Mae teyrngedau wedi’u rhoi i Tony Wyn Jones, un o wirfoddolwyr mwyaf ymroddedig MônFM, sydd wedi marw.

Roedd yn gweithio fel dirprwy gadeirydd am nifer o flynyddoedd cyn dod yn gadeirydd yn 2016, ac yn ystod ei gyfnod, chwaraeodd o ran allweddol wrth ehangu ardal darlledu FM a datblygu syniadau ar gyfer sioeau newydd.

Roedd ei ymrwymiad i’r orsaf radio yn “ddiderfyn”, ac roedd fan Môn FM i’w gweld yn aml yn mynychu digwyddiadau ledled yr ynys.

Roedd bob amser yn barod i fynd “y cam pellaf” er mwyn sicrhau bod MônFM yn parhau i ddarlledu.

‘Croesawgar, parod i helpu ac i roi cyfleoedd’

Un fu’n gyflwynydd ar yr orsaf yn y gorffennol yw’r newyddiadurwr Carwyn Jones.

Dechreuodd weithio i’r orsaf yn ddeunaw oed, ac ymhen ychydig roedd ganddo slot wythnosol ar yr orsaf bob dydd Llun rhwng 5-7yh.

Dywed mai Tony Wyn Jones oedd ei fentor a’i hyfforddwr, a’i fod o wedi “dysgu bob dim i fi am y radio a sut oedd darlledu yn gweithio”.

“Roedd o’n gymeriad croesawgar, parod i helpu ac yn barod i roi cyfleodd i bobol newydd oedd yn ymuno ac mae’n golled aruthrol ac yn andros o sioc,” meddai wrth golwg360.

Roedd yr orsaf radio yn agos iawn at ei galon, a dywed Carwyn Jones ei “fod o’n amlwg mai MônFM oedd ei fabi o, mewn ffordd”.

Roedd wedi ehangu’r orsaf a gwneud datblygiadau pellach gyda’r tîm, ynghyd â’r app er mwyn gwneud yn siŵr bod tonfeddi’r orsaf yn cyrraedd pob cwr o Gymru a thu hwnt.

“Roedd ei awydd o ran datblygu, ond hefyd roedd eisiau cadw’r elfen leol a’r elfen bod yr orsaf i bawb,” meddai Carwyn Jones wedyn.

“Roedd rhywun oedd eisiau gwirfoddoli yn gallu gwneud, boed y tu ôl i feicroffôn neu yn y cefndir yn helpu gyda digwyddiadau.”

‘Un mewn mil’

Yn ôl Carwyn Jones, cafodd o gryn brofiadau gyda Tony Wyn Jones, oedd o hyd yn barod i arbrofi a gwrando ar syniadau pobol eraill.

“Mi oedd o’n barod i roi cyfleodd newydd – hynny yw, o’n i’n awyddus i gyflwyno newyddion lleol ar yr orsaf a hynny yn y Gymraeg,” meddai.

“Cyn i hynny ddigwydd, cael newyddion Saesneg gan Sky oeddan ni, a wnaeth o ddweud wrtha i, ‘Go for it’, a neshi ddatblygu hynny.

“Roedd o wastad yn mynd allan o’i ffordd i roi’r cyfleoedd eraill i ni.”

Dywed mai un o’r pethau mwyaf y bydd yn ei gofio amdano yw’r sylwadau positif ac adeiladol fyddai’n eu rhoi iddo.

“Mi oedd o wastad yn barod i ddweud ei fod yn hapus fy mod wedi gallu defnyddio MônFM a’r profiadau yna i fynd ymlaen i wneud gyrfa yn y maes darlledu a radio.

“Yn bendant, roedd o’n un mewn mil.”

Teyrngedau eraill

Mewn datganiad, dywed MônFM fod Tony Wyn Jones yn “fwy na dim ond ein cadeirydd”.

“Roedd yn ffrind, yn fentor ac yn arweinydd,” medden nhw.

“Bydd ei golled yn cael ei theimlo’n ddwys gan bawb ohonom.

“Mae tîm cyfan MônFM yn estyn ein cydymdeimladau diffuant â theulu a ffrindiau Tony yn ystod yr amser anodd hwn.”

Mae negeseuon lu wedi’u cyhoeddi ar y cyfryngau cymdeithasol yn talu teyrnged iddo.

“Bob tro yr un fath ac yn ffrind ers ysgol bach,” medd un.

“Roedd Sir Fôn yn rhedeg trw’ ei waed fel inja rock.”

Dywed un arall ei bod yn “sioc fawr clywed am Tony”.

“Wedi ei gyfarfod amryw o weithiau, a mi oedd ei ymroddiad a chariad tuag at MônFM yn amlwg i’w weld.”