Mae sbwriel a biniau ailgylchu heb eu casglu yn y gogledd yn denu “llygod mawr, mwydod a phryfed” yn ôl trigolion.
Mae rhai hyd yn oed yn bygwth peidio talu’u treth cyngor nes bod y broblem yn cael ei sortio.
Yn ôl y gwasanaeth gohebu democratiaeth, maen nhw wedi derbyn nifer uchel o gwynion a honiadau gan drigolion blin Sir Ddinbych sy’n dweud bod eu sbwriel yn pentyrru ers i system ailgylchu newydd Trolibocs gael ei lansio ym mis Mehefin.
Ers y newid, mae biniau’n cael eu casglu bob pythefnos yn hytrach na phob mis, â’r ailgylchu’n mynd bob wythnos yn lle bob pythefnos, ond mae’r newid wedi arwain at broblemau.
Mae Graham Boase, prif weithredwr Cyngor Sir Ddinbych, eisoes wedi ymddiheuro i drigolion am fod miloedd o gasgliadau wedi’u methu.
Yn ôl pob tebyg, mae system adrodd problemau ar-lein y cyngor yn gwrthod gweithio gan ei bod hi’n rhy brysur hefyd, ac mae cynghorwyr a thrigolion yn honni ei bod hi’n amhosib adrodd am broblemau.
‘Afiach’
Mae trigolion yn dweud nad yw eu sbwriel yn cael ei gasglu, ac mae nifer wedi cael digon.
“Mae hi’n ddeufis a hanner ers i’r system ddyrys hon ddechrau, ac mae’r ailgylchu wedi cael ei gasglu deirgwaith a’r sbwriel cyffredinol unwaith,” meddai Ian Jarvis, sy’n 56 ac yn byw yn Y Waun ger Llanelwy ers 2016.
“Wrth yrru i’r Waun o’r A55 dyw’r ffordd ddim yn bert fel oedd hi’n arfer bod, mae hi’n llawn biniau sy’n gorlenwi’n disgwyl i gael eu casglu.
“Does neb o Gyngor Sir Ddinbych yn trafferthu ateb cwynion.
“Mae’n gwbl afiach bod y system hon wedi’i chyflwyno, yn amlwg heb astudiaethau digonol i weld a fyddai’n bosib casglu’r holl sbwriel yn unol â’r amserlen, gyda’r adnoddau sydd ar gael i Gyngor Sir Ddinbych, a dydy’r rhai sy’n cael eu talu ag arian cyhoeddus methu hyd yn oed ymateb, ymddiheuro na threfnu’r casgliadau.”
‘Dim casgliadau ym mis Mehefin’
Dywed Andy Jones, 59 o Dremeirchion, na chafodd biniau eu casglu o gwbl ym mis Mehefin.
“Ers Mehefin, dim ond tair gwaith mae biniau wedi cael eu casglu, ac mae hi’n ganol Awst nawr,” meddai.
“Dylen nhw fod wedi cael eu casglu’r wythnos ddiwethaf, ond dydyn nhw heb.
“Mae’r gweithwyr wedi pasio eto heddiw a dweud nad ydyn ni ar y rhestr.
“Dw i’n talu £480 y mis mewn treth cyngor, dim ond am fy eiddo, a dw i’n talu am addysg fy merch, a’r unig beth dw i’n ei gael gan Sir Ddinbych, yn fy marn i, yw casgliadau’r bin.
“Felly gofynnais y cwestiwn, a fedrwn ni ganslo fy nhreth cyngor nes bod y biniau’n cael eu sortio.
“Yn gyfreithiol, chaf i ddim gan ei fod yn gytundeb.
“Ond, rhaid bod casglu’r biniau yn rhan o’u cytundeb nhw gyda fi hefyd, a does neb yn gwneud dim am hynny.”
‘Blin iawn’
Yn ôl Mike Pritchard, sy’n 58 oed ac yn byw ym Marian Cwm ger Dyserth, mae yna lot o bobol yn flin yn y pentref ac yn dweud bod biniau heb sydd heb gael eu gwagio yn cael eu gadael allan ers misoedd.
“Lle bach yw Marian Cwm, ac mae fwy neu lai 100% o’r trigolion yn flin iawn nad ydyn ni’n derbyn unrhyw wybodaeth am y gwasanaeth ei hun,” meddai.
“Rydyn ni ynghanol cefn gwlad, felly rydyn ni’n disgwyl gweld llygod, ond roedd yna’n sicr ychydig mwy ohonyn nhw o gwmpas.
“Mae ein treth cyngor wedi codi, rydyn ni’n talu lot mewn treth cyngor fyny yma.
“Ychydig iawn ydyn ni’n cael o ran gwasanaethau oherwydd ein bod ni’n bentref diarffordd.”
Mwydod, llygod mawr a phryfed
Dywed y Cynghorydd Chris Evans nad yw pobol Sir Ddinbych yn derbyn y gwasanaethau maen nhw’n eu haeddu.
“Mae deng wythnos wedi pasio ers iddyn nhw gyflwyno’r system finiau newydd,” meddai.
“Dydy’r biniau dal ddim yn cael eu casglu. Mae trigolion yn dweud hynny. Dw i’n dweud hynny.
“Mae’r lorïau ailgylchu’n mynd lawr y ffordd, efallai bod deg tŷ yn y rhes, ac maen nhw’n pasio pump o’r tai.
“Pan mae trigolion yn adrodd am y broblem ar-lein, mae’r system yn torri. Efallai eu bod nhw’n adrodd y broblem bump, chwech, saith, deg o weithiau, a does dim yn digwydd.
‘Mae gennym ni fwydod. Mae gennym ni bryfed. Llygod mawr. Llwynogod yn tynnu sbwriel allan o’r biniau. Mae’n llanast.
“Efallai eu bod trefn mewn trefi, fel Dinbych a Rhuthun, ond mae’r broblem yn yr ardaloedd gwledig.
“Dydy o ddim yn deg. Mae’r arweinydd a’r cabinet wedi codi treth y cyngor. Mae’r Cyngor wedi gwario £22m, a dydyn ni dal ddim yn gwybod faint mae’n mynd i gostio oherwydd mae’r problemau dal yn bod ac mae angen cael trefn arni.”