Mae data newydd yn dangos bod y nifer uchaf o ymadawyr ysgol yn ymuno’n syth â’r farchnad lafur ers 15 mlynedd.

Penderfynodd 13% o ddisgyblion Blwyddyn 13 fynd yn syth i gyflogaeth yn 2023.

Wrth i ganlyniadau arholiadau gael eu cyhoeddi yr wythnos hon, mae Llywodraeth Cymru yn annog pobol ifanc yng Nghymru i fwrw golwg ar yr opsiynau amrywiol a’r cymorth sydd ar gael iddyn nhw wrth gamu ymlaen ar ôl ysgol neu goleg.

Yn ôl data diweddar gan Gyrfa Cymru, gwasanaeth cyngor gyrfaoedd cenedlaethol Cymru, fe fu cynnydd sylweddol yn nifer y myfyrwyr sy’n ymuno â’r gweithlu yn syth ar ôl cwblhau Blwyddyn 11.

Y ganran hon, sef 9%, yw’r uchaf ers 2008.

Ond mae’r rhan fwyaf yn dal i ddewis dilyn addysg llawn amser.

Mae ffigurau hefyd yn dangos bod menywod ifainc yng Nghymru yn fwy tebygol o aros mewn addysg, o gymharu â dynion ifanc.

Ym Mlwyddyn 13, roedd gwahaniaeth nodedig o 9.2% rhwng nifer y menywod ifainc a dynion ifainc sy’n parhau mewn addysg llawn amser.

Cymorth

O ganlyniad i Warant i Bobol Ifanc Llywodraeth Cymru, gall pob un sy’n gadael yr ysgol a’r coleg yng Nghymru gael mynediad at bob math o gymorth i’w cynorthwyo yn eu taith ar ôl ysgol neu’r coleg.

Cafodd y Warant i Bobol Ifanc ei sefydlu er mwyn sicrhau bod pawb dan 25 oed yng Nghymru yn gallu cael help i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, dod o hyd i swydd, neu ddod yn hunangyflogedig.

Mae Cymru’n Gweithio yn darparu cyngor a chyngor gyrfaoedd am ddim a diduedd i’r sawl sy’n gadael yr ysgol a’r coleg, gan gynnig cymorth i helpu pobol ifanc i gymryd eu camau nesaf yn hyderus.

Ar ôl cwblhau ei chyrsiau Safon Uwch, llwyddodd Sophie Seymour, sy’n 18 oed ac yn dod o Gasnewydd, i sicrhau prentisiaeth, gan ddewis llwybr gwahanol i’r rhan fwyaf o fenywod ifainc, sydd fel arfer yn dewis parhau mewn addysg.

Roedd hi’n wynebu ansicrwydd pan gafodd ei chanlyniadau, felly bu’n edrych ar wahanol lwybrau cyn cael prentisiaeth yn y pen draw gyda chymorth ei chynghorydd yn Cymru’n Gweithio.

“Doedd prentisiaeth erioed wedi bod yn rhan o ‘nghynllun i,” meddai.

“Yn wreiddiol, roeddwn i’n ystyried bod yn gynorthwyydd hedfan, ac yna’n athrawes neu’n blismones.

“Fe wnes i hyd yn oed ymgeisio am rai cyrsiau prifysgol, cyn i mi sylweddoli nad dyma’r llwybr iawn i mi.

“Roeddwn i wedi drysu’n lân ynglŷn â beth i’w wneud.”

Llwyddodd hi i gael prentisiaeth mewn asiantaeth deithio leol, ond pan ddaeth hi’n amser am ei chyfweliad, gofynnodd am arweiniad gan Cymru’n Gweithio, yn dilyn argymhelliad gan ei ffrind.

“Roeddwn i wedi cyffroi am y brentisiaeth, oherwydd roeddwn i wrth fy modd â’r syniad o weithio ym maes teithio, ond rwy’n mynd i deimlo’n orbryderus, yn enwedig yn ystod cyfweliadau,” meddai.

“Roeddwn i’n poeni y gallai fy nerfau effeithio ar fy siawns o gael y swydd.

“Roedd fy nghynghorydd gyrfaoedd, Shawney, yn help mawr wrth i mi baratoi.

“Fe wnaeth Shawney helpu gyda chwestiynau ymarfer i sicrhau fy mod i’n teimlo’n hyderus, a phan oedd gen i amheuon, roedd hi wir yn fy annog i fy mod i’n gwneud yn dda.

“Rhoddodd ymarferion i mi hefyd i’m helpu i roi’r gorau i dapio ac aflonyddu pan oeddwn i’n nerfus, a oedd yn help mawr.”

Diolch i’r cymorth a gafodd Sophie, pasiodd ei chyfweliad a chafodd ei phrentisiaeth yn yr asiantaeth deithio.

“Roedd cael rhywun i siarad â hi, a oedd â dealltwriaeth ddofn o’r broses ac yn gwybod am yr holl opsiynau gwahanol oedd ar gael i mi yn amhrisiadwy.

