Mae’r eitem yma’n rhoi cyfle i siaradwyr newydd adolygu eu hoff raglenni ar S4C gan ddweud beth sydd wedi helpu nhw ar eu taith i ddysgu Cymraeg.

Y tro yma, Mark Pers, sy’n byw ger Manceinion, sy’n adolygu’r rhaglen arbennig Am Dro! Steddfod! sy’n edrych ar ardal Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf.

Mae Mark wedi bod yn dysgu Cymraeg ers 2021. Dechreuodd ddysgu gyda Duolingo ac mae’n astudio cwrs Canolradd ar-lein trwy Popeth Cymraeg ar hyn o bryd. Mark yw colofnydd Ar y Bocs i gylchgrawn Lingo Newydd…


Mark, beth wnest ti ei fwynhau am y rhaglen?

Fel llawer o bobol, mae Am Dro! yn un o fy hoff raglenni teledu ar S4C. Ond mae’r bennod hon yn arbennig o ddiddorol a pherthnasol, am ei bod yn dangos Rhondda Cynon Taf, cartref yr Eisteddfod Genedlaethol eleni. Mae’r bennod hon yn gyfle i ddarganfod mwy am hanes, tirweddau a chymeriadau’r ardal. O’r dreftadaeth ddiwydiannol bwysig i Barc Ynysangharad ym Mhontypridd – safle’r Maes – mae ‘na lawer i’w weld.

Beth wyt ti’n feddwl o’r cyflwynwyr?

Fel arfer, mae’r cyflwynydd, Aled Samuel, yn cadw llygad agos ar y digwyddiadau gyda’i hiwmor sych. Peidiwch â cheisio twyllo gyda’r marciau, bydd Aled wastad yn sylwi!

Ydyn nhw’n siarad iaith y de neu’r gogledd?

Mae tri o’r pedwar cystadleuydd yn y bennod yma yn dod o’r Rhondda, heblaw un sy’n dod o Wynedd yn wreiddiol. Mae’n ddiddorol clywed y cystadleuwyr yn siarad am y Gymraeg a pham mae’n bwysig iddyn nhw. ‘Dyn ni’n dysgu mwy am hanes yr iaith yn yr ardal a phwysigrwydd addysg cyfrwng Cymraeg yn y Cymoedd.

Beth wyt ti ddim yn hoffi am y rhaglen?

Heblaw am y brechdanau corned beef chwyslyd, dim byd! Mae’r bennod hon yn gyflwyniad gwych i Rondda Cynon Taf, ac mae mor braf i weld y balchder ymhlith y bobl leol am eu bro a chymaint mae’n ei olygu iddyn nhw bod yr Eisteddfod yn cael ei chynnal yno. Fel yr Eisteddfod ei hunan, mae’r rhaglen hon yn gyfle i ddangos yr ardal i weddill Cymru.

Pam mae’r rhaglen yn dda i bobl sy’n dysgu Cymraeg?

Mae fformat y sioe yn hawdd i’w ddilyn, felly mae pawb yn gallu cadw fyny gyda beth sy’n mynd ymlaen. Mae ‘na lot o sgyrsiau naturiol yn y rhaglen, felly mae dysgwyr yn gallu ymarfer eu sgiliau gwrando.

Faset ti’n awgrymu i bobl eraill wylio’r rhaglen?

Yn bendant. Mae Rhondda Cynon Taf yn ardal ddiddorol iawn, ac mae’n braf gweld bod cymaint o bobl wedi mynd i fwynhau’r Eisteddfod eleni.

Mae Am Dro! Steddfod! ar gael i’w gwylio ar S4C Clic a BBC iPlayer. 

Dach chi eisiau ysgrifennu adolygiad o’ch hoff raglen ar S4C? Anfonwch e-bost at bethanlloyd@golwg.cymru