Rhoddodd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Rhondda Cynon Taf “lwyfan i’r iaith Gymraeg a hwb i’r economi”, yn ôl swyddogion.

Daw’r sylwadau ar ddiwedd wythnos brysur o gystadlu yn y Pafiliwn a chyngherddau a digwyddiadau di-ri ar faes yr Eisteddfod ym Mharc Ynysangharad ym Mhontypridd.

Dywed Helen Prosser, cadeirydd y Pwyllgor Gwaith, fod miloedd o bobol wedi tyrru i’r Maes drwy gydol yr wythnos a bod llawer ohonyn nhw’n ymweld â’r Eisteddfod am y tro cyntaf.

“Rwyf wedi cyfarfod teuluoedd gafodd docynnau drwy gynllun y llywodraeth ar gyfer teuluoedd ac wedi dod yn ôl sawl diwrnod wedi hynny, ac mae hynny yn beth mor bositif, gan helpu, gobeithio, cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050,” meddai.

“Rydym wedi gweld y Gymraeg yn cael lle amlwg ym Mhontypridd a Rhondda Cynon Taf a bod bobol wrth eu boddau dod yma i flasu’r Gymraeg, ein diwylliant ac i weld fod hwn yn perthyn i ni gyd.

“Gellid dweud fod y gwaith yn cychwyn i gadw’r bobol hyn gyda ni, ond hefyd beth sydd wedi bod yn bleser i mi yw gweld y bobol sydd eisioes gam ymhellach ar y daith ac wedi dechrau dysgu (Cymraeg) ac yn gwirfoddoli ym mhob twll a chornel.

“Mae gennym fwriad i gynnal rhyw fath o ffair yn yr hydref, lle byddwn yn gobeithio y bydd y bobol hyn yn parhau i wirfoddoli ond hefyd, trwy ymbarél y fenter iaith leol ddod i wybod mwy am y cyfleoedd eraill sydd ar gael,” meddai.

Ychwanega fod busnesau Pontypridd “wrth eu boddau”, a bod Trafnidiaeth Cymru wedi cludo dros 50,000 o deithwyr ar eu trenau i orsaf Pontypridd.

“Maen nhw wedi bod yn brysur drwy’r wythnos, ac mae Eisteddfodwyr wedi eu cefnogi,” meddai wedyn.

“Roedd gennym bryderon yr wythnos ddiwethaf am drafnidiaeth, ond nid ydym wedi cael cwynion.

“Mae’r cynlluniau wedi gweithio’n ardderchog.

“Rydym wedi gweld y ddau beth roeddem eisiau yn deillio o’r Eisteddfod – llwyfan i’r iaith Gymraeg a hwb i’r economi.”

Edrych tua Wrecsam

Fe fydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yn Wrecsam, ardal drefol arall, yn 2025.

Wrth longyfarch criw Eisteddfod Rhondda Cynon Taf am “wythnos wych”, dywed Llinos Roberts, cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol 2025, fod “y bwrlwm wedi dechrau’n barod” yn Wrecsam.

Ychwanega fod ganddi “dîm da” o bobol yn paratoi ar gyfer y flwyddyn nesaf yn y gogledd-ddwyrain, gan nodi bod gwersi i’w dysgu wrth feddwl am yr Eisteddfod nesaf.

“Mae wedi bod yn arbrawf gwneud Eisteddfod yn y parc ac yn ymyl y dre,” meddai.

“Dw i’n meddwl bod hi wedi bod yn arbrawf sy’n gweithio’n arbennig o dda.”

Ei gobaith ydy cynnig Eisteddfod “gynhwysfawr” yn y gogledd, gan “efelychu” polisi Rhondda Cynon Taf o geisio denu siaradwyr Cymraeg newydd.

Daeth yr Eisteddfod i Wrecsam yn 2011, ond ers hynny fe fu newidiadau mawr yn y ddinas a bydd rhaid adlewyrchu hynny, meddai.