Mae aelod o dîm ymgyrchu Jeremy Miles i fod yn arweinydd y Blaid Lafur ddechrau’r flwyddyn wedi galw ar y blaid i beidio ffeindio “cysur mewn arferion neu atebion cyfarwydd” er lles dyfodol Cymru.

Mewn araith yn yr Eisteddfod Genedlaethol, dywedodd bod “gennym ni bedair neu bum plaid weddol ddifflach yng Nghymru heddiw, a diffyg ffydd mewn gwleidyddion yn gyffredinol”.

Bu Owain Williams yn drefnydd ar ymgyrch Jeremy Miles i fod yn arweinydd y Blaid Lafur ar ddechrau’r flwyddyn, pan gollodd i Vaughan Gething.

“Rydyn ni’n wlad rhy gymhleth…”

Wrth siarad yn sesiwn Cymdeithas Cledwyn, cymdeithas iaith Gymraeg Llafur Cymru, ochr yn ochr â’r Aelod Seneddol Nia Griffiths, dywedodd bod yr angen am sgwrs glir a chadarn am ddyfodol y Blaid Lafur yn gliriach nag erioed.

Bu’n siarad o flaen cynulleidfa oedd yn cynnwys cyn-aelodau, ac aelodau presennol, o’r llywodraeth megis Mark Drakeford a Jeremy Miles.

Dechreuodd wrth drafod ar heriau sy’n wynebu Cymru.

“Er gwaethaf pob ymdrech, mae’n rhaid bod yn onest fod Cymru’n dechrau o fan heriol. Dyw llwyddiant neu achubiaeth ddim yn anorfod, ac efallai ddim yn debygol hyd yn oed,” meddai.

“Rydyn ni’n wlad rhy gymhleth, rhy araf, gyda 22 awdurdod lleol, 12 bwrdd iechyd neu ymddiriedolaeth, a chyfundrefn a alwyd gan yr ymchwiliad Covid yn ‘labyrinthaidd’.

“Felly – fe fydd yn rhaid i ni lwyddo yn erbyn tebygolrwydd. Ac ni fydd newid graddol yn ddigon i wneud hynny.”

I fynd i’r afael â’r pryderon hyn, awgrymodd Owain Williams dair ffordd y gall Cymru fynd ati.

Dywedodd bod rhaid i Gymru fod yn wlad “fwy llewyrchus” o ran yr economi, ffeindio ffordd “o weithredu yn greadigol” efo’r gwasanaethau cyhoeddus, a “newid diwylliant Cymru”, oll “gyda meddylfryd newydd a ffordd newydd o wneud pethau”.

“Heriau heddiw ac yfory yn galw am ddulliau hollol newydd”  

Wrth drafod sut all y Blaid Lafur gyflawni’r nodau hyn, dywedodd bod rhaid gwerthfawrogi’r hyn sydd wedi digwydd dros y chwarter canrif ddiwethaf, ond bod ddoe wedi mynd a bod heriau heddiw ac yfory yn galw am “ddulliau hollol newydd”.

Cwestiynodd beth sy’n atal y llywodraeth rhag “gosod gweledigaeth hollol herfeiddiol” i Gymru, neu “flaenoriaethu llewyrch economaidd”, neu hyd yn oed symud pencadlys y blaid “allan o strydoedd cul Pontcanna ac i’r Cymoedd”.

“Does yna ddim byd fan hyn sy’n galw am adael ein gwerthoedd. I’r gwrthwyneb, mae’n gwerthoedd yn mynnu ein bod ni’n gwneud hyn,” ychwanegodd.

Rhybuddiodd, os na fydd trawsnewid, ei bod hi’n bosib, fel sydd wedi digwydd i fusnesau, brandiau a thimau chwaraeon, i beidiau gwleidyddol “farw”. 

‘Ffyddiog yng ngallu’r blaid’

Wrth siarad â golwg360, dywedodd Owain Williams ei fod yn credu y gall y Blaid Lafur yng Nghymru, fel y mae hi ar hyn o bryd, gyflawni’r hyn y gwnaeth ei gyflwyno.

Ni fyddai torri’n rhydd rhag gorffennol y blaid – hynny yw, newid pethau ar ôl chwarter canrif mewn grym – yn golygu bod y drefn dros y 25 mlynedd ddiwethaf wedi bod yn un wael, ychwanega.

“Dw i’n credu bod disgwyliadau pobol yn eithaf uchel o ran sut fydd torri’n [rhydd oddi wrth] orffennol [y blaid Lafur] mewn ffordd adeiladol yn edrych,” meddai Owain Williams.

“Ac mae hynny’n bosib, does ddim angen bod yn amddiffynnol, ac yn sicr nid yw’r toriad yma yn [golygu bod] ryw ddiffyg gwerthfawrogiad am y gorffennol chwaith.

“Gyd rwy’n ddweud yw bod angen ffyrdd newydd o weithredu, ac wrth gwrs nid yw hynny yn hawdd, ac i ryw raddau mae’n anoddach i ni yn y sefyllfa rydyn ni ynddo.

“Ond rwyf yn ffyddiog [yng ngallu’r] blaid i wneud hyn, ac yn wir yr unig rwystr yw ni ein hunain.”