Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi polisi newydd i ddynodi sut y bydd dysgu a sgiliau yn cael eu gwella yng ngharchardai Cymru.

Nod y polisi yw ysgogi ac ysbrydoli carcharorion, a’u helpu i baratoi ar gyfer cyflogaeth, ennill annibyniaeth a chyfrannu at y gymdeithas.

Mae Cynllun Lleihau Aildroseddu ar gyfer Cymru 2022 i 2025 yn nodi bod pobol sy’n dod o hyd i swydd ar ôl cael gadael y carchar yn llai tebygol o aildroseddu na’r rhai sydd ddim.

Felly, mae’r Llywodraeth yn nodi bod buddsoddi mewn dysgu a sgiliau yn gam allweddol er mwyn hyrwyddo a datblygu diwylliant o adsefydlu yn ein system cyfiawnder troseddol.

Rhwng Ebrill y llynedd a Mawrth eleni, roedd 25% o’r carcharorion wedi cael gwaith chwe wythnos ar ôl iddyn nhw ddod allan o’r carchar.

Pan oedd dan glo yng Nghymru, derbyniodd un carcharor hyfforddiant drwy ReAct+, gan ddweud ei fod yn “mwynhau hyn yn fawr” ac nad oedd yn meddwl y byddai ganddo gyfle i ennill sgiliau ymarferol, wedi’u hachredu o fewn carchar.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at astudio ymhellach,” meddai.

‘Derbyniad da’

Dywed ymgynghorydd Gyrfa Cymru fod “y rhaglen wedi cael derbyniad da yng ngharchar Abertawe”.

“Mae’r adborth gan y dynion sydd wedi cwblhau’r cwrs yn hynod gadarnhaol, ac mae pob un ohonyn nhw wedi mynd i bob sesiwn,” meddai.

“Rydym nawr yn bwriadu parhau i gynnig cyllid ReAct+ yng ngharchar Abertawe, ac rydym am ymchwilio i gynlluniau hyfforddi eraill.”

Mae’r Llywodraeth yn gweithio mewn partneriaeth â Gwasanaeth Carchardai a Phrawf Ei Fawrhydi yng Nghymru, carcharorion a’r rhai sy’n gadael y carchar, darparwyr addysg a sefydliadau’r trydydd sector i lunio’r polisi ar y cyd.

Rhaglen “hanfodol ar gyfer adsefydlu”

Dywed Lynne Neagle, Ysgrifennydd Addysg Cymru, fod y “ddarpariaeth dysgu a sgiliau carcharorion yn hanfodol ar gyfer adsefydlu”.

“Yn aml, mae carcharorion dan anfantais yn y gymdeithas, ac mae’r polisi newydd hwn yn rhoi cyfle iddyn nhw ddatblygu’r sgiliau angenrheidiol sydd eu hangen arnyn nhw i ffynnu mewn cyflogaeth,” meddai.

“Rwy’n edrych ymlaen at weld y modd y bydd hyn o fantais i’r dysgwyr, i’n system cyfiawnder troseddol, ac i’r gymuned ehangach.”