Mae gan yr heddlu fwy o bwerau mewn tair tref yng Ngwynedd yn sgil “mathau cynyddol a newydd o ymddygiad gwrthgymdeithasol”.

Mae Cyngor Gwynedd wedi cyflwyno Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus (GDMC) yng Nghaernarfon, Pwllheli a Chricieth.

Bydd gan yr heddlu fwy o rym yno i fynd i’r afael â materion neu niwsans penodol.

Cafodd y GDMC ei dylunio i dargedu:

  • Ymddygiad sy’n debygol o beri aflonyddwch, dychryn, niwsans neu boendod.
  • Ymdroi mewn cyflwr meddwol yn sgil alcohol neu gyffuriau.
  • Yfed alcohol yn dilyn cais gan yr Heddlu i stopio yfed.

‘Lle diogel a braf i fyw’

Dywed y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet Cyngor Gwynedd sy’n gyfrifol am ddiogelwch cymunedau, bod y Gorchmynion wedi’u cyflyno’n dilyn ymgynghoriad â’r gymuned a phartneriaid.

“Bydd y GDMC yn ddull pwysig i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, ond dim ond un rhan o’r datrysiad ydyn nhw,” meddai Dilwyn Morgan.

“Bydd Cyngor Gwynedd yn parhau i weithio’n agos gydag ein partneriaid o Heddlu Gogledd Cymru a’r gymuned ehangach i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a chefnogi pobl sy’n parchu’r gyfraith wrth iddynt fyw eu bywydau bob dydd.

“Ni allaf bwysleisio digon bod y dair ardal hon o Wynedd yn ardaloedd diogel a braf i fyw, gweithio ac ymweld â hwy a bod y mwyafrif helaeth o bobl yno erioed wedi bod yn rhan o unrhyw fath o ymddygiad gwrthgymdeithasol ac ni fydd y Gorchmynion newydd yn stopio pobl rhag cymdeithasu a chael mynediad at a mwynhau mannau cyhoeddus.

“Pwrpas y Gorchmynion yw ei gwneud yn haws i awdurdodau fynd i’r afael â’r lleiafrif bychan o bobol sy’n rhan o ymddygiad gwrthgymdeithasol, gan sicrhau bod ein cymunedau yn parhau i fod yn ardaloedd diogel, agored a bywiog y gall pawb eu mwynhau a theimlo’n ddiogel ynddynt.”

‘Erlyn y sawl fydd yn torri’r GDMC’

Ychwanega Steve Pawson, Prif Arolygydd Gwynedd, bod timau plismona’r ardaloedd hynny’n croesawu’r penderfyniad.

“Bydd y GDMC yn helpu’r timau plismona wrth ymdrin ag unigolion sy’n ymddwyn mewn modd gwrthgymdeithasol yn gyson ac yn cael effaith andwyol ar y gymuned,” meddai.

“Edrychwn ymlaen at barhau i weithio gyda’r Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol i sicrhau bod Gwynedd yn le croesawgar i bawb ymweld, byw a gweithio ynddi.

“Mae torri’r GDMC yn drosedd a bydd hyn yn cael ei drin drwy erlyniad drwy’r Llys Ynadon.”