Mae Undeb Amaethwyr Cymru wedi cymeradwyo’n llwyr argymhellion y Comisiwn Cymunedau Cymraeg ar bolisi amaethyddol.

Daw hyn ar ôl i’r Comisiwn gyhoeddi eu hadroddiad, Grymuso cymunedau, cryfhau’r Gymraeg, yn ystod Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf yr wythnos ddiwethaf.

Mae’r adroddiad yn argymell y “dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod y Gymraeg yn ystyriaeth ganolog mewn polisi amaethyddol”, y “dylid sicrhau cefnogaeth i’r fferm deuluol”, a bod “egwyddor pwysigrwydd y fferm deuluol yn cael ei hadlewyrchu mewn polisïau eraill megis polisi amgylcheddol”.

‘Cymuned o ffermydd teuluol ffyniannus a chynaliadwy’

Dywed Ian Rickman, Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru, mai gweledigaeth y mudiad yw “sicrhau bod gennym ni gymuned o ffermydd teuluol ffyniannus a chynaliadwy yng Nghymru”.

“Y teuluoedd amaethyddol yma, sy’n byw a gweithio o fewn eu cymunedau, yw asgwrn cefn ardaloedd gwledig ac economi cefn gwlad Cymru,” meddai.

“Mae sioeau amaethyddol sirol a sefydliadau cymdeithasol ac elusennau megis Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru ac adrannau ac aelwydydd yr Urdd wrth wraidd cynaliadwyedd y Gymraeg, treftadaeth a diwylliant Cymru.

“Fel y nodir yn yr adroddiad, mae 43.1% o weithlu’r diwydiannau amaeth, coedwigaeth a physgota’n siarad Cymraeg – y gyfran uchaf o siaradwyr Cymraeg o’r holl sectorau economaidd yng Nghymru.

“Mae argymhelliad y Comisiwn yn cyd-fynd yn llwyr â’n cred a’n gweledigaeth ni y dylai’r Gymraeg fod yn ystyriaeth ganolog yn natblygiad polisi amaethyddol ac amgylcheddol, ac yn rhan annatod o unrhyw daliad ‘gwerth cymdeithasol’ ddaw drwy’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy arfaethedig.

“Bydd unrhyw gynigion polisi yn y dyfodol sy’n niweidiol i fusnesau amaeth, cymunedau gwledig, neu i’r sector amaethyddiaeth yng Nghymru yn fygythiad uniongyrchol i’r diwydiant sy’n cynnwys y ganran uchaf o siaradwyr Cymraeg.”

Galw am gamau radical a statws arbennig i warchod cymunedau Cymraeg

Mae’r Comisiwn Cymunedau Cymraeg wedi cyhoeddi adroddiad ar gymunedau lle mae trwch y boblogaeth yn medru’r iaith