Mae disgyblion ar hyd a lled Cymru’n derbyn canlyniadau Lefel A heddiw (dydd Iau, Awst 15).
Eleni yw’r flwyddyn gyntaf i arholiadau gael eu graddio fel oedden nhw cyn y pandemig.
Gostyngodd y graddau uchaf ar gyfer Lefel A yng Nghymru’r llynedd am yr ail flwyddyn yn olynol.
Roedd canran y graddau A ac A* yn 34% y llynedd, o gymharu â 40.9% yn 2022.
Ond roedd y canlyniadau ar gyfer y ddwy flynedd hynny’n uwch nag yr oedden nhw cyn y pandemig.
Dywed Laura Doel, ysgrifennydd cyffredinol undeb arweinwyr ysgolion NAHT Cymru, y bydd hi’n “annefnyddiol” cymharu’r canlyniadau eleni â rhai’r llynedd.
“Ynghyd â chydnabod eu llwyddiannau, mae’r canlyniadau mae disgyblion yn ei derbyn heddiw yn basbort i gam nesaf eu bywydau,” meddai.
“Beth bynnag fo’u graddau a’u gobeithio am y dyfodol, mae cymaint o opsiynau ar gael iddyn nhw, boed hynny’n cynnwys astudio, hyfforddiant neu gyflogaeth.
“Mae’r graddio eleni wedi digwydd fel yr oedd cyn y pandemig, felly dyw cymariaethau simplistig â chanlyniadau’r llynedd ddim help.
“Fe wnaeth y pandemig achosi amhariadau tymor byr mawr i raddio – a dyw’r ffigurau mewn penawdau ddim yn rhoi stori llawn profiadau disgyblion na’u hysgolion a cholegau.
“Mae pobol ifanc wedi gweithio’n eithriadol o galed drwy’r amharu wnaethon nhw ei wynebu ar ddechrau’r degawd i gyrraedd y pwynt hwn.”
‘Edrych ymlaen at y cam nesaf’
Wrth sôn am ddiwrnod canlyniadau Safon Uwch, mae Amanda Wilkinson, Cyfarwyddwr Prifysgolion Cymru, yn llongyfarch yr holl ddisgyblion.
“Mae hwn yn ddiwrnod hollbwysig i fyfyrwyr, a dylent fod yn falch o’r hyn maen nhw wedi’i gyflawni, ac o’r gwaith caled a’r ymroddiad sydd wedi dod â nhw i’r cam hwn,” meddai.
“Gall myfyrwyr nawr edrych ymlaen at gam nesaf eu taith, a fydd i lawer yn golygu astudio yn y brifysgol.
“Gall mynd i’r brifysgol fod yn brofiad gwirioneddol drawsnewidiol; un sy’n agor drysau, yn ehangu gorwelion, ac yn grymuso unigolion i gyrraedd eu llawn botensial.
“Gall myfyrwyr sy’n ymuno â phrifysgolion Cymru yn yr hydref fod yn sicr o gael profiad o ansawdd uchel gyda myfyrwyr yn ganolog iddo, ac un sy’n rhoi pob cymorth iddyn nhw gyflawni eu huchelgeisiau.
“I’r rhai sy’n dal heb benderfynu neu efallai na chawsant y canlyniadau yr oeddent wedi gobeithio amdanynt, mae llawer o opsiynau yng Nghymru ar gael trwy’r system glirio.
“Mae gan ein prifysgolion gynghorwyr yn aros i weithio gyda darpar fyfyrwyr a thrafod yr opsiynau sydd ar gael iddynt.”
Penderfynodd 13% o ddisgyblion Blwyddyn 13 fynd yn syth i gyflogaeth yn 2023.
‘Llwyth o opsiynau’
Mae llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig wedi llongyfarch disgyblion hefyd, ac wedi canmol athrawon a staff cefnogi am eu gwaith.
“Mae llwyddo er gwaethaf toriadau Llafur i gyllideb addysg, newid i’r cwricwlwm a gostyngiad mewn niferoedd athrawon yn destament i bendantrwydd a llwyddiant staff,” meddai Tom Giffard.
“I’r holl ddisgyblion hynny, mae llwyth o opsiynau ar gael, gan gynnwys y brifysgol, prentisiaethau a’r farchnad swyddi.”