddim wedi gweithredu’n ddigonol ar draws y rhaglen lywodraethu,” meddai Sioned Williams.

“Yn y cyfamser, mae gennym enghreifftiau o’r byd go iawn o benderfyniadau cynllunio sy’n cael eu gwneud a allai gael effaith negyddol ar iechyd plant lleol.

“Mae’r McDonald’s sydd wedi ei gynllunio ar gyfer Pontardawe ar stepen drws Ysgol Gymunedol Cwmtawe, o fewn pellter cerdded hawdd i Ysgol Gynradd yr Alltwen ac Ysgol Gyfun Gymraeg Pontardawe ac o fewn 1.5 milltir i bedair ysgol gynradd arall yn yr ardal.

“Gallai gofyniad i gynnal HIA chwarae rhan hanfodol wrth alluogi’r cyngor i werthuso effaith bosibl eu gweithredoedd ar iechyd.

“Dim ond y mis diwethaf fe edrychodd Eluned Morgan ar wahardd ail-lenwi am ddim ar ddiodydd llawn siwgr, ac mae hi wedi sôn o’r blaen am wahardd bargeinion bwyd meal deals, ond mae arafwch ei gweithredu ar HIAau wedi gadael y ffordd yn glir i fwytai bwyd cyflym godi y tu fa’s i gatiau’r ysgol.”

‘Oedi yn sgil Brexit a Covid’

Dywed llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod nhw wedi “ymrwymo i gyflwyno dyletswydd statudol ar sefydliadau i gynnal Asesiadau o’r Effaith ar Iechyd mewn rhai amgylchiadau”.

“Rydyn ni’n cydnabod yr oedi cyn dod â’r rheoliadau hyn i rym, a effeithiwyd gan Brexit a’r ymateb i Covid-19,” meddai.

“Mae’r gwaith bellach yn mynd rhagddo ac, yn dilyn yr ymgynghoriad a ddaeth i ben ddiwedd mis Mawrth 2024, mae ystyriaeth o’r ymatebion a dderbyniwyd ar y gweill a bydd yn cael ei gyhoeddi maes o law.”