Fe fydd ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ceisio datrys sut mae integreiddio newydd-ddyfodiaid i iaith y wlad sy’n eu croesawu.
Mae’r astudiaeth arloesol wedi’i hariannu drwy grant ymchwil gan Ymddiriedolaeth Leverhulme, ac fe fydd yn dechrau fis nesaf dan arweiniad yr Athro Leigh Oakes o Brifysgol y Frenhines Mary yn Llundain.
Hefyd ymhlith y tîm o ymchwilwyr mae Dr Huw Lewis o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth, ac arbenigwyr polisi iaith o Brifysgol Abertawe a Sefydliad Max Planck yn Göttingen yn yr Almaen.
Bydd dau fyfyriwr PhD hefyd yn cael eu penodi i weithio ar y prosiect, y naill ym Mhrifysgol Aberystwyth a’r llall ym Mhrifysgol y Frenhines Mary.
Dros gyfnod o dair blynedd, byddan nhw’n craffu ar bolisïau, profiadau a safbwyntiau ar integreiddio ieithyddol yng Nghymru, Lloegr a Quebec.
‘Dysgu iaith yn allweddol ar gyfer integreiddio’
Yn ôl yr Athro Leigh Oakes o’r Ysgol Ieithoedd, Ieithyddiaeth a Ffilm ym Mhrifysgol y Frenhines Mary yn Llundain, mae dysgu iaith y gymuned mae pobol yn symud iddi’n allweddol ar gyfer integreiddio.
“Fodd bynnag, ychydig o sylw sydd wedi’i roi i oblygiadau ymarferol a moesol integreiddio ieithyddol i newydd-ddyfodiaid a’r cymunedau sy’n eu croesawu, gan gynnwys mewn lleoliadau lle gall mwy nag un iaith weithredu fel y cyfrwng ar gyfer integreiddio,” meddai.
“Trwy ddefnyddio dull rhyngddisgyblaethol arloesol, bydd y prosiect hwn yn mynd i’r afael â bylchau sylweddol mewn ysgolheictod i ddarparu’r astudiaeth systemig gyntaf o foeseg integreiddio ieithyddol mewn cymdeithasau democrataidd.”
‘Hanes cryf o gyfrannu at drafodaethau polisi iaith’
Dywed Dr Huw Lewis o Brifysgol Aberystwyth fod gan yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol yno “hanes cryf o gyfrannu at drafodaethau polisi iaith ar lefel academaidd a pholisi – yma yng Nghymru ac yn rhyngwladol”.
“Edrychwn ymlaen at ddod â’r arbenigedd yma at y prosiect ymchwil Leverhulme,” meddai.
“Bydd cymharu polisïau a phrofiadau sy’n ymwneud ag integreiddio ieithyddol yng Nghymru a Lloegr yn arbennig o ddefnyddiol o ystyried sefyllfa fwyafrifol y Saesneg ochr yn ochr â sefyllfa leiafrifol y Gymraeg, ac ymdrechion diweddar Llywodraeth Cymru i ddefnyddio’u pwerau i ddatblygu ymagwedd tuag at integreiddio ieithyddol sy’n fwriadol yn wahanol iawn i’r hyn gaiff ei arddel gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn Lloegr.
“Ein gobaith yw y bydd modd dadansoddi’r gwersi gaiff eu dysgu drwy ein hymchwil a’u rhoi ar waith mewn llefydd eraill.
“Er enghraifft, i ba raddau y dylid disgwyl i newydd-ddyfodiaid ddysgu iaith neu ieithoedd y wlad y maen nhw’n symud iddi, beth yw ystyriaethau moesegol integreiddio ieithyddol, a beth yw’r goblygiadau ymarferol i addysg, gofal iechyd a gwasanaethau eraill o ran anghenion ieithyddol newydd-ddyfodiaid?”