Mae datblygiadau ar droed i wella cysylltiadau rhwng canol y dref a glan y môr ar bromenâd y Rhyl.

Mae gwella amlygrwydd glân y môr a chreu gwell cyswllt rhwng canol y dref â’r traeth yn un o brif amcanion Gweledigaeth Canol Tref y Rhyl.

Yn rhan o hyn, mae Cyngor Sir Ddinbych am ymgymryd â’r gwaith o ddymchwel hen adeilad SeaQuarium i wella’r llwybr cyhoeddus a thacluso’r promenâd.

Mae’r adeilad, sy’n 30 oed, wedi bod yn wag ers cau SeaQuarium ddiwedd mis Tachwedd y llynedd, a dydy e ddim bellach yn addas fel atyniad twristiaeth modern.

Er bod yr adeilad mewn lleoliad addas ar lan y môr, ac er gwaethaf ymdrechion y Cyngor i gynnig yr adeilad i weithredwyr eraill, does neb wedi mynegi diddordeb ynddo.

Ar ôl ystyried yr holl opsiynau yn llawn, penderfynodd y Cyngor y gellid gwneud gwell defnydd o’r safle drwy ei ddymchwel, ac maen nhw mewn trafodaethau ynghylch sut y gallai’r lleoliad gwych hwn gael ei ddefnyddio yn y dyfodol.

‘Cam cadarnhaol iawn’

Mae gan y Cyngor Sir grant o 85% gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y gwaith Amddiffyn Arfordirol.

Mae’r llywodraeth hefyd wedi cytuno bod modd rhoi’r gost o ddymchwel yr adeilad yn erbyn y grant hwn er mwyn gwneud y safle’n ddiogel ac yn lleoliad defnyddiol ar gyfer atyniad yn y dyfodol.

Dywed y Cynghorydd Barry Mellor, yr Aelod â chyfrifoldeb dros yr Amgylchedd a Chludiant, fod hwn yn “gam cadarnhaol iawn ymlaen i wella’r promenâd yn y Rhyl”.

“Dyma gyfle i weld y safle amlwg hwn sydd yng nghanol parth twristiaeth y Rhyl yn cael ei wedd newid,” meddai.

“Mae’n lleoliad gwych wrth ymyl yr Arena Digwyddiadau ac yn cysylltu canol y dref â’r traeth.

“Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld y datblygiadau ar bromenâd y Rhyl fel y gallwn wneud y gorau o un o draethau gorau gogledd Cymru.”

Mae disgwyl y bydd y broses o ddymchwel yr hen adeilad yn cymryd tua dau i dri mis, gyda’r gwaith yn debygol o gychwyn yn yr hydref.