“Fyswn i ddim yn trio eto os mai fel hyn mae hi’n mynd i fod,” medd un o gystadleuwyr y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf eleni.

Fe wnaeth Wyn Bowen Harries ymgeisio yn y gystadleuaeth gyda’r ddrama gyntaf erioed iddo ei hysgrifennu.

Fe dderbyniodd o nodyn gan yr Eisteddfod yn diolch iddo am gystadlu, ac yn cynnwys sylwadau’r beirniaid.

Cafodd seremoni’r Fedal Ddrama yn Rhondda Cynon Taf ei hatal ddydd Iau (Awst 8), ond dydy’r Eisteddfod ddim wedi cynnig esboniad hyd yn hyn.

Mae golwg360 ar ddeall bod y seremoni wedi cael ei diddymu ar ôl iddi ddod i’r amlwg bod y ddrama fuddugol wedi’i hysgrifennu gan berson gwyn o safbwynt person ethnig lleiafrifol.

Wrth gael eu holi am hynny, dywedodd yr Eisteddfod Genedlaethol nad oes ganddyn nhw ddim i’w ychwanegu at y datganiad gafodd ei gyhoeddi ddydd Iau.

“Y cwbl gefais i gan yr Eisteddfod oedd pwt o nodyn yn dweud ‘Diolch i chi am gystadlu a dyma sylwadau’r beirniaid’,” meddai Wyn Bowen Harries, sydd wedi actio mewn rhaglenni megis Tipyn o Stad ac i ystod o gwmnïau theatr yng Nghymru.

Mae’r actor wedi rhannu’r feirniadaeth a’r e-bost dderbyniodd gan yr Eisteddfod gyda golwg360, gan ddweud ei fod wedi ymgeisio â drama o’r enw DNA dan y ffugenw Shrödinger.

Roedd sylwadau’r beirniaid fel a ganlyn:

Stori sy’n olrhain hanes darganfyddiad DNA, a’r fenyw wnaeth gyfrannu at y darganfyddiad. Darn uchelgeisiol o theatr sy’n cyflwyno gwyddoniaeth, a sut mae merched bob amser wedi chwarae’n ail ffidil i ddynion yn y byd gwyddonol. Cipolwg hynod ddiddorol ar ddarganfyddiad DNA, stori feiddgar a chymhellol sy’n amlygu brwydr merched i gael eu clywed. Mae’r ddrama fyd-eang hon yn chwa o awyr iach i’r theatr Gymraeg.

Mae’r cymeriadau wedi’u darlunio’n dda. Mae deialog yn heriol, ond mae cyfathrebu’r wyddoniaeth gyda’r defnydd o gauze a thafluniad o bosibl yn arwain at sioe syfrdanol yn weledol. Adroddir elfen ddynol y stori gyda hiwmor a pathos. Cymeriadau cyfareddol sy’n adrodd stori mor ganolog yn y ddynoliaeth. Sgript soffistigedig ac aeddfed, sy’n teimlo’n barod i gael ei pherfformio, a chyda llwyddiant ffilmiau fel Oppenheimer, mae’n bleser i weld uchelgais gyda themâu byd-eang yn y theatr Gymreig sy’n adrodd y straeon epig hyn, sy’n effeithio ar bob un ohonom.

‘Anhapus iawn’

Ychwanega ei fod, yn bersonol, “yn berffaith hapus” ei fod wedi cael beirniadaeth “mor wych”.

“Ond dw i’n anhapus iawn bod yr Eisteddfod wedi gwneud penderfyniad fel hyn i ddiddymu’r holl gystadleuaeth heb unrhyw fath o esboniad,” meddai wrth golwg360.

“Dyna’r unig beth ydy’r dirgelwch yma, a dydyn ni ddim callach o gwbl rŵan.

“Roeddwn i wedi sgrifennu drama ddechrau’r flwyddyn – dw i erioed wedi sgrifennu drama o’r blaen – dw i wedi sgrifennu tair sioe ar gyfer Cwmni Pendraw a rhyw fath o addasiadau ydy’r rheiny wedi bod.

“Roedd hwn yn rhywbeth hollol newydd i fi, felly fe wnes i benderfynu ei rhoi hi mewn i’r Eisteddfod, gan obeithio cael rhyw fath o feirniadaeth weddol dda.

“Dw i wedi cael fy synnu cystal beirniadaeth gefais i, a dw i’n falch iawn ohoni ac yn bwriadu cario ymlaen i drio gwneud y ddrama yma rywbryd yn y dyfodol.”

Mae nifer o bobol ar-lein wedi cwestiynu a fydd pobol yn dymuno cystadlu mewn cystadlaethau yn y dyfodol yn sgil yr ansicrwydd.

“Yr ateb i hynna yn hollol syml – na, fyswn i ddim yn trio eto os mai fel hyn mae hi’n mynd i fod,” meddai Wyn Bowen Harries wrth ymateb i hynny.

‘Esboniad ddim yn ddigon da’

Dywed Wyn Bowen Harries ei fod yn teimlo dros gystadleuwyr eraill, a’i fod yn poeni am y dramodydd ddaeth i’r brig hefyd, â chymryd bod un.

“Sensoriaeth ydy o mewn ffordd, a dydyn ni ddim yn gwybod beth ddigwyddodd a dydy’r esboniad ddim yn ddigon da gan yr Eisteddfod, a dyna’i diwedd hi yn y pendraw,” meddai.

“Mae o wedi codi trafodaeth hynod ddifyr ar Facebook, sy’n sôn am beth ddylai pobol gael sgrifennu – mae hwnna’n beth iach iawn, iawn.

“Ond mi ddylai hyn fod wedi digwydd ar faes yr Eisteddfod yn hollol agored a thryloyw, yn fy marn i, ac nid ei guddiad o’n rhywle dan y carped gan obeithio y gwneith y ffỳs fynd i ffwrdd, neu beth bynnag maen nhw yn gobeithio.

“Mae yna bob math o gwestiynau wedi cael eu codi, ac mae yna lot o gwestiynau i’w hateb.”

Mae’r Eisteddfod wedi dweud eto nad oes ganddyn nhw ddim i’w ychwanegu at y datganiad gafodd ei wneud ddydd Iau ynglŷn â’r Fedal Ddrama.

Y Fedal Ddrama a meddiannu diwylliannol honedig

Gohebydd Golwg360

Dywed yr Eisteddfod Genedlaethol nad oes ganddyn nhw ddim i’w ychwanegu at y datganiad gafodd ei gyhoeddi ddoe (dydd Iau, Awst 8)