Gallai Neuadd Dewi Sant yng Nghaerdydd fod ynghau am rai misoedd yn hirach na’r disgwyl.

Roedd disgwyl i brif leoliad cerddoriaeth glasurol y brifddinas fod ynghau tan 2025, gan fod angen adnewyddu’r to.

Ond does dim caniatâd adeiladu wedi’i geisio eto, ac mae angen hwnnw cyn gallu cynnal unrhyw waith, ac felly mae’n bosib na fydd y neuadd yn agor eto tan 2026.

Dywed Cyngor Caerdydd eu bod nhw’n deall fod AMG, oedd wedi llofnodi cytundeb fis Ebrill 2024 ar gyfer y les i redeg Neuadd Dewi Sant, yn paratoi cais.

Y diweddaraf

Yng nghyfarfod llawn diweddara’r Cyngor, fe wnaeth y Cynghorydd Rodney Berman, arweinydd Grŵp y Democratiaid Rhyddfrydol, ofyn am adroddiad cynnydd ar gyfer y lleoliad.

Dywedodd y Cynghorydd Jennifer Burke, yr Aelod Cabinet â chyfrifoldeb dros Ddiwylliant, Chwaraeon a Pharciau, fod rhestru’r adeilad “wedi ymestyn y broses yn sylweddol” o ran gwaith atgyweirio, ac mai’r disgwyl yw y gallai’r gwaith gymryd deunaw mis i’w gwblhau unwaith fydd yr holl ganiatâd cynllunio wedi’i sicrhau.

Daeth archwiliad o Neuadd Dewi Sant y llynedd i’r casgliad y byddai angen adnewyddu’r to yn ei gyfanrwydd oherwydd cyflwr y paneli yn y nenfwd.

Daeth arbenigwyr i mewn i edrych ar Neuadd Dewi Sant, ar ôl i ganllawiau iechyd a diogelwch newid ar gyfer RAAC.

Mae’r deunydd yn fath o goncrid ysgafn sy’n gallu methu’n sydyn wrth heneiddio, a dim ond hyn a hyn o amser mae’n para.

Siom

Dywedodd y Cynghorydd Berman ei fod e wedi’i siomi o glywed fod ailagor Neuadd Dewi Sant ymhellach i ffwrdd na’r disgwyl.

“Ers cau fis Medi 2023, dydyn ni ddim hyd yn oed wedi gweld dechrau unrhyw waith er mwyn dechrau trwsio to Neuadd Dewi Sant,” meddai.

“Mae hyn yn achosi oedi sylweddol ac yn gorfodi digwyddiadau diwylliannol pwysig i gael eu canslo, megis Canwr y Byd y BBC, oedd i’w chynnal yno yn 2025.

“Mae hi bellach yn glir y bydd y dyddiad ailagor gwreiddiol yn cael ei wthio’n ôl yn sylweddol, gan gael effaith ar enw da Caerdydd fel canolbwynt diwylliannol Cymru.

“Am ba hyd fydd rhaid i bobol Caerdydd aros hyd nes eu bod nhw’n gallu mynychu digwyddiadau’n ddiogel yn y neuadd unwaith eto?”

Ansicrwydd

Yng nghyfarfod Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio Cyngor Caerdydd ym mis Gorffennaf, dywedodd uwch swyddog yn y Cyngor nad oedd unrhyw bryderon ynghylch amseru’r gwaith atgyweirio yn Neuadd Dewi Sant, ar ôl i’r Cynghorydd Rodney Berman godi mater diffyg gwaith atgyweirio yno.

“Mae’r Cyngor yn deall fod AMG wedi cwblhau eu harolwg a’u bod nhw’n paratoi cais ar gyfer y gwaith,” meddai’r Cynghorydd Jennifer Burke mewn datganiad yn ddiweddar.

“Ar hyn o bryd, allwn ni ddim dweud â sicrwydd pa mor hir y gall y gwaith gymryd.

“Bydd hynny’n ddibynnol ar yr hyn mae’r gwaith yn ei olygu, bod cymeradwyaeth yn cael ei sicrhau, ac yna ar amserlen AMG y byddan nhw’n cytuno arni â’r contractiwr maen nhw’n ei ddewis.

“Wrth gwrs, mae’r Cyngor yn awyddus i weld Neuadd Dewi Sant yn ailagor cyn gynted â phosib ac yn barod i ddiddanu cynulleidfaoedd am lawer iawn mwy o flynyddoedd.”