Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy wedi annog preswylwyr i beidio â rhoi batris yn eu biniau sbwriel, wedi i danau gael eu cynnau mewn lorïau sbwriel.
Yn dilyn digwyddiadau diweddar, bu’n rhaid i griwiau casglu sbwriel ymateb yn gyflym iawn pan gafodd tanau eu cynnau yng nghefn y cerbydau yn Llandudno a Deganwy.
Sylwodd y criwiau ar y tanau, gan ffonio’r Gwasanaeth Tân ac Achub i’w diffodd, gan ddilyn y cerbyd yn ôl i’r depo gwastraff er mwyn sicrhau na allai’r tân ailgynnau.
Batris ïon lithiwm
Mae batrïau ïon lithiwm – sydd i’w canfod yn aml mewn gwrthrychau fêps, teganau a brwsys dannedd – yn gallu achosi tanau sy’n anodd iawn i’w diffodd.
Maen nhw’n dueddol o ailgynnau, a gallan nhw arwain at ffrwydradau a dod i gysylltiad â chemegau, gan greu perygl i’r cyhoedd, gweithwyr sbwriel a diffoddwyr tân.
Mae’n hollbwysig fod pobol yn cael gwared ar yr eitemau hyn yn gyfrifol, gan ddefnyddio gwasanaethau casglu batris gwastraff trydanol eu Cyngor lleol.
Dywed y Cynghorydd Geoff Stewart, yr Aelod Cabinet dros Gymdogaeth a’r Amgylchedd, fod modd i’r “batris gael eu gwasgu neu eu difrodi mewn lorïau bin neu safleoedd gwastraff ac achosi tanau”.
“Rydyn ni’n cynnig casgliad batris wythnosol i breswylwyr, ac mae ein partneriaid, Crest, yn casglu eitemau trydanol bach bob pythefnos,” meddai.
“Helpwch i gadw ein gweithwyr yn ddiogel os gwelwch yn dda.
“Dim ond munud mae’n ei gymryd i ailgylchu; mae’n cymryd llawer hirach i ddiffodd tân sy’n cael ei achosi pan fyddwch chi’n rhoi batri yn y bin.”