“Roedd hi’n deall pa mor anodd oedd y cyfweliad i mi, felly roeddwn i’n teimlo ei bod hi’n deall fy anghenion a sut i weithio gyda mi.”

Deall anghenion economaidd Cymru

Gyda thon newydd o bobl ifanc yn dechrau gosod sylfeini eu gyrfaoedd, mae’n bwysig deall anghenion economi Cymru yn y dyfodol.

Mae’r angen am weithlu sy’n gallu defnyddio technoleg ar gynnydd, gyda data newydd yn dangos bod nifer yr hysbysebion swyddi ar-lein sy’n gofyn am Microsoft Excel wedi dyblu yn y tair blynedd diwethaf yng Nghymru.

Roedd hyn yn rhywbeth roedd Sophie Seymour yn ymwybodol ohono pan oedd hi yn yr ysgol.

“Fe wnes i gwrs TG Safon Uwch gan fy mod i’n gwybod bod cymaint o swyddi gwahanol yn gofyn am allu defnyddio technoleg, ac roeddwn i eisiau sicrhau bod gen i’r sgiliau angenrheidiol mae cyflogwyr yn chwilio amdanyn nhw,” meddai.

‘Llwybr cywir ar gael i bawb’

Yn ôl Nikki Lawrence, Prif Weithredwr Gyrfa Cymru, mae straeon fel un Sophie Seymour yn dangos pa mor bwysig yw hi bod pobol ifanc yn estyn allan am gymorth gyda’r agweddau hynny lle maen nhw angen cymorth fwyaf.

Mae darparu cyngor ymarferol a thosturiol yn hanfodol i’r hyn mae Gyrfa Cymru yn ei gynnig, medden nhw.

“Mae stori Sophie hefyd yn ein hatgoffa bod opsiynau gwahanol ar gael i bobol ifanc sy’n cael eu canlyniadau, ac mae’n bwysig eu bod yn ymwybodol y gallan nhw ystyried unrhyw un o’r llwybrau hyn,” meddai Nikki Lawrence.

“Rydyn ni bob amser yma i helpu unrhyw un a allai fod angen cymorth ar ôl cael eu canlyniadau yr haf hwn.

“Gallwn gynnig cyngor ac arweiniad arbenigol, gan helpu pobol ifanc i ddilyn llwybr nad ydyn nhw efallai wedi’i ystyried o’r blaen er mwyn cyflawni eu nod.

“Mae gan bobol ifanc lawer ar eu meddyliau, yn enwedig ar yr adeg hon o’r flwyddyn.

“Rydyn ni’n gwybod y gall rhai gael eu llethu wrth wneud dewisiadau am eu gyrfaoedd i’r dyfodol neu efallai nad ydyn nhw’n gwybod pa opsiynau sydd ar gael iddyn nhw.

“Mae yna lwybr cywir ar gael i bawb, ac mae ein cynghorwyr gyrfa yn Cymru’n Gweithio yma i’w helpu i gymryd y camau cyntaf tuag at ddod o hyd i’r llwybr hwnnw.”

Rhagolygon negyddol

Mae 31% o unigolion ifanc yng Nghymru wedi mynegi pesimistiaeth ynglŷn â’u rhagolygon addysg neu gyflogaeth i’r dyfodol.

Er y gall y byd gwaith ymddangos fel lle brawychus, mae’r realiti yn un llawer mwy cadarnhaol.

Daeth ymchwil gan gwmni dadansoddi’r farchnad lafur, Lightcast, i’r casgliad bod y galw am sgiliau digidol eisoes yn tyfu, gyda rhagolygon twf pellach ar gyfer sectorau allweddol fel ynni ac iechyd.

Mae disgwyl i nifer o sectorau o fewn economi Cymru weld twf gwirioneddol dros y bum mlynedd nesaf, ac wrth iddyn nhw wneud hynny, felly hefyd ragolygon gyrfa miloedd o bobol sy’n cymryd eu camau gyrfa cyntaf.

“Mae’n galonogol gweld myfyrwyr yn dilyn llwybrau gwahanol ar ôl cael eu canlyniadau,” meddai Ken Skates, Ysgrifennydd Economi Cymru.

“Mae’n ein helpu ni i greu sylfaen iach ar gyfer ein gweithlu yng Nghymru yn y dyfodol, ac mae’n dangos bod llwybr cywir i gael i bob person o unrhyw gefndir.

“Fel bob amser, ar drothwy cyfnod y canlyniadau, hoffwn ddymuno pob lwc i bawb sy’n disgwyl eu canlyniadau, ac rwy’n eich annog i edrych ar yr holl gymorth ac opsiynau sydd ar gael drwy’r Warant i Bobol Ifanc ac estyn allan at wasanaethau fel Cymru’n Gweithio i gael help i gymryd y camau nesaf.”