Mae teyrngedau wedi’u rhoi i’r Cynghorydd Paul Hinge, cyn-gadeirydd Cyngor Sir Ceredigion, yn dilyn ei farwolaeth.

Fe fu’n cynrychioli ward Tirymynach ers 2008, a bu’n gadeirydd ar y Cyngor rhwng 2021 a 2022, yn ystod cyfnod arbennig o heriol Covid-19.

Dywed y Cyngor ei fod e wedi dangos “ei allu i addasu a chofleidio’r dechnoleg ddiweddaraf”, ac yntau’n gadeirydd cynta’r Cyngor i wneud ei waith yn rhithiol.

Yn ystod ei 26 mlynedd o wasanaeth i drigolion Ceredigion, bu hefyd yn gadeirydd ar nifer o bwyllgorau, gan gynnwys y Pwyllgor Rheoli Datblygu, y Pwyllgor Cydlynu Trosolwg a Chraffu, a’r Pwyllgor Ymddiriedolwyr Elusennau.

Yn ystod ei gyfnod yn Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog yng Ngheredigion, roedd yn frwd dros ddarparu cymorth a sicrhau bod cyn-filwyr y Lluoedd Arfog ledled y sir gyfan yn cael llais, ac roedd yn “ddiysgog wrth hyrwyddo egwyddorion rhyddid a democratiaeth”, medd y Cyngor, gan ychwanegu ei bod yn rôl bwysig iddo fel un fu’n gwasanaethu’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig.

Yn 2022, cafodd ei wahodd i nodi 40 mlynedd ers rhyfel y Malfinas.

‘Gwasanaethodd ei ward yn ddyfal’

“Mae’n ddrwg gennym glywed am farwolaeth y Cynghorydd Paul Hinge,” meddai’r Cynghorydd Bryan Davies, arweinydd Cyngor Sir Ceredigion.

“Fel Cynghorydd, gwasanaethodd ei ward yn ddyfal, ac roedd yn wyneb cyfeillgar i drigolion Ceredigion. Hoffem estyn ein cydymdeimlad dwysaf i deulu a ffrindiau agos Paul.”

Wrth dalu teyrnged, dywedodd Eifion Evans, Prif Weithredwr y Cyngor eu bod nhw “wedi tristau’n fawr o golli’r Cynghorydd Paul Hinge”.

“Mae ei ymrwymiad diwyro fel Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog yng Ngheredigion a’i wasanaeth rhagorol fel cyn-Gadeirydd y Cyngor wedi bod o fudd mawr i’n cymuned,” meddai.

“Roedd y Cynghorydd Hinge yn eiriolwr angerddol dros Gyn-filwyr y Lluoedd Arfog ac yn Gynghorydd uchel ei barch a oedd bob amser yn blaenoriaethu lles trigolion Ceredigion.

“Rydym yn cydymdeimlo’n fawr iawn gyda’i deulu yn ystod y cyfnod heriol hwn.”