Bydd tri chyfansoddwr yn ymarfer gyda cherddorion proffesiynol ar gyfer perfformiad cyntaf darnau gafodd eu cyfansoddi ar gyfer cystadleuaeth Tlws y Cyfansoddwr yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn ddiweddarach ddydd Sadwrn (Awst 10).

Caiff y Tlws ei gyflwyno i’r cyfansoddwr mwyaf addawol ar gyfer cyfansoddiad i ensemble siambr, gan ddefnyddio delweddau o Rhondda Cynon Taf fel ysbrydoliaeth.

Cafodd Lowri Mair Jones, enillydd y Tlws y llynedd yn Llŷn ac Eifionydd, Nathan James Dearden a Tomos Williams eu dewis i gydweithio gyda’r cyfansoddwr John Rea a phedwarawd o Sinfonia Cymru i greu cyfansoddiadau newydd ers dechrau’r flwyddyn, a chaiff eu gweithiau eu perfformio am y tro cyntaf heno.

Yn ôl Tomos Williams, cerddor profiadol ym myd jazz a cherddoriaeth werin, mae’r profiad wedi bod yn fuddiol iawn iddo.

“Dw i’n gerddor jazz fwy na chlasurol, ac mae’r offeryniaeth yma’n hollol wahanol,” meddai.

“Wnes i gynnig am y profiad i dyfu’n gerddorol ac i wneud rhywbeth yn wahanol.

“Mae wedi bod yn bleser cydweithio gyda’r ddau gyfansoddwr arall, y beirniad a’r cerddorion sy’n chwarae’r piano, ffidil, clarinét a cello, a chawn weld sut aiff pethau.”

Tomos Williams

Daw Tomos Williams o Aberystwyth, ond mae bellach yn byw yng Nghaerdydd ac mae wedi bod yn perfformio fel trwmpedwr ers dros ugain mlynedd.

Perfformiodd gyda’r band gwerin Fernhill a magu diddordeb byw yng ngherddoriaeth draddodiadol Cymru.

Recordiodd gyda’r delynores deires Llio Rhydderch, a sefydlodd y bandiau Burum a Khamira sy’n cyfuno alawon gwerin Cymru â jazz.

Esgorodd y profiad yma o drefnu alawon gwerin ar gyfer band jazz ar ddyhead i gyfansoddi cerddoriaeth wreiddiol, fwy heriol ac avant-garde, felly dechreuodd y prosiect Cwmwl Tystion sydd yn ymchwilio i hanes, hunaniaeth a diwylliant Cymru.

Mae hefyd yn cyflwyno cyfresi ar BBC Radio Cymru ac yn aelod o’r ‘Barry Horns’, sydd yn chware fel rhan o’r Wal Goch yn ystod gemau pêl-droed Cymru.

Lowri Mair Jones

Ategodd Lowri Mair Jones sylwadau Tomos Williams.

Hi gipiodd Dlws Y Cerddor yn Eisteddfod Genedlaethol 2023.

“Penderfynais, ar ôl 20 mlynedd o beidio â chyfansoddi, ymgeisio a chefais sioc o ennill,” meddai.

“Ond sbardunodd hyn imi gymryd cyfansoddi yn fwy o ddifri.

“Ceisiais y tro hwn i gael mwy o brofiad o gydweithio gyda cherddorion a phobol newydd, ac mae wedi bod yn fraint ac yn bleser bod yn rhan o’r gystadleuaeth hon.”

Cafodd ei geni ym Mhontypridd, a chafodd ei gwersi offerynnol cyntaf yn Ysgol Gynradd Pont Siôn Norton.

Bu’n ffodus iawn i ddysgu’r piano, ffidil a thelyn.

Yn Ysgol Gyfun Rhydfelen y daeth i ddechrau cyfansoddi am y tro cyntaf.

Astudiodd radd mewn cerddoriaeth ym Mhrifysgol Manceinion, ac yna cwrs Meistr mewn cyfansoddi.

Ar ôl gweithio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ac yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, hi sy’n cydlynu’r cystadlaethau cenedlaethol BBC Young Musician a BBC Young Jazz Musician.

Mae hi’n aelod o Gôr Godre’r Garth, ac yn chwarae’r ffidil a’r delyn yng Ngherddorfa Symffoni’r Rhondda.

Nathan James Dearden

Mae Nathan James Dearden o Donyrefail yn y Rhondda yn gyfansoddwr, arweinydd ac addysgwr.

Mae ei gerddoriaeth wedi cael ei pherfformio a’i chynnwys gan lawer o gerddorfeydd mwyaf blaenllaw Ewrop, ac mae ei gerddoriaeth yn ymddangos yn rheolaidd mewn cyngherddau ledled y Deyrnas Unedig a thramor.

“Roeddwn mor hapus i gael fy newis ac i gydweithio gyda chyfeillion,” meddai.

“Mae’r broses yn ddiddorol iawn, a dw i heb wneud dim byd tebyg o’r blaen.

“Rydym wedi cydweithio a chynorthwyo ein gilydd, ac mae hynny’n arbennig iawn.”

Ar hyn o bryd, mae’n ddarlithydd mewn Cyfansoddi Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Royal Holloway yn Llundain, yn arweinydd y Consort Lleisiau Newydd, yn gadeirydd Cyngor Cymru ac yn fentor gydag Academi Ivor.

Ymhlith y prosiectau sydd ar y gweill ganddo mae lleoliad Passion, sy’n cyfuno côr, ensemble siambr ac adrodd straeon digidol ymdrechol mewn partneriaeth â Chôr Royal Holloway.

Bydd eu darnau, sydd oddeutu wyth munud o hyd yr un, yn cael eu chwarae yn y Pafiliwn am 6:30 heno (nos Sadwrn, Awst 10).

Caiff enw’r enillydd ei gyhoeddi ar ddiwedd y seremoni gyda chyflwyno’r Tlws a’r wobr ariannol.

Caiff y gystadleuaeth ei chynnal mewn cydweithrediad â Tŷ Cerdd, Sinfonia Cymru a Chymdeithas Cerddoriaeth Cymru.