Mae dyfodiad yr Eisteddfod i Bontypridd wedi gadael busnesau yn Aberdâr yn cwestiynu pam nad oedd unrhyw hysbysebion ar gyfer yr ŵyl yn y dref.
Roedd nifer o fusnesau’r Cymoedd yn disgwyl gweld cynnydd yn nifer y cwsmeriaid yn eu siopau, ond doedd hynny ddim wedi digwydd yn Aberdâr ar y cyfan.
Yn ôl Barbara White, perchennog The Book Station ym Marchnad Aberdâr, doedd yr Eisteddfod “ddim wir wedi cael effaith ar fusnes o gwbl”.
Ar ddechrau’r wythnos, meddai, roedd hi’n poeni am effaith negyddol y traffig ar ei busnes.
“Wnaeth un cwsmer ddod o Benarth ac ymweld â’r siop ar ei ffordd i Bontypridd,” meddai wrth golwg360.
“Heblaw am hynny, does dim gwahaniaeth wedi bod.
“Mae ein cwsmeriaid arferol yn dod, ond neb arall.
“Daeth mwy o bobol i’r siop wythnos diwethaf pan oedden nhw’n ymweld â’r rasio beiciau modur.”
Dywed fod bai ar y Cyngor Sir am beidio hysbysebu’r Eisteddfod yn ddigon da drwy’r sir gyfan.
“Gallai’r Cyngor fod wedi gwneud mwy, o ran y taliadau parcio a’r ffaith nad oedd digon o hysbysebion o gwmpas Aberdâr,” meddai.
“Gwelais un hysbyseb o gwmpas y dref, a dim mwy.”
Llwybr Hen Wlad Fy Nhadau
Yn ystod yr Eisteddfod, fe fu busnesau Aberdâr a nifer o drefi eraill y sir yn cymryd rhan yn Llwybr Hen Wlad Fy Nhadau.
Fel rhan o’r llwybr, roedd gofyn i ymwelwyr deithio o gwmpas siopau’r dref er mwyn dod o hyd i eiriau ‘Hen Wlad Fy Nhadau’.
Roedd y llwybr yn dechrau a gorffen ger stondin Blas ar Gymru ym Marchnad Aberdâr.
Sut effaith gafodd y weithgaredd a’r Eisteddfod yn gyffredinol ar y busnes hwnnw?
“Mae’r llwybr wedi bod yn boblogaidd iawn gydag oedolion a phlant,” meddai’r perchennog Amanda Webber.
“Roedd oedolion yn dod â’u plant i gymryd rhan yn y llwybr yn stopio i edrych o gwmpas y farchnad a’n siop.”
Er bod y llwybr wedi tynnu sylw at ei siop, doedd yr Eisteddfod ddim wedi cael yr un effaith, meddai.
“Gwelsom gynnydd isel iawn yn gwsmeriaid yr wythnos hon, y rhan fwyaf yn ymweld â’r Eisteddfod ond roedden ni wedi gobeithio gweld mwy o ddiddordeb.
“Yn ffodus iawn, rydym wedi gweld ychydig bach o gynnydd mewn elw.
“Fel siop Gymraeg sy’n gwerthu bwyd ac anrhegion, gwelsom gwpwl o deuluoedd oedd yn ymweld â’r Eisteddfod.”
Cynnal diddordeb yn y dref
Ymwelodd Amanda Webber â’r Eisteddfod ym Mhontypridd yr wythnos hon, gan siarad â nifer o berchnogion ac asiantaethau o Aberdâr.
Gobaith pob un ohonyn nhw, meddai, yw fod y “diddordeb yn ein tref yn parhau”, ond maen nhw’n teimlo nad oes digon o hysbysebu wedi bod.
“Byddem wedi hoffi gweld mwy o gyhoeddusrwydd ar gyfer Rhondda Cynon Taf – mae Aberdâr a Threorci yn llefydd arbennig i ymweld â nhw,” meddai.
“Dw i ddim yn siŵr os bydd gweddill y Rhondda wedi elwa, ond dw i’n credu bod hyn yn bosib gyda chyfathrebu gwell gan drefnwyr a chymunedau.
“Yn anffodus, dw i ddim yn credu bod [yr Eisteddfod] wedi cael effaith enfawr ar ein tref na’n busnes.”
Ychwanega fod “angen mwy o gydweithio [rhwng yr Eisteddfod â busnesau lleol]”.
“Roedd pob ardal yn y Rhondda wedi gwneud gwaith codi arian arbennig, ac mae angen gwobrwyo eu hymdrechion,” meddai.
Mae golwg360 wedi gofyn am ymateb gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf a’r Eisteddfod.