Cafodd Salvador Illa ei ethol yn Arlywydd Catalwnia dros y penwythnos, ac mae e bellach wedi cyhoeddi pwy fydd yn ei Gabinet.

Bydd y rhan fwyaf o’i weinidogion yn dod o’r Blaid Sosialaidd, gydag ambell aelod o Esquerra Republicana a Junts per Catalunya yn cefnogi’r weinyddiaeth newydd, ynghyd ag ambell aelod arall.

Dywed y bydd ei lywodraeth “yn llywodraethu er lles pawb yng Nghatalwnia”, ac y bydd yr iaith a’r diwylliant brodorol yn flaenoriaeth iddyn nhw.

I’r perwyl hwn, mae dwy adran newydd yn y llywodraeth, sef chwaraeon a pholisi ieithyddol.

Gweinidogion

Gweinidog yr Arlywyddiaeth – Albert Dalmau

Gweinidog yr Economi a Chyllid – Alícia Romero

Gweinidog Cartref a Diogelwch y Cyhoedd – Núria Parlon

Gweinidog Tiriogaethau, Tai a Thrawsnewidiad Ecolegol, a Llefarydd y Llywodraeth – Sílvia Paneque

Gweinidog Iechyd – Olga Pané

Gweinidog Hawliau a Chynhwysiant Cymdeithasol – Mónica Martínez Bravo

Gweinidog Cydraddoldeb a Ffeministiaeth – Eva Menor

Gweinidog Busnes a Llafur – Miquel Sàmper

Gweinidog Cyfiawnder ac Ansawdd Democrataidd – Ramon Espadaler

Gweinidog Amaeth, Pysgota a Da Byw – Òscar Ordeig

Gweinidog Addysg – Esther Niubó

Gweinidog Polisi Ieithyddol – Francesc Xavier Vila

Gweinidog Chwaraeon – Bernardo Álvarez

Gweinidog Ymchwil a Phrifysgolion – Núria Montserrat Pulido

Gweinidog yr Undeb Ewropeaidd a Materion Tramor – Jaume Duch